Cynllun Corfforaethol 3 Blynedd: Ein hamcanion
Mae'r cynllun hwn yn nodi sut y byddwn yn troi cenhadaeth a gweledigaeth ein strategaeth yn gamau gweithredu cadarn.
Yn ogystal â sefydlu ein huchelgais, mae’r cynllun hwn yn nodi sut y byddwn yn troi cenhadaeth a gweledigaeth ein strategaeth yn gamau gweithredu cadarn. Mae’n gosod amcanion clir ar gyfer y 3 blynedd nesaf. Mae’r amcanion hyn yn darparu fframwaith ar gyfer gweithgareddau manylach (gweler atodiad 1) sy’n llywio ein cynlluniau busnes blynyddol. Wrth gyflawni’r amcanion hyn, byddwn yn cymhwyso’r egwyddorion arweiniol a ddisgrifiwyd gennym yn fanwl yn ein strategaeth.
Mae ein strategaeth yn nodi pum rôl sydd gan yr ASB o ran darparu bwyd y gallwch ymddiried ynddo. Y rolau hyn yw cynhyrchydd tystiolaeth, lluniwr polisi, rheoleiddiwr, corff gwarchod, a chynullydd a chydweithredwr. Mae’r cynllun hwn yn adeiladu ar y pum rôl hyn gydag amcanion ynghlwm wrth bob rôl.
Siart lif werdd yn nodi blaenoriaethau'r cynllun tair blynedd.
Bydd ein strategaeth yn cael ei chyflawni drwy barhau i wneud ein gwaith craidd yn dda, wrth gyflawni rhai newidiadau sylweddol hefyd. Mae angen i ni gael y cydbwysedd cywir ac felly mae amcanion craidd a newidiadau i’w cyflawni wedi’u nodi o dan ein tair rôl sefydledig – sef cynhyrchydd tystiolaeth, lluniwr polisi a rheoleiddiwr. Mae’r ddwy rôl sy’n weddill – corff gwarchod, a chynullydd a chydweithredwr – yn llai sefydledig ac yn feysydd yr hoffem eu tyfu.
Rydym hefyd wedi ychwanegu rôl ychwanegol o’r enw galluogwr. O dan y rôl hon rydym wedi nodi’r gwaith pwysig, ond mewnol yn bennaf, sy’n ein helpu i gyflawni’r holl amcanion eraill.
Cynhyrchydd tystiolaeth, lluniwr polisi a rheoleiddiwr
Mae tair rôl gyntaf yr ASB yn cynrychioli’r rhan fwyaf sefydledig o’n gwaith, a’n cyfrifoldebau statudol. Dyma lle y bydd y mwyafrif o’n hadnoddau yn parhau i fod.
Mae ein rolau cynhyrchydd tystiolaeth, lluniwr polisi a rheoleiddiwr yn canolbwyntio’n bennaf ar fwyd sy’n ddiogel ac sy’n cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, gyda nifer dethol o weithgareddau’n cyfrannu at fwyd sy’n iachach ac yn fwy cynaliadwy (gan gynnwys ein cylch gwaith polisi maeth yng Ngogledd Iwerddon ac wrth weithio yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Cynhyrchydd tystiolaeth
Fel cynhyrchydd tystiolaeth, rydym yn cynhyrchu tystiolaeth wyddonol gadarn ac yn croesawu mewnbwn, craffu a heriau gan arbenigwyr a rhanddeiliaid eraill.
Amcan craidd cynhyrchydd tystiolaeth: Sicrhau bod ein penderfyniadau’n seiliedig ar wyddoniaeth a thystiolaeth, a rhannu’r dystiolaeth hon i hysbysu a dylanwadu ar eraill (defnyddwyr, busnesau a llunwyr polisi).
Amcan newid cynhyrchydd tystiolaeth: Adeiladu tystiolaeth, gan gynnwys trwy wyddoniaeth ac ymchwil, fel y gallwn ragweld cyfleoedd a risgiau ar draws system fwyd y DU.
Yn rhinwedd ein gwaith fel cynhyrchydd tystiolaeth, byddwn yn:
- darparu gwyddoniaeth a thystiolaeth gadarn sy’n llywio ein penderfyniadau a’n cyngor, gan helpu i reoli risg ynghylch diogelwch a dilysrwydd bwyd a helpu i wneud bwyd yn iachach ac yn fwy cynaliadwy
- sicrhau bod ein tystiolaeth a’n gwaith dadansoddi ar gael i’w defnyddio ymhellach gan y gymuned wyddoniaeth, adrannau eraill o’r llywodraeth a rhanddeiliaid ehangach i gefnogi eu penderfyniadau eu hunain
- deall newidiadau mewn technoleg bwyd, modelau busnes ac agweddau defnyddwyr fel y gallwn asesu risgiau newidiol yn effeithiol
- cynyddu ein cyfraniad at fwyd sy’n iachach ac yn fwy cynaliadwy
Drwy ein tystiolaeth, rydym yn gwella’r gwaith o wneud penderfyniadau rheoleiddio, gan leihau risg yn y system fwyd fel y gall defnyddwyr fod yn sicr ac yn hyderus bod y system fwyd yn cynnal diogelwch a dilysrwydd bwyd.
Lluniwr polisi
Fel lluniwr polisi, rydym yn sicrhau bod y corff o ganllawiau, rheolau a rheoliadau sy’n bodoli – yn genedlaethol, yn rhyngwladol ac ar lefel ddatganoledig – yn darparu bwyd y gallwch ymddiried ynddo.
Amcan newid lluniwr polisi: Creu dull rheoleiddio cymesur, effeithiol ac effeithlon sy’n canolbwyntio ar y dyfodol drwy’r broses dadansoddi risg a gwasanaeth cynhyrchion rheoleiddiedig, sy’n diogelu defnyddwyr ac yn dileu rhwystrau i arloesi.
Ein meysydd cyfrifoldeb polisi:
Dangosir ein cylch gwaith polisi ar draws Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr uchod. Rydym yn gyfrifol am bolisïau o ran diogelwch a hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid, sy’n cynnwys gorsensitifrwydd i fwyd ledled Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr. Yn ogystal, rydym yn gyfrifol am bolisïau o ran safonau cyfansoddiadol a labelu yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, ac am safonau maeth, labelu ac iechyd a gwyliadwriaeth ddietegol yng Ngogledd Iwerddon yn unig.
Yn rhinwedd ein gwaith fel lluniwr polisi, byddwn yn:
- cynghori gweinidogion am risgiau sy’n ymwneud â diogelwch a safonau bwyd a bwyd anifeiliaid, ac am fuddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd yn seiliedig ar y dystiolaeth wyddonol orau sydd ar gael
- gweithredu fel lluniwr polisi tryloyw, annibynnol sy’n seilio’i bolisïau ar dystiolaeth, gan olygu bod ein cyngor yn seiliedig ar gorff o ganllawiau, rheolau a rheoliadau yn genedlaethol, yn rhyngwladol ac ar lefel ddatganoledig
Mae hyn yn golygu y gall defnyddwyr fod yn hyderus bod y rheolau sy’n llywodraethu’r system fwyd yn sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label.
Rheoleiddiwr
Rydym yn rheoleiddio rhai rhannau o’r system fwyd yn uniongyrchol, gyda’n staff a’n contractwyr yn darparu rheolaethau o ran cynhyrchu cig, cynnyrch llaeth cynradd a gwin. Rydym yn rheoleiddio rhannau eraill o’r diwydiant yn anuniongyrchol, gan weithio gydag awdurdodau lleol sy’n arolygu busnesau lleol sy’n gwerthu bwyd. Ni sy’n gosod y fframwaith arolygu, sy’n darparu cyngor ac arweiniad ac sy’n monitro perfformiad. Rydym yn gwneud yr un peth ar gyfer awdurdodau iechyd mewn porthladdoedd, sy’n arolygu mewnforion bwyd. Rydym hefyd yn darparu canllawiau ar gyfer busnesau bwyd.
Amcan craidd rheoleiddiwr: Cyflawni ein cyfrifoldebau rheoleiddiol i alluogi busnesau bwyd a bwyd anifeiliaid i gydymffurfio â’r rheolau fel bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label.
Amcan newid rheoleiddiwr: Diwygio’r fframwaith rheoleiddio diogelwch bwyd i roi sicrwydd mwy cymesur sy’n seiliedig ar risg.
Yn rhinwedd ein gwaith fel rheoleiddiwr, byddwn yn:
- monitro a sicrhau cydymffurfiaeth â’r rheolau, a hynny’n uniongyrchol neu gan weithio trwy awdurdodau gorfodi eraill
- ymateb yn effeithiol pan aiff rhywbeth o’i le a pharatoi ar gyfer hyn a’i atal cyn belled ag y bo modd
- sicrhau ein bod yn deall sut mae’r system fwyd yn gweithio yn erbyn y safonau a osodwyd gennym
- hwyluso pethau i fusnesau er mwyn iddynt allu cyflawni eu rhwymedigaethau a gwneud y peth iawn
Mae hyn yn golygu bod defnyddwyr yn gallu bod yn hyderus bod busnesau bwyd yn dilyn y rheolau sydd ar waith i sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label.
Corff gwarchod, cynullydd a chydweithredwr
Mae pedwaredd a phumed rôl y strategaeth – corff gwarchod, a chynullydd a chydweithredwr – yn cynrychioli meysydd lle rydym am ehangu ein rôl a gwneud mwy.
Bydd hyn yn cynnwys gwaith a fydd yn helpu i gyflawni pob un o dair elfen ein gweledigaeth, sef bod bwyd yn ddiogel, bod bwyd yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, a bod bwyd yn iachach ac yn fwy cynaliadwy.
Corff gwarchod, cynullydd a chydweithredwr
Amcan corff gwarchod: Siarad yn gyhoeddus am feysydd o ddiddordeb i ddefnyddwyr er mwyn annog safonau bwyd uchel yn y DU.
Yn rhinwedd ein gwaith fel corff gwarchod, byddwn yn:
- monitro tueddiadau ar draws y system fwyd a helpu i nodi cyfleoedd sy’n dod i’r amlwg, materion a risgiau posib i ddefnyddwyr, a fydd yn galluogi’r ASB, ac eraill ar draws y llywodraeth, y diwydiant a chymdeithas sifil i gymryd camau lle y bo’n briodol
- defnyddio ein hannibyniaeth, ein llais a’n tystiolaeth i rannu gwybodaeth a pherswadio eraill, a hynny’n gyson yn unol â’n hegwyddor o fod yn llais dibynadwy ar safonau bwyd, sy’n diogelu buddiannau defnyddwyr.
Mae hyn yn golygu bod defnyddwyr yn gallu bod yn hyderus bod yr ASB yn siarad o blaid eu buddiannau ac yn annog eraill i weithio gyda ni i fynd i’r afael â phroblemau a allai effeithio ar ddiogelwch bwyd a ph’un a yw’n cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label. Mae hefyd yn ein galluogi i nodi cyfleoedd i gyfrannu at fwyd sy’n iachach ac yn fwy cynaliadwy.
Amcan cynullydd a chydweithredwr: Gweithio mewn partneriaethau ar draws y system fwyd i fynd i’r afael â phroblemau sy’n effeithio ar ddefnyddwyr a busnesau.
Dim ond un o’r gweithredwyr yn y system fwyd yw’r ASB.
Yn rhinwedd ein gwaith fel cynullydd a chydweithredwr, byddwn yn:
- gweithio mewn partneriaeth â rhannau eraill o’r llywodraeth (gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, Safonau Bwyd yr Alban ac awdurdodau lleol), ein partneriaid cyflenwi, diwydiant a chymdeithasau defnyddwyr i gyfuno ein galluoedd, ein hadnoddau a’n mewnwelediadau
cynnull rhanddeiliaid systemau bwyd i ystyried ac ymateb i bryderon neu broblemau yn y system fwyd
Mae hyn yn golygu bod defnyddwyr yn gallu bod yn hyderus ein bod yn gweithio gydag amrediad eang o bartneriaid i gyflawni mwy nag y gallem ar ein pen ein hunain i ddarparu bwyd sy’n ddiogel ac sy’n cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label. Mae hefyd yn ein helpu i nodi cyfleoedd i gyfrannu gydag eraill at sicrhau bwyd sy’n iachach ac yn fwy cynaliadwy.
Galluogwr
Mae’r rolau a ddisgrifir yn ein strategaeth yn canolbwyntio ar ein gwaith allanol i sicrhau bod yna fwyd y gallwch ymddiried ynddo. Fodd bynnag, ni allai hyn ddigwydd heb y cyfraniadau sylweddol gan ein swyddogaethau galluogi sy’n caniatáu i’n sefydliad weithredu.
Felly, mae gan y cynllun hwn rôl ychwanegol, sef rôl alluogi, sy’n adlewyrchu’r gwaith y mae angen i ni ei gyflawni yn y maes hwn dros y tair blynedd nesaf.
Amcan galluogwr: Darparu’r bobl, yr adnoddau a’r prosesau sydd eu hangen i gyflawni ein hamcanion a’n blaenoriaethau corfforaethol.
Yn rhinwedd ein gwaith fel galluogwr, byddwn yn:
- cyflwyno a gwella swyddogaethau ategol fel cyllid, adnoddau dynol a diwylliant, masnach a thechnoleg, yn ogystal â sgiliau arbenigol ym maes cyfathrebu, y gyfraith, rheoli a strategaeth prosiectau a rhaglenni, sy’n ofynnol er mwyn i’n sefydliad redeg yn effeithiol
gwneud y defnydd gorau o wasanaethau digidol a data i ddiwallu anghenion defnyddwyr mewnol a chyhoeddus
Mae hyn yn sicrhau bod pob rhan o’n sefydliad wedi’i harfogi i gyflawni ein hamcanion a sicrhau bod bwyd yn ddiogel, yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, a’i fod yn iachach ac yn fwy cynaliadwy.
Gweler atodiad 1 am weithgareddau penodol manylach i gyflawni pob amcan, fesul blwyddyn.
Hanes diwygio
Published: 10 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 11 Gorffennaf 2023