Cyngor Adran 42 ar y Cyd gan yr ASB ac FSS: Ymaelodaeth y DU â CPTPP (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel)
Cyngor Adran 42 ar y Cyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS) ar Gytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel.
1. Cyflwyniad
1.1 Fel Awdurdodau Diogelwch Bwyd y DU sydd â dyletswydd statudol i ddiogelu diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid (footnote 1) a buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd a bwyd anifeiliaid ar draws y pedair gwlad, ar 17 Gorffennaf 2023, gofynnodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach (DBT) i’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS) ddarparu cyngor ar y cyd ar ymaelodaeth y DU â Cytundeb Masnach Rydd Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel (CPTPP) (footnote 2), fel y’i llofnodwyd ar 16 Gorffennaf 2023 gan bartïon y DU a CPTPP.
1.2 Mae CPTPP yn floc masnachu sy’n cynnwys 11 aelod, a sefydlwyd gan Awstralia, Brunei, Canada, Chile, Japan, Malaysia, Mecsico, Seland Newydd, Periw, Singapore a Fietnam ar 8 Mawrth 2018. Felly daeth y DU yn aelod o Gytundeb presennol, fel y’i nodwyd gan ei aelodau sefydlu, heb fawr o le i ddiwygio testun y cytundeb, yn hytrach na bod wedi negodi holl destun y cytundeb o’i gychwyn fel Cytundebau Masnach Rydd diweddar eraill.
1.3 Fel rhan o’r broses gadarnhau, bydd y Cytundeb Masnach Rydd yn cael ei osod yn ffurfiol gerbron Senedd y DU at ddibenion craffu o dan Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethu 2010 (footnote 3). Cyn hyn, er mwyn llywio gwaith craffu seneddol, bydd adroddiad Adran 42 Llywodraeth y DU yn darparu asesiad i weld a yw’r mesurau yn y Cytundeb Masnach Rydd sy’n gymwys i fasnachu mewn cynhyrchion amaethyddol yn gyson â’r angen i gynnal lefelau diogelwch statudol y DU mewn perthynas â bywyd neu iechyd pobl, anifeiliaid neu blanhigion, lles anifeiliaid a’r amgylchedd, neu i ba raddau y maent yn gwneud hynny.
1.4 Yn benodol, gofynnodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach mewn llythyr i’r ASB ac FSS ar 17 Gorffennaf 2023 , yn unol ag adran 42(4) o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 (footnote 4), ddarparu cyngor ynghylch a yw’r mesurau yng Nghytundeb Masnach Rydd CPTPP yn gyson â chynnal lefelau diogelwch statudol y DU ar gyfer iechyd pobl mewn perthynas â’r meysydd o fewn cylch gorchwyl statudol yr ASB ac FSS, ac i ba raddau y maent yn gwneud hynny. Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r cyngor ar y cyd rhwng yr ASB a’r FSS sydd i’w atodi i Adroddiad Adran 42 y Llywodraeth.
1.5 Fel Awdurdodau Diogelwch Bwyd annibynnol y DU, mae’r ASB ac FSS yn cydnabod bod cynnal safonau diogelwch bwyd uchel y DU a chael trefniadau craffu cadarn ar waith ar gyfer asesu effeithiau cytundebau masnach ar iechyd pobl yn bwysig i ddefnyddwyr a rhanddeiliaid. Mae tystiolaeth a gyflwynwyd i’r ASB ac FSS gan randdeiliaid wedi amlygu pedwar prif faes sy’n peri pryder – safonau cynhyrchu bwyd; ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR); defnyddio plaladdwyr; a chyfwerthedd. Wrth ymateb i’r pryderon hyn, mae ein cyngor wedi canolbwyntio ar agweddau perthnasol ar Gytundeb Masnach Rydd CPTPP i benderfynu a yw’r Cytundeb Masnach Rydd hwn yn cynnal mesurau diogelu statudol diogelwch bwyd presennol yn unol â deddfwriaeth y DU, gan nodi bod rhai o’r materion hynny y tu allan i gylch gorchwyl yr ASB ac FSS.
1.6 Mae’n werth nodi’r cyd-destun, sef bod cynhyrchion bwyd sy’n cael eu mewnforio i’r DU ar hyn o bryd gan wledydd CPTPP eisoes yn cael eu monitro ar y ffin gan awdurdodau cymwys sy’n cynnal Rheolaethau Swyddogol gyda goruchwyliaeth gan yr ASB, FSS a Llywodraeth y DU a’r Llywodraethau Datganoledig. Bydd hyn yn parhau i fod yn wir o dan Gytundeb Masnach Rydd CPTPP. Yn ogystal â goruchwylio gwiriadau arferol, bydd yr ASB ac FSS yn dal i allu gosod cyfyngiadau a mesurau diogelu brys ar fewnforion os bydd angen, ochr yn ochr â gweithio gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) i gynnal asesiadau ar gyfer ceisiadau mynediad i’r farchnad newydd, gan gynnwys ceisiadau gan wledydd CPTPP.
1.7 Canada oedd y wlad CPTPP a allforiodd y mwyaf o fwyd a bwyd anifeiliaid i’r DU yn 2022, gyda 1,282,000 o dunelli, a’r prif fewnforion oedd grawnfwydydd a grawn (1,036,481 o dunelli). I nodi’r cyd-destun, yn 2022 roedd Canada yn y deuddegfed safle yn fyd-eang ar gyfer mewnforio bwyd a bwyd anifeiliaid i’r DU. Ar ôl Canada, y prif wledydd CPTPP sy’n mewnforio i’r DU oedd Awstralia (337,000 o dunelli) a Chile (217,000 o dunelli). Y nwyddau sydd â’r cyfaint uchaf o allforion i’r DU o wledydd CPTPP yw gwenith a meslin, ac indrawn (523,522 a 509,138 o dunelli yn y drefn honno) o Ganada a rêp erucig isel neu hadau colza (89,300 o dunelli) o Awstralia (footnote 5). Amcangyfrifir y bydd y nwyddau a fewnforir i’r DU o wledydd CPTPP yn tyfu 29.2% yn absenoldeb y Cytundeb rhwng 2021-2040. Yn ôl data Llywodraeth y DU, rhagwelir y bydd mynediad y DU i CPTPP yn rhoi hwb o 4.2% pellach i fewnforion dros amser (footnote 6). Os bydd hyn yn digwydd a’i fod yn trosi’n gynnydd mewn mewnforion bwyd i’r DU fel sy’n debygol o ddigwydd, mae’n hollbwysig bod gan awdurdodau cymwys sy’n gyfrifol am gynnal gwiriadau mewnforio ar y ffin ddigon o adnoddau i wynebu cynnydd yn y llifoedd. Mae’r goblygiadau o ran adnoddau hefyd yn berthnasol i nwyddau sy’n cael eu hallforio o’r DU i wledydd CPTPP sydd angen ardystiad iechyd allforio milfeddygol.
1.8 Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gynlluniau terfynol ar gyfer ei Model Gweithredu Targed ar gyfer Ffiniau (BTOM), sef trefn newydd o reolaethau’r ffin sy’n berthnasol i’r holl fewnforion byd-eang i Brydain Fawr, sy’n defnyddio dull seiliedig ar risg o ran mewnforio anifeiliaid, cynhyrchion anifeiliaid, planhigion a chynhyrchion planhigion, gan gymhwyso rheolaethau gwahanol i nwyddau mewn gwahanol gategorïau risg. Mae hyn yn unol â’r Cytundeb CPTPP, sy’n ei gwneud yn ofynnol i raglenni mewnforio fod yn seiliedig ar risg. Mae Llywodraeth y DU wedi datgan y bydd y trefniadau BTOM newydd yn darparu rheolaethau’r ffin yn y dyfodol sydd wedi’u cynllunio i fod yn ddeinamig o ran eu natur, gan addasu i broffiliau risg newidiol. O ganlyniad, dros gyfnod o amser gall rhai nwyddau fod yn destun newidiadau yn lefel y gwiriadau a gymhwysir.
1.9 I grynhoi, dyma gyngor yr ASB/FSS:
- Nid oes angen unrhyw newidiadau na gostyngiadau i safonau rheoleiddiol a deddfwriaethol o ran bwyd a bwyd anifeiliaid y DU i roi effaith i CPTPP ar yr adeg y daw i rym.
- Mae CPTPP fel y’i llofnodwyd ar 16 Gorffennaf 2023 yn cynnal mesurau diogelu o ran diogelwch bwyd a maeth statudol presennol y DU cyn belled â’u bod yn dod o fewn cylchoedd gwaith statudol yr ASB ac FSS.
- Rydym yn ymwybodol o bryderon a godwyd gan randdeiliaid a defnyddwyr ynghylch aelodaeth y DU â CPTPP a amlygwyd mewn ymatebion i’n Cais am Dystiolaeth. Rydym yn eu cydnabod ac yn mynd i’r afael â phwyntiau amlwg o dan gylchoedd gwaith yr ASB ac FSS yn ddiweddarach yn yr adroddiad hwn.
- Mae CPTPP yn cynnwys Mecanwaith Datrys Anghydfodau (DSM) a allai alluogi aelodau CPTPP i herio newidiadau yn y dyfodol i drefn reoleiddio diogelwch bwyd y DU. Fodd bynnag, byddai heriau ar y sail bod mesurau Iechydol a Ffytoiechydol domestig y DU yn cyfyngu’n annheg ar fasnach ac nad oeddent yn seiliedig ar wyddoniaeth a thystiolaeth. Fodd bynnag, nodwn fod ein prosesau presennol eisoes yn darparu bod mesurau’r DU yn seiliedig ar wyddoniaeth a thystiolaeth gadarn yn unol â lefelau amddiffyniad priodol y DU a rhwymedigaethau rhyngwladol. Mae CPTPP hefyd yn cefnogi ei aelodau i gynnal systemau fel awdurdodiadau cyn marchnad a mabwysiadu mesurau dros dro lle bo angen.
- Nid oes angen unrhyw newidiadau i safonau rheoleiddio a deddfwriaethol bwyd a bwyd anifeiliaid y DU i roi effaith i’r Cytundeb Masnach Rydd hwn ar yr adeg y daw i rym ac mae’r Cytundeb yn parchu gallu’r DU a Gweinyddiaethau Datganoledig i bennu eu rheolaethau Iechydol a Ffytoiechydol eu hunain. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, fod yr ymateb i unrhyw bwysau dadreoleiddio domestig posibl yn y dyfodol yn parhau i fod yn gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU a’r Gweinyddiaethau Datganoledig.
- Mae CPTPP yn gyson â chynnal mesurau diogelu statudol ar gyfer iechyd pobl mewn perthynas â maeth, yn seiliedig ar ddadansoddiad a gynhaliwyd gan yr ASB ac FSS ar faterion yn ymwneud â maeth, gan gyfeirio’n benodol at honiadau maeth ac iechyd; ychwanegu fitaminau, mwynau a rhai sylweddau penodol eraill; atchwanegiadau bwyd; bwydydd ar gyfer grwpiau penodol; a datganiadau maeth.
2. Cwmpas cyngor yr ASB ac FSS
2.1 Er mwyn adlewyrchu cylch gorchwyl statudol llawn yr ASB ac FSS fel sefydliadau sydd â buddiannau datganoledig o ran polisi, rydym yn darparu cyngor ar fesurau diogelu statudol ar gyfer materion sy’n ymwneud â diogelwch bwyd a maeth (footnote 7) (footnote 8). Llywodraeth Cymru yng Nghymru a’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Lloegr yw’r adrannau eraill sy’n arwain ar faeth ar draws y pedair gwlad. Yr ASB sy’n gyfrifol am faeth yng Ngogledd Iwerddon a’r FSS sy’n gyfrifol am faeth yn yr Alban. Nid yw’r cyngor yn ymdrin â mesurau diogelu statudol ar gyfer safonau bwyd nad ydynt yn gysylltiedig ag iechyd pobl, sydd y tu allan i gwmpas y comisiwn hwn, fel rheolau tarddiad, dynodiadau daearyddol, labelu a hysbysebu bwyd organig, a meysydd eraill nad ydynt yn ymwneud ag iechyd pobl. Nid yw ychwaith yn ymdrin â meysydd nad ydynt yn gysylltiedig ag iechyd y cyhoedd fel tariffau, safonau technegol, mynd i’r afael â rhwystrau masnach a rheolau ar gyfer mynediad i’r farchnad, er enghraifft canllawiau ar ofynion labelu safonol ar gyfer cynhyrchion gwin a gwirodydd. Mae’r effaith ar lefelau mesurau diogelu statudol mewn perthynas â bywyd neu iechyd anifeiliaid neu blanhigion, lles anifeiliaid a diogelu’r amgylchedd yn cael eu harchwilio gan y Comisiwn Masnach ac Amaethyddiaeth (TAC).
2.2 Mae’r ASB ac FSS yn cynnal dadansoddiad ôl-weithredol o ystyriaethau eraill ar fasnach mewn bwyd yn eu Hadroddiad Blynyddol ar y cyd “Ein Bwyd: Adolygiad blynyddol o safonau bwyd ledled y DU (footnote 9) (footnote 10).
2.3 Diffinnir lefelau mesurau diogelu statudol y DU (footnote 11) yn Neddf Amaethyddiaeth 2020 fel y lefelau o ddiogelwch y darperir ar eu cyfer ar adeg llunio’r adroddiad Adran 42 hwn, o dan unrhyw ddeddfwriaeth sydd mewn grym yn y DU, neu mewn unrhyw ran ohoni. Mae materion sy’n ymwneud â diogelwch bwyd a maeth (footnote 12) yn rhai datganoledig, sy’n golygu bod unrhyw ddeddfwriaeth diogelwch bwyd a maeth sy’n bodoli ac sydd ag effaith gyfreithiol mewn unrhyw ran o’r DU yn berthnasol i’r asesiad hwn. Mae hyn yn cynnwys cyfreithiau cenedlaethol ar draws y DU. Nid yw rhwymedigaethau rhyngwladol presennol, fel y nodir yn Erthygl 15 (footnote 13) o’r Protocol Ymaelodi sy’n darparu ar gyfer y berthynas rhwng CPTPP a Fframwaith Windsor, o fewn cwmpas y cyngor hwn. O ganlyniad, nid yw’r Cytundeb Masnach Rydd yn effeithio ar y ffordd y cymhwysir cyfreithiau sy’n dod o dan y rhwymedigaethau rhyngwladol presennol. Mae pob cyfeiriad at fesurau diogelu statudol y DU yn y cyngor hwn, felly, yn ymwneud â’r ddeddfwriaeth a ddisgrifir yn y paragraff hwn fel deddfwriaeth sydd o fewn y cwmpas.
3. Buddiannau defnyddwyr a rhanddeiliaid
3.1 Wrth ddarparu’r cyngor hwn ar Gytundeb Masnach Rydd CPTPP, mae’n bwysig yn y lle cyntaf nodi’r cyd-destun ehangach perthnasol mewn perthynas â safbwyntiau defnyddwyr a phryderon rhanddeiliaid. Yn dilyn y comisiwn a dderbyniwyd gan DBT, gwnaeth yr ASB ac FSS wahodd cyflwyniadau ar fesurau diogelu statudol diogelwch bwyd a maeth gan bartïon â buddiant drwy Gais agored am Dystiolaeth a gyhoeddwyd ar 24 Gorffennaf 2023 am gyfnod o saith wythnos (footnote 14). Daeth naw cyflwyniad i law mewn ymateb i’r Cais am Dystiolaeth a chawsom sawl sgwrs â phartïon â buddiant yn ystod ymgysylltiad rheolaidd yr ASB ac FSS â rhanddeiliaid. Gan ddiolch i’r rheiny a ymatebodd, mae tystiolaeth berthnasol a ddaeth i law fel rhan o’r broses ymgynghori hon wedi’i dyfynnu yn ein cyngor.
3.2 Diddordeb gan randdeiliaid:
Croesawodd yr ymatebwyr y cyfle i fuddsoddi mewn economïau sy’n tyfu ar draws Partneriaeth y Môr Tawel. Fodd bynnag, mynegodd ymatebwyr bryderon hefyd y gallai ymaelodi â CPTPP effeithio ar hawl bresennol y DU i reoleiddio a’i gallu i osod ei mesurau Iechydol a Ffytoiechydol ei hun, ac arwain at bwysau posib ar y DU i fabwysiadu safonau llai llym. Amlygodd yr ymatebion fod safonau diogelwch bwyd y DU yn dibynnu ar allu’r DU i orfodi ei gofynion Iechydol a Ffytoiechydol ei hun, er enghraifft drwy arolygiadau, archwiliadau ar y ffin, dilysu dogfennau, archwilwyr trydydd parti yn ogystal â sicrhau bod gan awdurdodau cymwys y DU adnoddau digonol i gynnal Rheolaethau Swyddogol.
3.3 Fel y nodir yn y cyngor hwn, mae’r DU yn cadw’r hawl i reoleiddio ac i osod ei safonau Iechydol a Ffytoiechydol ei hun mewn perthynas â nwyddau gan aelodau CPTPP. Pan ddaw CPTPP i rym, ni fydd yn ofynnol i’r DU newid unrhyw ddarn o’i deddfwriaeth diogelwch bwyd. Codwyd pryderon pellach ar draws pedwar maes eang:
- Safonau Cynhyrchu Bwyd
- Ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) a defnyddio gwrthfiotigau
- Defnydd o blaladdwyr
- Cyfwerthedd
3.4 Safonau cynhyrchu bwyd:
Cododd ymatebwyr bryderon am y gwahaniaeth rhwng safonau cynhyrchu aelod-wledydd CPTPP a’r DU. Tynnodd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru a Lloegr sylw at y gwahaniaethau mewn safonau cynhyrchu cig yn y gwledydd CPTPP hynny lle mae hormonau’n cael eu defnyddio i hyrwyddo twf ar gyfer cig eidion, a chig sy’n cael ei olchi ag asid sitrig fel protocol hylendid. Nodwyd bod y ddau beth hyn wedi’u gwahardd yn y DU. Roedd Compassion in World Farming yn rhannu pryderon tebyg, gan nodi na ddylai ymaelodaeth y DU â CPTPP erydu’r gwaharddiad presennol ar gyw iâr wedi’i olchi â chlorin. Mewn sesiwn friffio a rennir gyda’r ASB ac FSS, gofynnodd Sustain i awdurdodau cymwys y DU archwilio arferion cynhyrchu wyau gwledydd eraill yn ofalus, gan nodi pryderon am y risg y gallai Salmonela fod yn bresennol mewn wyau a gynhyrchir mewn rhai gwledydd CPTPP. Nodwyd y dylai prosesau cynhyrchu wyau wedi’u mewnforio fodloni safonau diogelwch bwyd y DU o dan Gynllun Rheoli Cenedlaethol y DU ar gyfer Salmonela. Teimlai rhai ymatebwyr y gallai fod gan rai gwledydd CPTPP arferion olrhain a thryloywder gwael o fewn eu cadwyni cyflenwi cynhyrchu, a allai, yn eu barn nhw, effeithio ar ddiogelwch bwyd ac iechyd pobl yn y DU.
3.5 Ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR):
Roedd nifer o’r ymatebwyr yn pryderu am y defnydd uwch o wrthfiotigau ar gyfer rheoli clefydau mewn arferion ffermio mewn sawl un o wledydd CPTPP o gymharu ag arferion ffermio’r DU. Nododd Sustain y gallai bwyd sy’n cael ei fewnforio i’r DU fod wedi’i halogi â bacteria sy’n gwrthsefyll gwrthfiotigau a allai effeithio ar iechyd pobl, gan nodi bod ffermwyr y DU wedi lleihau 55% ar eu defnydd o wrthfiotigau o’u gwirfodd ers 2014 ac y gallai gostyngiadau o’r fath gael eu tanseilio, neu hyd yn oed eu gwrthdroi, wrth i gynhyrchion cig, llaeth ac wyau rhatach gael eu mewnforio. Cyflwynwyd data i awgrymu bod defnydd rhai o wledydd CPTPP o wrthfiotigau fesul uned y boblogaeth (PPU) hyd at 10 – 20 gwaith yn uwch na’r DU
3.6 Defnydd o blaladdwyr:
Cododd nifer o ymatebwyr bryderon ynghylch y defnydd o blaladdwyr penodol mewn gwledydd CPTPP sydd wedi’u gwahardd yn y DU. Tynnodd Sustain sylw at y defnydd o blaladdwyr wrth gynhyrchu siwgr o fewn aelod-wledydd CPTPP sydd wedi’u gwahardd wrth gynhyrchu siwgr yn y DU. Nododd y sefydliad hefyd fod safonau plaladdwyr y DU ymhlith y cryfaf yn y byd o ran diogelu iechyd pobl, gyda Lefelau Uchafswm Gweddillion (MRLs) y DU yn llymach na gwledydd CPTPP. Nododd Rhwydwaith Gweithredu Plaladdwyr y DU (PAN UK) y caniateir i fwyd o rai o wledydd CPTPP gynnwys gweddillion plaladdwyr sydd wedi’u gwahardd yn y DU, ac y gallai hyn effeithio ar iechyd pobl. Roedd yr ymatebwyr i gyd yn pryderu y bydd safonau’r DU yn llacio er mwyn aros yn gystadleuol pan fydd y DU yn dechrau mewnforio bwyd o wledydd CPTPP.
3.7 Cyfwerthedd (pan fydd gwledydd yn cydnabod safonau rheoleiddiol ar y cyd):
Nododd Cymdeithas Proseswyr Cig Prydain bryderon y gallai fod yn rhaid i’r DU gydsynio i wlad CPTPP sy’n gwneud cais a all fodloni safonau’r DU gan ddefnyddio dulliau nad ydym yn eu caniatáu (er enghraifft, bodloni safonau microbiolegol trwy ddefnyddio golchi gwrthficrobaidd).
3.8 Sicrhau diogelwch bwyd y DU ac ymateb i bryderon rhanddeiliaid:
Mae’n bwysig nodi bod gan lawer o wledydd CPTPP fynediad i farchnad y DU eisoes, hyd yn oed cyn i’r DU ymaelodi â’r bloc masnachu. Ymdrinnir â cheisiadau mynediad i’r farchnad yn y dyfodol gan wledydd CPTPP ar wahân i’r Cytundeb Masnach Rydd a chânt eu trin o dan brosesau mynediad i farchnad y DU sy’n berthnasol i bob partner masnachu ledled y byd.
Mewn ymateb i’r sylwadau hyn gan randdeiliaid, mae’n bwysig cydnabod y bydd yn rhaid i fewnforion bwyd a bwyd anifeiliaid o wledydd CPTPP barhau i fodloni gofynion deddfwriaethol diogelwch bwyd a maeth y DU. Ar hyn o bryd, mae gan y DU berthnasoedd masnachu ag aelod-wledydd CPTPP a Chytundeb Masnach Rydd ar waith gyda’r holl aelodau ac eithrio Malaysia a Brunei, ac mae’n ofynnol i gynhyrchion sy’n dod i’r DU o wledydd CPTPP fodloni gofynion mewnforio’r DU a deddfwriaeth y DU. Ni fydd hyn yn newid yn dilyn aelodaeth â CPTPP. Cyn belled â bod y gofynion rheoleiddio domestig presennol yn cael eu bodloni, ni fydd effaith ar ddiogelwch a safonau bwyd. Mae’r safonau hyn yn cael eu pennu gan weinidogion ar draws y pedair gwlad, sydd wedi’u cefnogi i wneud penderfyniadau gan gyngor yr ASB ac FSS, sy’n seiliedig ar wyddoniaeth a thystiolaeth, gyda’r nod o gadw defnyddwyr yn ddiogel. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, y bydd Llywodraeth y DU a’r Gweinyddiaethau Datganoledig yn parhau i fod yn gyfrifol am ymateb i unrhyw bwysau dadreoleiddio domestig posib yn y dyfodol.
Bydd angen i unrhyw aelod o CPTPP sy’n dymuno allforio Cynhyrchion sy’n Dod o Anifeiliaid (POAO) newydd i’r DU fynd drwy broses mynediad i’r farchnad, lle yr asesir eu safonau bwyd yn erbyn ein gofynion deddfwriaethol. Yn ogystal, os rhoddir mynediad i’r farchnad, bydd pob cynnyrch o wledydd CPTPP yn destun rheolaethau mewnforio diogelwch bwyd y DU.
Mae rhai partneriaid masnachu yn y DU, gan gynnwys y tu allan i CPTPP, eisoes yn allforio bwyd a gynhyrchir gan ddefnyddio plaladdwyr i’r DU, ond mae angen y cynhyrchion hyn nawr ac yn y dyfodol i fodloni MRLs Prydain Fawr i’w gwerthu yn y DU. Mae llwythi yn destun Rheolaethau Swyddogol ar ffin y DU ac nid oes dim yn y Cytundeb Masnach Rydd hwn sy’n dileu unrhyw o’r gofynion na’r sicrwydd o ran masnach barhaus ac yn y dyfodol. Yn ogystal, nid oes dim yn y Cytundeb Masnach Rydd hwn sy’n effeithio ar hawl bresennol y DU o dan Erthygl 3.3 yng Nghytundeb Iechydol a Ffytoiechydol Sefydliad Masnach y Byd sy’n caniatáu i aelodau o Sefydliad Masnach y Byd gymhwyso mesurau rheoli mewnforio sy’n gwyro oddi wrth y safonau rhyngwladol a osodir gan Codex neu gyrff cyfeirio eraill Sefydliad Masnach y Byd, lle gellir eu cyfiawnhau trwy ddadansoddiad risg.
3.9 Mewn perthynas â hormonau hybu twf, mae deddfwriaeth yn y DU yn gwahardd y defnydd o sylweddau amrywiol at ddibenion hybu twf. Yn yr un modd, mae deddfwriaeth y DU yn rheoli’r ffordd y caiff cig ei olchi. Ni all aelodau CPTPP allforio cynhyrchion cig nad ydynt yn bodloni ein safonau. Byddai angen proses drylwyr a thryloyw o ddadansoddi risg cyn i unrhyw gynnig i gymeradwyo golchi cemegol gael ei dderbyn. Hyd yma, ni fu unrhyw geisiadau i awdurdodi cemegau o’r fath ar gyfer golchi dofednod yn y DU.
3.10 Rydym yn cydnabod pryderon gan randdeiliaid y DU ynghylch gwahanol safonau cynhyrchu, gan nodi bod y materion hyn y tu hwnt i gwmpas comisiwn yr Ysgrifennydd Gwladol i’r ASB a’r FSS o dan Adran 42.
3.11 Mewn perthynas â gweddillion gwrthfiotigau mewn bwyd a gynhyrchir dramor, nodwn fod yn rhaid i unrhyw fewnforion i’r DU fodloni’r MRLs a sefydlwyd gan y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol (VMD) (footnote 15). Bydd y gofynion hyn yn parhau i fod yn gymwys i fewnforion o aelod-wledydd CPTPP yn dilyn ymaelodaeth y DU â CPTPP. Mewn perthynas â phlaladdwyr, mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn gosod ac yn gorfodi MRLs ar gyfer plaladdwyr a mewnforion bwyd, nawr ac yn y dyfodol i fodloni’r terfynau hyn.
3.12 Mewn perthynas â chydnabod cyfwerthedd, nid yw aelodaeth â CPTPP yn rhoi cydnabyddiaeth awtomatig o gyfwerthedd i aelod-wledydd. Bydd angen i aelodau CPTPP sydd am gael cydnabyddiaeth o gyfwerthedd gan y DU wneud cais am hyn gan Swyddfa Sicrwydd Masnach Iechydol a Ffytoiechydol y DU, gyda’r ASB ac FSS yn rhoi mewnbwn i’r broses asesu a gwneud penderfyniadau. Bydd angen i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth i ddangos bod y cynhyrchion yn bodloni lefelau diogelu priodol y DU.
3.13 Safbwyntiau defnyddwyr:
Mae’r ASB, FSS a Llywodraeth y DU yn monitro agweddau defnyddwyr yn rheolaidd, gan gynnwys o ran masnach a bwyd. Yn ddiweddar, mae “Public Attitudes to Trade Tracker Wave 6” yr Adran Busnes a Masnach (footnote 16) a gyhoeddwyd ym mis Awst 2023, yn dangos mai’r prif reswm a roddwyd gan ymatebwyr dros wrthwynebu Cytundebau Masnach yw pryderon ynghylch gostyngiad mewn safonau diogelwch a bwyd. Yn yr un modd, ym mis Mehefin 2021, cynhaliodd y sefydliad defnyddwyr Which? (footnote 17) ymchwil gyda grŵp cynrychioliadol cenedlaethol o 3,263 o ddefnyddwyr er mwyn deall eu safbwyntiau a’u hagweddau tuag at fasnach ryngwladol. Roedd mwyafrif yr ymatebwyr (91%) o’r farn y dylai Llywodraeth y DU wneud yn siŵr wrth gytuno ar gytundebau masnach y dylai’r safonau sy’n ymwneud â diogelwch ac iechyd sy’n berthnasol i fewnforion fod yr un fath â’r rhai a gymhwysir i fwyd a gynhyrchir yn y DU. Yn unol ag ymchwil flaenorol yr ASB (footnote 18), ac ymchwil a gynhaliwyd ar gyfer FSS ar y cyd â’r ASB (footnote 19) mae hyn yn dangos pwysigrwydd diogelwch bwyd ac iechyd i ddefnyddwyr y DU a’r gwerth y maent yn ei roi ar safonau diogelwch bwyd y DU.
3.14 Mae arolygon rheolaidd a gomisiynir gan yr ASB wedi dangos yn gyson fod gan ddefnyddwyr bryderon sylweddol uwch am safonau bwyd a gynhyrchir y tu allan i’r DU o gymharu â bwyd a gynhyrchir yn ddomestig (footnote 20). Canfu ymchwil gan FSS wrth baratoi ar gyfer yr ymadawiad â’r UE fod 74% o oedolion yn pryderu am gytundebau masnach â gwledydd eraill y tu allan i’r UE a allai fod â gwahanol ddulliau a chyfreithiau yn ymwneud â diogelwch a safonau bwyd. Yng nghylch diweddaraf arolwg ‘Bwyd a Chi 2’ yr ASB (footnote 21), a gasglodd safbwyntiau 5,991 o ddefnyddwyr yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon rhwng mis Hydref 2022 a mis Ionawr 2023, roedd gan 72% o’r ymatebwyr bryderon ynghylch diogelwch a hylendid bwyd a gynhyrchir y tu allan i’r DU o gymharu â 49% ar gyfer bwyd a gynhyrchir yn y DU. Roedd dilysrwydd hefyd yn bryder i ddefnyddwyr, gyda 69% yn pryderu a yw bwyd a gynhyrchir y tu allan i’r DU yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, o gymharu â 45% ar gyfer bwyd a gynhyrchir yn y DU. Gan adlewyrchu’r pryderon hyn, canfu arolwg YOUGOV 2022 (footnote 22) a gynhaliwyd gyda 3,655 o oedolion, (arolwg cynrychioliadol ar gyfer holl oedolion y DU) fod 43% o ddefnyddwyr o’r farn y bydd bargeinion masnach newydd yn lleihau ansawdd y bwyd sydd ar gael yn y DU.
3.15 Bydd safbwyntiau defnyddwyr am safonau bwyd rhyngwladol yn amrywio yn ôl gwlad gynhyrchu. Gwnaeth Mynegai Ymddiriedaeth mewn Bwyd y DU (2022) (footnote 23) archwilio lefelau ymddiriedaeth mewn bwyd a gynhyrchir mewn gwledydd y tu allan i’r DU. O’r gwledydd y gofynnwyd amdanynt, roedd y lefel ymddiriedaeth uchaf mewn bwyd o Iwerddon (74%) a’r lefel ymddiriedaeth isaf mewn bwyd o Tsieina (11%). Mae bloc CPTPP yn cynnwys un o’r gwledydd yr ymddiriedir ynddynt fwyaf, gyda mwy na dwy ran o dair (69%) o ddefnyddwyr yn ymddiried mewn bwyd o Seland Newydd (o gymharu â 73% ar gyfer bwyd a gynhyrchir yn y DU). Roedd lefelau ymddiriedaeth mewn bwyd o Ganada ac Awstralia yn is, sef 62% a 58% yn y drefn honno. Roedd 44% o ddefnyddwyr yn ymddiried mewn bwyd a gynhyrchir yn Japan. Ni ofynnwyd am unrhyw wledydd CPTPP eraill yn yr ymchwil. O ystyried yr amrywiaeth o wledydd yn CPTPP, mae defnyddwyr yn debygol o fod â safbwyntiau cymysg ynghylch sut y gall CPTPP effeithio ar safonau bwyd yn y DU. Fodd bynnag, ymddengys fod y cyhoedd o blaid y DU yn ymaelodi â CPTPP. Yn haf 2022, dywedodd bron i ddwy ran o dair (59%) o’r rhai â rhywfaint o ymwybyddiaeth o’r bartneriaeth y byddent o blaid y DU yn ymaelodi, gyda thua un rhan o bump (19%) yn gwrthwynebu (DBT, Attitudes to Trade Tracker, Wave 6 (footnote 24).
3.16 Mae’n amlwg o’r ymchwil a ddyfynnir ym mharagraffau 3.13, 3.14 a 3.15, fod cynnal safonau diogelwch bwyd ac iechyd mewn cytundebau masnach yn bwysig i ddefnyddwyr a rhanddeiliaid. Bydd mesurau diogelu statudol presennol, fel yr hawl i reoleiddio ar gyfer lefelau diogelwch sy’n briodol i ddefnyddwyr y DU yn seiliedig ar wyddoniaeth a thystiolaeth, a’r hawl i gymryd camau cymesur dros dro i ddiogelu defnyddwyr, yn chwarae rhan allweddol o ran sut y cynhelir y safonau hynny yn y dyfodol. Bydd yr ASB ac FSS yn parhau i ddarparu cyngor seiliedig ar wyddoniaeth a thystiolaeth i weinidogion sy’n ystyried buddiannau ehangach defnyddwyr mewn perthynas â bwyd, a hynny fel y gallant fod yn hyderus bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label wrth i Lywodraeth y DU fwrw ymlaen â’i pholisi masnach annibynnol. Fodd bynnag, mae’n werth nodi y bydd gallu Awdurdodau Iechyd Cyhoeddus i gyflawni rheolaethau mewnforio yn wyneb y cynnydd yn y fasnach yn sgil Cytundebau Masnach Rydd yn dibynnu ar yr adnoddau fydd ar gael.
3.17 Mae diogelu defnyddwyr yn gyfrifoldeb statudol sylfaenol i’r ASB ac FSS, ac rydym yn gwerthfawrogi’n fawr safbwyntiau defnyddwyr am fasnach mewn bwyd ac agweddau’r cyhoedd tuag at fwyd wedi’i fewnforio. Byddwn yn parhau i fonitro safbwyntiau defnyddwyr ac effaith Cytundebau Masnach Rydd, gan ddangos ymrwymiad digyfaddawd ein sefydliadau i sicrhau bod bwyd yn ddiogel, gan gynnwys trwy adroddiad blynyddol ar y cyd yr ASB ac FSS ar safonau bwyd y DU. Mae’r DU wedi gallu cynnal mesurau diogelu ar y lefel briodol a chynnal ei threfn reoleiddio bresennol. Mae CPTPP a Chytundebau Masnach Rydd eraill y craffwyd arnynt o dan Adran 42 hyd yma yn cadw hawl y DU i reoleiddio yn unol â Chytundeb Iechydol a Ffytoiechydol Sefydliad Masnach y Byd ac maent yn rhoi pwyslais cryf ar y defnydd o wyddoniaeth a thystiolaeth gadarn, gan ganiatáu i’r DU ystyried buddiannau eraill a ffactorau cyfreithlon wrth wneud penderfyniadau. Bydd yr ASB ac FSS yn parhau i fonitro safbwyntiau defnyddwyr ac effaith Cytundebau Masnach Rydd ar ddiogelwch bwyd yn y DU.
4. Trosolwg o’r darpariaethau yn CPTPP
4.1 Yn y rhagymadrodd i destun cytundeb CPTPP, mae’r Partïon yn cydnabod eu hawl gynhenid i reoleiddio a chadw eu hyblygrwydd i osod blaenoriaethau deddfwriaethol a rheoleiddiol, diogelu lles y cyhoedd a diogelu amcanion polisi cyhoeddus dilys megis iechyd y cyhoedd a moesau’r cyhoedd (footnote 25). Felly, bydd penderfyniadau yn y dyfodol yn hyn o beth yn parhau i gael eu gwneud gan weinidogion ar draws y DU ar sail cyngor tryloyw ar wyddoniaeth a thystiolaeth gan yr ASB, FSS a chyrff arbenigol eraill lle bo’n briodol.
4.2 Yn narpariaethau cychwynnol Pennod 1, mae’r Partïon yn cadarnhau hawliau a rhwymedigaethau presennol mewn perthynas â’i gilydd o dan Gytundebau rhyngwladol presennol y mae pob Parti yn Barti iddynt, gan gynnwys Cytundebau Sefydliad Masnach y Byd (footnote 26). Mewn cyd-destun diogelwch bwyd a maeth, mae’r hawliau rhyngwladol hyn yn caniatáu i Lywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig barhau i gynnal mesurau unochrog cymesur sy’n angenrheidiol i ddiogelu iechyd defnyddwyr ledled y DU.
4.3 Er mwyn cael mynediad i farchnadoedd ei gilydd ar gyfer unrhyw allforion bwyd-amaeth newydd, rhaid i bob Parti CPTPP gyflwyno cais drwy’r prosesau priodol ar gyfer mynediad i’r farchnad, fel y’u sefydlwyd yn yr Erthygl Gwyddoniaeth a Dadansoddiad Risg (Erthygl 7.9.3(b)). Yn y DU, mae ceisiadau am POAO yn dod i law Swyddfa Iechydol a Ffytoiechydol y DU ar gyfer Sicrwydd Masnach ac yn eu cydlynu a’u hasesu o ran risg, gyda mewnbwn gan yr ASB ac FSS ar ddiogelwch bwyd, asiantaethau Defra ac adrannau eraill Llywodraeth y DU a’r llywodraeth ddatganoledig fel y bo’n briodol.
4.4 Yn yr un modd, pe bai busnes o aelod o CPTPP yn dymuno marchnata cynnyrch newydd, fel bwyd newydd, ychwanegyn bwyd, ychwanegyn bwyd anifeiliaid neu fwyd neu fwyd anifeiliaid wedi’i addasu’n enetig, byddai angen gwneud cais drwy’r gwasanaeth cynhyrchion rheoleiddiedig a bod yn destun dadansoddiad risg gan yr ASB/FSS er mwyn pennu diogelwch y cynnyrch cyn y gallai Gweinidogion Prydain Fawr ei awdurdodi i’w werthu ym Mhrydain Fawr (footnote 27). Yn yr un modd, er mwyn gwneud honiad maeth neu iechyd newydd mewn perthynas â bwyd ym Mhrydain Fawr, bydd angen cyflwyno cais drwy’r sianeli priodol yn unol â Fframwaith Cyffredin Cyfansoddiad a Safonau Labelu Maeth (NLCS).
4.5 Yn y DU, mae gwiriadau ar fwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel a fewnforir nad ydynt yn dod o anifeiliaid (HRFNAO) yn benodol i wledydd, ac mae nwyddau’n cael eu gwirio’n amlach (gan gynnwys archwilio a phrofi) pan fydd gwlad yn dangos droeon nad yw’n cydymffurfio â gofynion y DU. Caiff nwyddau o wledydd sydd â mwy o achosion o ddiffyg cydymffurfio lluosog eu nodi mewn atodiadau i ddeddfwriaeth y DU mewn perthynas â Rheolaethau Swyddogol ar y ffin (footnote 28). Mae’r DU yn asesu’n barhaus statws risg sy’n dod i’r amlwg gwahanol nwyddau, ac mae’n cadw’r hawl i gynnal rheolaethau uwch ar unrhyw gynnyrch yn seiliedig ar asesiad risg digonol.
4.6 Er mwyn gweithredu’r Cytundeb Masnach Rydd hwn, ni fydd yn ofynnol i’r ASB nac FSS gyflwyno unrhyw ddeddfwriaeth diogelwch bwyd newydd, na gwneud unrhyw newidiadau i bolisi diogelwch bwyd rheoleiddiol domestig er mwyn bodloni’r rhwymedigaethau ar ôl i’r Cytundeb ddod i rym.
4.7 O dan delerau Sefydliad Masnach y Byd ac o dan delerau’r Cytundeb Masnach Rydd hwn, nid yw Llywodraeth y DU na’r gweinyddiaethau datganoledig yn cael eu hatal rhag cynnal neu gyflwyno mesurau sy’n seiliedig ar wyddoniaeth a thystiolaeth. Bydd y DU hefyd yn cadw ei gallu i gymryd camau dros dro yn seiliedig ar wybodaeth berthnasol, lle nad oes digon o dystiolaeth wyddonol, i fabwysiadu mesurau ar fwyd a bwyd anifeiliaid wedi’i fewnforio er mwyn bodloni’r lefel o fesurau diogelu a ystyrir yn briodol i ddefnyddwyr ledled y DU mewn perthynas â diogelwch bwyd.
5. Dadansoddi penodau perthnasol
5.1 Wrth asesu’r ffordd y caiff mesurau diogelu statudol presennol eu cynnal ar gyfer diogelwch bwyd a maeth, mae’r penodau canlynol yn arbennig o berthnasol oherwydd eu cysylltiadau agos â deddfwriaeth diogelwch bwyd a maeth y DU sy’n diogelu iechyd pobl yn ogystal â gwaith gweithredol yr ASB ac FSS:
- Pennod 2 – Triniaeth Genedlaethol a Mynediad i’r Farchnad ar gyfer Nwyddau
- Pennod 5 – Gweinyddu Tollau a Hwyluso Masnach
- Pennod 7 – Mesurau Iechydol a Ffytoiechydol
- Pennod 8 – Rhwystrau Technegol i Fasnachu
- Pennod 16 – Polisi Cystadleuaeth
- Pennod 28 – Datrys Anghydfod
6. Pennod 2 – Triniaeth Genedlaethol a Mynediad i’r Farchnad ar gyfer Nwyddau
6.1 Mae’r bennod hon yn llywodraethu egwyddorion masnachu nwyddau rhwng y Partïon, gan gynnwys triniaeth genedlaethol o nwyddau’r Partïon eraill a dyletswyddau rheoleiddio tollau. Mae hyn yn golygu y dylid trin nwyddau a fewnforir a’r rhai a gynhyrchir yn lleol yn gyfartal, o leiaf ar ôl i’r nwyddau tramor ddod i’r farchnad.
6.2 Mae Erthygl 2.27 o’r bennod hon yn cynnwys darpariaethau sy’n ymwneud â Masnachu Cynhyrchion Biotechnoleg Fodern. Nid yw’r ddarpariaeth yn ei gwneud yn ofynnol i Bartïon newid eu cyfreithiau, eu rheoliadau na’u polisïau ar gyfer rheoli cynhyrchion biotechnoleg fodern o fewn eu tiriogaeth.
6.3 Er nad yw’r disgrifiad o “biotechnoleg” mor gynhwysfawr â’r hyn a ddisgrifir yn neddfwriaeth y DU yn Rheoliad 5(1)(a), (b) ac (c) o’r Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 2002 (footnote 29) mae’r diffiniad a gynhwysir yn CPTPP yn cyd-fynd â safonau rhyngwladol fel y’u diffinnir gan Brotocol Cartagena ar Fioddiogelwch a Sefydliad Iechyd y Byd. Mae disgrifiad CPTPP yn pwysleisio’n bennaf bwysigrwydd bod yn dryloyw ac yn agored o ran bwyd wedi’i addasu’n enetig (GM).
6.4 Nid yw partïon ychwaith yn cael eu hatal, o dan yr Erthygl hon, rhag mabwysiadu mesurau yn unol â’u rhwymedigaethau a’u hawliau o dan Gytundebau Sefydliad Masnach y Byd. Prif nod y darpariaethau yw gwella tryloywder, cydweithrediad a llif gwybodaeth rhwng Partïon sy’n masnachu cynhyrchion o’r fath, ac annog pwyntiau cyswllt i rannu gwybodaeth, gan sicrhau bod unrhyw ofynion o ran gwneud ceisiadau i awdurdodi cynnyrch biotechnoleg fodern, crynodeb o unrhyw asesiad risg neu ddiogelwch ar sail awdurdodiad, a rhestr o gynhyrchion awdurdodedig ar gael yn gyhoeddus.
6.5 Mae nodwedd bwysig arall o’r Erthygl hon yn ymwneud ag achosion o Bresenoldeb Lefel Isel (PAC), gan nodi rheolau i fynd i’r afael ag achosion o PAC ac atal achosion o’r fath yn y dyfodol. Defnyddir y term Presenoldeb Lefel Isel i ddisgrifio presenoldeb anfwriadol, damweiniol neu dechnegol anochel symiau bach o ddeunydd GM mewn bwyd, bwyd anifeiliaid neu rawn sydd wedi’i awdurdodi mewn un neu fwy o wledydd, ond nad yw eto wedi’i awdurdodi yn y wlad sy’n mewnforio. Mae’r Erthygl yn galluogi’r Partïon i fynd i’r afael ag achosion o PAC fel y bo’n briodol er mwyn cydymffurfio â’u cyfreithiau, eu rheoliadau a’u polisïau. Mae’n annog mwy o gyfathrebu a thryloywder rhwng y Partïon er mwyn lleihau’r tebygolrwydd o amharu ar fasnach yn sgil achosion o PAC ac yn sefydlu gweithgor ar gynhyrchion biotechnoleg fodern i gyfnewid gwybodaeth a chydweithio ar faterion yn ymwneud â masnach sy’n gysylltiedig â’r cynhyrchion hyn, sy’n cynnwys cynrychiolwyr y Llywodraeth o’r Partïon. Mae mesurau yn yr Erthygl hon yn gyson â deddfwriaeth y DU ar gynhyrchion biotechnoleg fodern.
6.6 Mae’r Erthygl hon hefyd yn cydnabod gwerth cymhwyso canllawiau diogelwch bwyd rhyngwladol i fynd i’r afael ag achosion o PAC drwy gyfeirio’n benodol at Atodiad 3 o Ganllaw Codex ar gyfer Cynnal Asesiadau Diogelwch Bwyd o Fwydydd sy’n Deillio o Blanhigion â DNA wedi’u hail-gyfuno (CAC/GL 45-2003) – Erthygl 2.27.6.(b)(iii) (footnote 30). Mae “achos o PAC” fel y’i diffinnir yn yr Erthygl hon yn gyson â gofynion yr ASB ac FSS o “Sero Technegol” (0.02) o PAC mewn cynnyrch a fewnforir.
7. Pennod 5 – Gweinyddu tollau a hwyluso masnach
7.1 Nod y bennod hon yw annog Partïon i ddarparu gweithdrefnau tollau sy’n dryloyw, yn rhagweladwy, ac yn gyson er mwyn atal rhwystrau diangen i fasnach. Mae sawl Erthygl yn y bennod hon sy’n cynnwys darpariaethau sy’n ymwneud â gweithdrefnau tollau ar gyfer nwyddau. O ddiddordeb arbennig i’r ASB ac FSS mae Erthyglau 5.7 ar Gludo Cyflym ac Erthygl 5.10 ar Ryddhau Nwyddau fel am eu bod yn pennu amserlen benodol ar gyfer nwyddau dethol i’w clirio ar y ffin. Ym mhob achos, cytunwyd ar eithriadau gyda CThEF i sicrhau nad yw gwiriadau Iechydol a Ffytoiechydol yn dod o dan y diffiniad o “Weithdrefnau Tollau”, felly lle bo angen i awdurdodau cymwys gynnal gwiriadau Iechydol a Ffytoiechydol mewn safleoedd rheolaethau’r ffin (BCPs) (gan gynnwys gwiriadau mewnforion diogelwch bwyd), nid oes unrhyw gyfyngiadau amser. Felly, lle mae angen gwiriadau dogfennol, adnabod neu ffisegol, gan gynnwys samplu a phrofi at ddibenion diogelu iechyd y cyhoedd, mae hyn yn golygu na fyddai’r amserau rhyddhau a nodir yn yr Erthyglau hyn yn gymwys. Mae Erthygl 5.9 Rheoli Risg yn cynnwys darpariaethau i bob Parti fabwysiadu system rheoli risg ar gyfer asesu sy’n galluogi ei weinyddiaeth tollau i ganolbwyntio ei harolygiadau ar nwyddau risg uchel, ac i symleiddio’r broses o glirio a symud nwyddau risg isel. Mae’r ddarpariaeth hon yn annog pob Parti i adolygu a diweddaru eu systemau rheoli risg o bryd i’w gilydd er mwyn hwyluso masnach, gan ganiatáu i Awdurdodau Cymwys y DU gynnal Rheolaethau Swyddogol ar sail risg ar fwyd a bwyd anifeiliaid a fewnforir fel sy’n digwydd ar hyn o bryd ym Mhrydain Fawr. Nid oes gan yr ASB nac FSS unrhyw bryderon mewn perthynas â’r bennod hon am fod digon o fesurau diogelu i sicrhau nad yw’r terfynau amser sy’n berthnasol i nwyddau eraill yn cyfyngu ar reolaethau’r ffin ar ddiogelwch bwyd.
8. Pennod 7 – Mesurau iechydol a ffytoiechydol
8.1 Mae testun y bennod ar fesurau Iechydol a Ffytoiechydol y cytunwyd arno yn hollbwysig o ran cadw hawl y DU i gynnal cyfreithiau a rheoliadau presennol i ddiogelu iechyd y cyhoedd a bywyd pobl, gan gynnwys diogelwch bwyd a maeth. Mae hefyd yn bwysig o ran atal unrhyw gyfyngiadau yn y ffordd y caiff prosesau rheoleiddio a gorfodi bwyd eu rhoi ar waith yn y DU. Mae’r Erthyglau allweddol a ganlyn yn amlinellu sut mae’r testun yn cyflawni hyn.
8.2 Erthygl 7:1 – Diffiniadau:
Mae’r Erthygl Diffiniadau yn nodi’r derminoleg a ddefnyddir at ddibenion y Bennod Iechydol a Ffytoiechydol. Mae diffiniadau Pennod Iechydol a Ffytoiechydol CPTPP yn adlewyrchu’r rhai a geir yn Atodiad A, Cytundeb Iechydol a Ffytoiechydol Sefydliad Masnach y Byd, sydd hefyd wedi’u hymgorffori.
8.3 Erthygl 7.4 – Darpariaethau cyffredinol:
Mae’r Erthygl hon yn ailddatgan hawliau a rhwymedigaethau’r Partïon o dan Gytundeb Iechydol a Ffytoiechydol Sefydliad Masnach y Byd. Mae hyn yn golygu bod y Partïon yn cydnabod blaenoriaeth Cytundeb Iechydol a Ffytoiechydol Sefydliad Masnach y Byd dros Gytundeb CPTPP mewn perthynas â chymhwyso mesurau i ddiogelu iechyd a bywyd pobl. Mae hyn yn arwyddocaol gan fod Cytundeb Iechydol a Ffytoiechydol Sefydliad Masnach y Byd yn rhoi hawliau pwysig i bob Parti yn y bloc masnachu sy’n caniatáu iddynt osod eu lefelau eu hunain o fesurau diogelu iechyd cyhoeddus sy’n briodol i’r boblogaeth, yn unol â’r wyddoniaeth a’r dystiolaeth berthnasol, yr economeg gymdeithasol a’r ymarferoldeb technegol (Erthygl 5, Cytundeb Iechydol a Ffytoiechydol Sefydliad Masnach y Byd). (footnote 31) (footnote 32)
8.4 Erthygl 7:8 – Cyfwerthedd
Mae’r Erthygl Cyfwerthedd yn annog aelodau CPTPP i gydnabod mesurau Iechydol a Ffytoiechydol ei gilydd fel rhai sy’n darparu lefelau cyfatebol o ddiogelwch i’w rhai nhw. Unwaith y bydd y Parti sy’n allforio yn dangos ei fod yn bodloni’r un lefelau, a bod y Parti sy’n mewnforio yn darparu lefel gyfatebol o fesurau diogelu, yna gellir cydnabod cyfwerthedd, a thrwy hynny hyrwyddo masnach. Mae’r Erthygl hon yn cydnabod efallai na fydd y Parti sy’n mewnforio yn cydnabod cyfwerthedd bob amser. Rhaid i’r Parti sy’n mewnforio yn yr achos hwn ddarparu sail resymegol dros ei benderfyniad. Er bod yr Erthygl hon yn nodi sut y bydd y Partïon yn cyfathrebu yn ystod penderfyniad ac amserlen cyfwerthedd, mae’n cydnabod bod angen i’r Parti sy’n allforio allu dangos yn wrthrychol fod ei fesur Iechydol a Ffytoiechydol yn cynnig yr un lefel o ddiogelwch â mesur y Parti sy’n mewnforio.
8.5 Mae Erthygl 4 o Gytundeb Iechydol a Ffytoiechydol Sefydliad Masnach y Byd ar Gyfwerthedd (footnote 33) yn ei gwneud yn ofynnol i aelodau Sefydliad Masnach y Byd dderbyn mesurau Iechydol a Ffytoiechydol aelodau eraill fel mesurau cyfatebol. Os yw’r aelod sy’n allforio’n dangos yn wrthrychol fod ei fesurau’n cyrraedd lefelau diogelu priodol yr aelod sy’n mewnforio, mae’n rhaid i’r aelod sy’n mewnforio dderbyn y mesurau hyn, hyd yn oed os ydynt yn wahanol i’w rai ef. Datblygodd Pwyllgor Iechydol a Ffytoiechydol Sefydliad Masnach y Byd ganllawiau penodol (footnote 34) i helpu Aelodau i weithredu’r Erthygl hon. Mae penderfyniadau cyfwerthedd o’r fath yn hwyluso masnach, a gallant arwain at fasnachu haws mewn perthynas â’r cynhyrchion yr effeithir arnynt gan y deddfau a’r rheoliadau y bernir eu bod yn gyfwerth.
8.6 Ni chytunwyd ar unrhyw benderfyniadau cyfwerthedd newydd ar gyfer cynhyrchion bwyd-amaeth fel rhan o ymaelodaeth y DU â CPTPP, er bod gan y DU eisoes rai trefniadau cyfwerthedd hirsefydlog ar waith gydag aelodau CPTPP, fel Canada a Seland Newydd. Mae gan y DU Gydnabyddiaeth o Fesurau Iechydol a Ffytoiechydol (footnote 35) a Chytundeb Iechydol (footnote 36) gyda’r ddwy wlad hon, yn y drefn honno. Cytunwyd ar egwyddorion lefel uchel sy’n ailgadarnhau telerau Sefydliad Masnach y Byd ar y dull y bydd yn rhaid i bob Parti ei fabwysiadu wrth wneud penderfyniadau cywerthedd yn y dyfodol
8.7 Byddai’r ASB ac FSS hefyd yn chwarae rhan allweddol ochr yn ochr ag adrannau eraill o’r llywodraeth wrth asesu risg unrhyw geisiadau cyfwerthedd yn y dyfodol ac wrth argymell unrhyw amodau masnachu arbennig (a allai gynnwys gofynion penodol ar gyfer prosesu, deunydd pecynnu ac ati) a allai fod yn ofynnol i fodloni lefelau diogelu’r DU o ran diogelwch bwyd. Ni fyddai penderfyniadau o’r fath yn atal y DU rhag gwneud newidiadau i’n trefn Iechydol a Ffytoiechydol yn y dyfodol er budd defnyddwyr ledled y DU, ac os felly byddai unrhyw benderfyniad yn cael ei adolygu. Nid yw’r Mecanwaith Datrys Anghydfodau a nodir ym mhennod 28 o’r Cytundeb CPTPP yn berthnasol i Baragraff 6 o’r Erthygl Cyfwerthedd. Yn y lle cyntaf, dylai’r partïon gymryd rhan mewn Ymgynghoriad Technegol Cydweithredol fel yr amlygir yn Erthygl 7.17. Os yw’r cam hwnnw’n aflwyddiannus, yna gallai’r Parti sy’n dadlau ofyn am ddatrysiad drwy system datrys anghydfodau Sefydliad Masnach y Byd.
8.8 Erthygl 7.9 – Gwyddoniaeth ac Asesu Risg
Mae’r Erthygl hon yn cynnwys darpariaethau i bob Parti seilio eu mesurau Iechydol a Ffytoiechydol ar egwyddorion gwyddonol. Mae paragraffau 1 a 2 yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod mesurau Iechydol a Ffytoiechydol yn seiliedig ar egwyddorion gwyddonol a naill ai’n cydymffurfio â safonau, canllawiau neu argymhellion rhyngwladol neu’n seiliedig ar dystiolaeth wyddonol ddogfenedig a gwrthrychol sy’n ymwneud yn rhesymegol â’r mesurau. Mae hyn yn unol ag ymrwymiadau rhyngwladol y DU, gan gynnwys Erthygl 5.7 o Gytundeb Iechydol a Ffytoiechydol Sefydliad Masnach y Byd sy’n datgan “in cases where relevant scientific evidence is insufficient, a member may provisionally adopt sanitary or phytosanitary measures on the basis of available pertinent information”. Gall y Partïon bennu lefelau priodol eu mesurau diogelu trwy ddadansoddi risg cyn caniatáu i gynhyrchion o Bartïon eraill gael eu mewnforio. Mae hyn yn galluogi’r DU i gynnal ei threfn o reolaethau mewnforio ar sail risg. Serch hynny, mae cymhwyso DSM CPTPP i rannau eraill o’r bennod hon yn golygu y gallai mesurau Iechydol a Ffytoiechydol y DU yn y dyfodol fod mewn mwy o berygl o gael eu herio, oherwydd yr opsiwn i bartïon CPTPP geisio datrysiad drwy DSM CPTPP, yn ychwanegol at y datrysiad presennol drwy Broses Datrys Anghydfodau Sefydliad Masnach y Byd. Ceir risg y caiff mesurau Iechydol a Ffytoiechydol eu herio eisoes o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd ac mewn Cytundebau Masnach Rydd eraill. Mae cais DSM yn golygu y gallai fod yn ofynnol i’r DU amddiffyn ei mesurau Iechydol a Ffytoiechydol mewn fforwm gwahanol. Mae rhwymedigaethau o dan Baragraff 2 o’r Erthygl Gwyddoniaeth a Risg wedi’u heithrio rhag cymhwyso Mecanwaith Datrys Anghydfodau CPTPP. Dim ond ar ôl trafod y mater mewn camau blaenorol o fewn mecanwaith cyflafareddu mewnol CPTPP y byddant yn gallu codi anghydfod, fel cynnal Ymgynghoriadau Technegol Cydweithredol. Hyd yma, nid yw mesurau yr aethpwyd â nhw rhagddynt o ganlyniad i broses dadansoddi risg y DU wedi cael eu herio o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd.
8.9 Erthygl 7:10 – Archwiliadau
Mae’r Erthygl hon yn gosod y fframwaith ar gyfer cynnal archwiliadau gyda’r bwriad o leihau beichiau ar y Partïon a sicrhau bod paramedrau archwiliad yn cael eu cyfleu’n glir, yn cael eu cytuno ymlaen llaw ac y gellir rhannu tystiolaeth sy’n pennu canlyniad archwiliad gyda’r Parti a archwilir ar gais. Nid oes dim yn yr Erthygl sy’n atal y DU rhag cynnal archwiliad lle gellir ei gyfiawnhau at ddibenion ceisio sicrwydd ar systemau rheoli diogelwch bwyd aelodau CPTPP, ac nid yw ychwaith yn atal y DU rhag cynnal mesurau diogelwch bwyd brys fel y bo’n briodol.
8.10 Erthygl 7:11 – Gwiriadau mewnforio
Nid yw’r erthygl hon yn cyfyngu ar hawl y DU i gynnal gwiriadau mewnforio ar sail risg nac i gymryd camau gorfodi priodol pan nodir achosion o ddiffyg cydymffurfio, yn unol â chyfreithiau a rheoliadau presennol y DU.
8.11 Erthygl 7:12 – Ardystio
Mae’r Erthygl hon yn nodi y bydd ardystiad mewnforio, pan fo’n ofynnol gan y DU neu Bartïon eraill, ond yn gymwys i’r graddau sy’n angenrheidiol i ddangos bod y cynhyrchion a fewnforir yn cydymffurfio ag amcanion Iechydol a Ffytoiechydol y DU neu Bartïon eraill (ni waeth i ble y mae’r cynnyrch yn cael ei fewnforio) a safonau Iechydol a Ffytoiechydol rhyngwladol. Mae hyn er mwyn sicrhau nad yw ardystio yn rhwystr diangen i fasnach.
8.12 Erthygl 7:13 – Tryloywder
Mae’r Erthygl hon yn cynnwys darpariaethau i’r Partïon rannu gwybodaeth am eu mesurau Iechydol a Ffytoiechydol arfaethedig. Mae’r Erthygl yn cysylltu â Chytundeb Iechydol a Ffytoiechydol Sefydliad Masnach y Byd ac yn dibynnu ar ei system cyflwyno hysbysiadau i roi gwybod i’r Partïon eraill am newidiadau mewn mesurau Iechydol a Ffytoiechydol. Mae paragraff 6 o’r Erthygl hon yn nodi, os nad yw mesurau Iechydol a Ffytoiechydol yn cydymffurfio â safon, canllaw neu argymhelliad rhyngwladol, fod yn rhaid i’r Parti ddarparu dogfennaeth berthnasol i’r Partïon eraill gan gynnwys tystiolaeth wyddonol ddogfenedig a gwrthrychol sy’n ymwneud yn rhesymegol â’r mesur. Mae’r gofyniad hwn o ran tryloywder yn gyson â deddfwriaeth y DU ac mae’r DU eisoes yn cydymffurfio â Chytundeb Iechydol a Ffytoiechydol Sefydliad Masnach y Byd a’r mesurau a nodir yn yr Erthygl hon.
8.13 Erthygl 7:14 – Mesurau Brys
Mae’r testun ynghylch mesurau brys yn parchu hawl y Partïon i gymryd camau cyflym i ddiogelu bywyd ac iechyd pobl. Mae hefyd yn gosod rhai paramedrau ar gyfer sut y byddai’r Partïon yn ymgysylltu mewn achosion o’r fath ac ar gyfer cynnal adolygiadau sy’n seiliedig ar wyddoniaeth i gyfiawnhau parhau â’r mesurau. Mae gan yr ASB ac FSS eisoes berthnasau gwaith da â’r Pwyntiau Cyswllt Brys yn llawer o Awdurdodau Diogelwch Bwyd aelodau CPTPP, ac fel un o 11 aelod y Rhwydwaith Awdurdodau Diogelwch Bwyd Rhyngwladol (INFOSAN). Byddai gwybodaeth yn ymwneud ag unrhyw fater diogelwch bwyd sylweddol sy’n effeithio ar Ogledd Iwerddon yn cael ei chyfathrebu gan yr ASB yng Ngogledd Iwerddon trwy System Rhybuddio Cyflym ar gyfer Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (RASFF) yr UE.
8.14 Erthygl 7:16 – Cyfnewid gwybodaeth
Mae’r Erthygl hon yn cynnwys darpariaethau i Bartïon ymateb o fewn cyfnod rhesymol o amser i geisiadau am wybodaeth gan Bartïon eraill. Mae hyn yn unol ag arferion gwaith yr ASB ac FSS.
8.15 Erthygl 7:17 – Ymgynghoriadau technegol cydweithredol
Mae’r Erthygl hon yn cyflwyno proses ar gyfer Partïon sy’n dymuno codi pryderon technegol gyda’i gilydd. Darperir amserlenni i sicrhau bod materion yn cael eu datrys, ac mae’n ofynnol i’r Partïon ddefnyddio Ymgynghoriadau Technegol Cydweithredol (CTC) cyn troi at drefn datrys anghydfod ffurfiol. Ni fwriedir i Ymgynghoriadau Technegol Cydweithredol ddisodli’r mecanweithiau a’r prosesau ar wahân ar gyfer gwneud penderfyniadau y gall partneriaid masnachu, er enghraifft, eu defnyddio i wneud cais i allforio cynnyrch newydd i’r DU, neu fod yn rhan o ymgynghoriad ffurfiol ar reoliadau newydd arfaethedig ac ati. Bydd y fforwm yn helpu i ddatrys problemau rhwng aelodau mewn ffordd anffurfiol a bydd yn fecanwaith anghydfod amgen.
8.16 Erthygl 7:18 – Datrys anghydfod
Mae’r Erthygl hon yn nodi pa feysydd o’r bennod Iechydol a Ffytoiechydol sy’n ddarostyngedig i’r DSM a nodir ym Mhennod 28 o’r Cytundeb Masnach Rydd ar yr adeg y daw i rym a’r Erthyglau hynny sy’n ddarostyngedig i gyfnod addasu. Mae DSM ar gael ar gyfer anghydfodau o dan yr erthyglau sy’n ymwneud â Chyfwerthedd, Archwiliadau a Gwiriadau Mewnforio ymhen blwyddyn ar ôl i’r Cytundeb CPTPP ddod i rym yn y DU. Mae DSM ar gael ar gyfer anghydfod o dan yr erthygl Gwyddoniaeth a Dadansoddiad Risg ar ôl dwy flynedd. Mae rhai nodweddion o’r Erthyglau Cyfwerthedd a Gwyddoniaeth a Dadansoddi Risg wedi’u heithrio wrth gymhwyso’r Mecanwaith Datrys Anghydfodau heb derfynau amser. Y nodweddion hyn gaiff eu heithrio yw paragraff 6 o Erthygl 7.8 a pharagraff 2 o Erthygl 7.9 (troednodiadau 2 a 3) fel y nodwyd yn flaenorol yn y dadansoddiad o’r Erthyglau priodol yn y cyngor hwn.
9. Pennod 8 - Rhwystrau Technegol i Fasnachu
9.1 Mae’r bennod ar Rwystrau Technegol i Fasnachu yn berthnasol i gynnal mesurau diogelu statudol mewn perthynas ag iechyd pobl, gan gynnwys materion sy’n ymwneud â diogelwch bwyd a maeth, i’r graddau y mae’n cadw hawl y DU i reoleiddio yn unol â hawliau a rhwymedigaethau rhyngwladol Sefydliad Masnach y Byd ac mewn perthynas â darpariaethau marcio a labelu penodol, fel y nodir isod. Byddai unrhyw anghydfodau a allai godi rhwng y Partïon o dan y bennod hon yn ddarostyngedig i’r broses datrys anghydfod a nodir ym Mhennod 28 (Datrys Anghydfodau) o’r Cytundeb Masnach Rydd.
9.2 Erthygl 8.4 – Ymgorffori Darpariaethau Penodol o’r Cytundeb ar Rwystrau Technegol i Fasnachu:
Mae cadarnhau hawliau a rhwymedigaethau o dan Gytundeb Rhwystrau Technegol (footnote 37) i Fasnachu Sefydliad Masnach y Byd yn golygu bod y Partïon yn cydnabod pwysigrwydd telerau Sefydliad Masnach y Byd wrth gymhwyso rheoliadau technegol, safonau a gweithdrefnau asesu cydymffurfiaeth. Mae’r testun y cytunwyd arno’n ail-gadarnhau hawl y DU i roi mesurau technegol ar waith i gyflawni amcanion polisi dilys, gan gynnwys diogelu iechyd pobl a diogelwch bwyd (Erthygl 2.2, Cytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Rwystrau Technegol i Fasnachu), ac ailddatgan darpariaethau penodol o’r Cytundeb ar Rwystrau Technegol i Fasnachu yn y Cytundeb Masnach Rydd. Mae’r Erthygl hon wedi’i heithrio rhag cymhwyso’r DSM, gan ei bod yn cyfeirio’n uniongyrchol at ddarpariaethau Cytundeb Rhwystrau Technegol i Fasnachu Sefydliad Masnach y Byd, sy’n golygu mai Sefydliad Masnach y Byd yw’r fforwm mwyaf priodol ar gyfer anghydfodau.
9.3 Erthygl 8.5 – Safonau, Canllawiau ac Argymhellion Rhyngwladol:
Mae’r Erthygl hon yn ail-gadarnhau ymrwymiadau Sefydliad Masnach y Byd i seilio mesurau Rhwystrau Technegol i Fasnachu ar safonau rhyngwladol perthnasol lle maent yn bodoli. Nid yw hyn yn effeithio ar hawl y DU i reoleiddio ac nid yw’n gofyn am newidiadau i fesurau diogelu statudol presennol ar gyfer diogelwch bwyd a maeth.
9.4 Atodiad 8-F – Fformiwlâu perchnogol ar gyfer bwydydd wedi’u pecynnu ymlaen llaw ac ychwanegion bwyd:
Mae’r Atodiad hwn yn berthnasol i baratoi, mabwysiadu a chymhwyso rheoliadau technegol a safonau sy’n ymwneud â bwydydd wedi’u pecynnu ymlaen llaw ac ychwanegion bwyd. Nid yw’r Atodiad hwn yn effeithio ar fesurau diogelu statudol yn y DU, lle mae’r rheoliadau’n nodi bod yn rhaid cael triniaeth gyfartal rhwng ymgeiswyr domestig a rhyngwladol a diogelu cyfrinachedd gwybodaeth.
10. Pennod 16 - Polisi cystadleuaeth
10.1 Mae’r Bennod hon, yn arbennig Erthygl 16.6 ar Diogelu Defnyddwyr yn cynnwys adnoddau pwysig ar gyfer diogelu defnyddwyr rhag gweithgareddau masnachol twyllodrus, gyda’r nod o wella lles defnyddwyr yn y maes masnach rydd a sefydlwyd gan CPTPP. Mae Erthyglau 16.6.2, 16.6.5 ac Erthygl 16.6.6 yn gosod rhwymedigaethau ar y Partïon i gynnal cyfreithiau diogelu defnyddwyr, gan gydnabod bod gweithgareddau masnachol twyllodrus yn gynyddol fynd y tu hwnt i ffiniau cenedlaethol. Mae’r Erthyglau hyn hefyd yn cynnwys cydweithredu mewn perthynas â gwerthiannau masnachol ar-lein – fel y cyfeirir atynt ym Mhennod 14 (Erthygl Masnach Electronig 14.7.1 ac Erthygl 14.7.3). Mae hyn yn cyd-fynd â mesurau presennol sy’n diogelu defnyddwyr yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 (footnote 38) (Adrannau 14 ac 15), sef y dylai bwyd a gynigir i’w werthu fod o’r natur neu’r sylwedd neu’r ansawdd y gofynnir amdano, ac na ddylid ei ddisgrifio na’i gyflwyno’n anghywir.
11. Erthygl 28 – Datrys anghydfod
11.1 Mae’r bennod yn cynnwys manylion y broses ffurfiol ar gyfer datrys anghydfod o dan y Cytundeb Masnach Rydd, gan gynnwys: y dewis o fforwm i ddatrys anghydfod ynddo, sut i drefnu ymgynghoriadau, dulliau amgen o ddatrys anghydfod, sefydlu panel, ei gyfansoddiad a’i gylch gorchwyl, eu swyddogaethau, rheolau gweithdrefnau ac adrodd. Byddai cymhwyso’r bennod ar Ddatrys Anghydfodau i’r bennod Iechydol a Ffytoiechydol yn ei gwneud yn ofynnol, lle y bo’n bosib, i Lywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig weithredu unrhyw benderfyniadau gan banel anghydfod, a sefydlwyd o dan y bennod hon, a allai gynnwys diwygio deddfwriaeth ddomestig. Pe bai’r DU yn colli anghydfod o dan y mecanwaith hwn ac yr ystyrir na wnaeth weithredu penderfyniad y panel, yna gallai fod yn ofynnol i’r DU gytuno ar iawndal gyda’r aelod CPTPP dan sylw. Os na chaiff iawndal ei gytuno neu ei dalu, yna gallai’r aelod CPTPP dan sylw atal buddion perthnasol y DU (bydd buddion yn cael eu hatal gan yr aelod yr effeithir arno yn unig).
GB">12. Casgliadau
GB">12.1 Rydym wedi nodi cyngor yr ASB ac FSS ar destun ymaelodaeth y DU â CPTPP a’i heffaith ar fesurau diogelu statudol ar gyfer diogelwch bwyd a maeth. I grynhoi, dyma ein casgliadau:
- GB">Ar ôl ymaelodi â CPTPP, bydd y DU yn gallu cynnal ei mesurau diogelu statudol presennol o ran diogelwch bwyd yn unol â chyfraith y DU. Mae CPTPP hefyd yn gyson â chynnal mesurau diogelu statudol ar gyfer iechyd pobl mewn perthynas â maeth.
- GB">Nid oes angen gwneud unrhyw newidiadau i system rheoleiddio diogelwch bwyd y DU er mwyn rhoi effaith i’r CPTPP ar yr adeg y daw i rym, a barnwyd bod system rheoleiddio diogelwch bwyd y DU yn cydymffurfio â gofynion CPTPP cyn i’r DU ymaelodi.
- GB">Mae testun y Cytundeb Masnach Rydd yn cynnal ymreolaeth reoleiddiol Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig o ran materion diogelwch bwyd a maeth.
- GB">Bydd penderfyniadau am ddiogelwch bwyd yn parhau i gael eu gwneud gan weinidogion ar draws y DU, wedi’u llywio gan gyngor tryloyw gan yr ASB ac FSS, sy’n seiliedig ar wyddoniaeth a thystiolaeth gadarn. Mae hyn yn allweddol i gynnal mesurau diogelu statudol yn y dyfodol.
- GB">Os bydd ymaelodi â CPTPP yn arwain at gynnydd yn y bwyd a fewnforir i’r DU fel y rhagamcanwyd, bydd angen adnoddau ychwanegol i alluogi Awdurdodau Iechyd Cyhoeddus y DU i gynnal Rheolaethau Swyddogol a chynnal diogelwch bwyd.
-
At ddibenion y cyngor hwn, mae unrhyw gyfeiriad at ddiogelwch bwyd yn cynnwys diogelwch bwyd anifeiliaid lle mae’n ymwneud ag iechyd pobl.
-
Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel (CPTPP)
-
Deddf Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethu 2010 (legislation.gov.uk)
-
CPTPP: Cais yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach am gyngor yr ASB ac FSS
-
Adran Busnes a Masnach – CPTPP: asesiad effaith
https://www.gov.uk/government/publications/cptpp-impact-assessment -
Mae “maeth” yn golygu deddfwriaeth o fewn cwmpas Atodiad II i’r Fframwaith Cyffredin Dros Dro ar gyfer Labelu, Cyfansoddiad a Safonau.
-
Mae’r ffordd y mae Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig yn cydweithio ar draws y pedair gwlad wedi’i nodi yn y fframwaith cyffredin ar gyfer Diogelwch a Hylendid Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (FFSH).
-
Ein Bwyd 2022: Adolygiad blynyddol o safonau bwyd ledled y DU
-
Adolygiad blynyddol o safonau bwyd ledled y DU: Safonau Bwyd yr Alban (FSS)
-
Mae “mesurau diogelu statudol” yn cynnwys darpariaethau mewn deddfwriaeth sylfaenol, is-ddeddfwriaeth neu ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir yn unol ag Adran 42(3) o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020.
-
Llywodraeth Cymru yng Nghymru, yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC) yn Lloegr, yr ASB yng Ngogledd Iwerddon a Safonau Bwyd yr Alban yn yr Alban sy’n gyfrifol am faterion yn ymwneud â maeth.
-
Mewn perthynas â Gogledd Iwerddon, mae MRLs wedi’u pennu yn unol â’r egwyddorion a nodir ym mharagraff 2.3 o’r cyngor hwn.
-
A yw Bargeinion Masnach y DU yn Adlewyrchu Blaenoriaethau Defnyddwyr -Which? Polisi a mewnwelediad
-
Interests, needs and concerns around food: the public’s view in Scotland
-
Canlyniadau Ymchwil Omnibws Brexit ar Bryderon Bwyd – Medi 2020
-
Mynegai Ymddiriedaeth Mewn Bwyd y DU 2022 – Cynllun Sicrwydd y Tractor Coch
-
Mynegai Ymddiriedaeth Mewn Bwyd y DU 2022 – Cynllun Sicrwydd y Tractor Coch
-
CPTPP – Rhagymadrodd
-
CPTPP – Pennod 1, Darpariaethau Cychwynnol a Diffiniadau Cyffredinol
-
Gwasanaeth Gwneud Cais am Gynhyrchion Rheoleiddiedig ym Mhrydain Fawr
-
Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 2002 (legislation.gov.uk)
Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Yr Alban) 2002
Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002
Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Gogledd Iwerddon) 2003
-
Sefydliad Masnach y Byd | Mesurau Iechydol a Ffytoiechydol - teestun y cytundeb
-
Diffinnir cyfwerthedd gan Sefydliad Masnach y Byd fel y cyflwr lle mae mesurau iechydol neu ffytoiechydol a ddefnyddir mewn gwlad allforio, er eu bod yn wahanol i’r mesurau a gymhwysir mewn gwlad sy’n mewnforio, yn cyflawni lefel briodol o fesurau diogelu iechydol neu ffytoiechydol y wlad sy’n mewnforio, fel y dangosir gan y wlad sy’n allforio ac a gydnabyddir gan y wlad sy’n mewnforio. (Modiwl Hyfforddi Llawlyfr Iechydol a Ffytoiechydol Sefydliad Masnach y Byd: Pennod 4: Hysbysiad o Gyfwerthedd)
-
Diffinnir cyfwerthedd gan Sefydliad Masnach y Byd fel y cyflwr lle mae mesurau iechydol neu ffytoiechydol a ddefnyddir mewn gwlad allforio, er eu bod yn wahanol i’r mesurau a gymhwysir mewn gwlad sy’n mewnforio, yn cyflawni lefel briodol o fesurau diogelu iechydol neu ffytoiechydol y wlad sy’n mewnforio, fel y dangosir gan y wlad sy’n allforio ac a gydnabyddir gan y wlad sy’n mewnforio. ( Modiwl Hyfforddi Llawlyfr Iechydol a Ffytoiechydol Sefydliad Masnach y Byd: Pennod 4: Hysbysiad o Gyfwerthedd )
-
Atodiad 5-E – “Cydnabod mesurau iechydol a ffytoiechydol” y Cytundeb Parhad Masnach rhwng y DU a Chanada
-
Sefydliad Masnach y Byd | testunau cyfreithiol – Cytundeb Marrakesh
Hanes diwygio
Published: 9 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 25 Ionawr 2024