Cyngor Adran 42 ar y cyd – Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU ac Awstralia
Cyngor ar y cyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban ar y Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU ac Awstralia.
Cyflwyniad
1.1 Fel Awdurdodau Diogelwch Bwyd y DU sydd â dyletswydd statudol i sicrhau diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid (footnote 1) a buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd, ar 8 Mawrth gofynnodd yr Adran Busnes a Masnach i’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban ddarparu cyngor ar y cyd ar y Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU ac Awstralia, fel y'i llofnodwyd ar 16 Rhagfyr 2021. Yn benodol, gofynnwyd i’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban, yn unol ag adran 42(4) o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020, ddarparu cyngor ynghylch a yw’r mesurau yn y Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU ac Awstralia yn gyson, neu i ba raddau y maent yn gyson, â chynnal lefelau diogelwch statudol y DU ar gyfer iechyd pobl mewn perthynas â’r meysydd o fewn cylch gorchwyl statudol yr ASB/Safonau Bwyd yr Alban. Mae’r ymateb hwn yn cynrychioli ein cyngor yn dilyn y cais gan yr Adran Busnes a Masnach.
1.2 I grynhoi, dyma gyngor yr ASB/Safonau Bwyd yr Alban:
- Mae’r Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU ac Awstralia yn cynnal y mesurau diogelwch statudol presennol ar gyfer diogelwch bwyd yn unol â’r gyfraith a ddargedwir.
- Nid oes angen unrhyw newidiadau i system reoleiddio diogelwch bwyd y DU i weithredu’r Cytundeb Masnach Rydd hwn ar ôl iddo ddod i rym.
- Mae testun y Cytundeb Masnach Rydd yn cadw ymreolaeth reoleiddiol llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig o ran materion diogelwch bwyd, ac ni fydd yn rhagfarnu yn erbyn unrhyw benderfyniadau yn y dyfodol yn hyn o beth. Bydd gweinidogion iechyd ledled y DU yn parhau i wneud penderfyniadau ynghylch diogelwch bwyd ar sail cyngor tryloyw ar wyddoniaeth a thystiolaeth gan yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban. Mae hyn yn allweddol i gynnal mesurau diogelu statudol yn y dyfodol.
Cwmpas cyngor yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban
2.1 Gan gydnabod bod materion o ran iechyd pobl sy’n ymwneud â bwyd yn mynd y tu hwnt i ddiogelwch bwyd, ar yr achlysur hwn mae’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban yn darparu cyngor ar fesurau diogelu statudol ar gyfer diogelwch bwyd yn unig. Felly, nid yw’r cyngor yn ymdrin â mesurau diogelu statudol ehangach ar gyfer iechyd y cyhoedd. Bydd asesiad ar wahân ar eu cyfer yn cael ei gynnwys ym mhrif adroddiad llywodraeth y DU. Nid yw’r cyngor ychwaith yn cwmpasu mesurau diogelu statudol ar gyfer safonau bwyd nad ydynt yn ymwneud â diogelwch sydd y tu allan i gwmpas y cyngor hwn. Bydd yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban yn ystyried ein dull tuag at faterion ehangach o ran iechyd pobl sy’n ymwneud â bwyd ar gyfer ceisiadau yn y dyfodol am gyngor o dan adran 42(4) o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020.
2.2 Diffinnir lefelau mesurau diogelu statudol y DU yn Neddf Amaethyddiaeth 2020 fel y lefelau diogelwch y darperir ar eu cyfer o dan unrhyw ddeddfwriaeth sy’n cael effaith yn y Deyrnas Unedig, neu mewn unrhyw ran ohoni. Mae diogelwch bwyd yn gymhwysedd datganoledig, sy’n golygu bod unrhyw ddeddfwriaeth diogelwch bwyd sy’n bodoli ac sydd ag effaith gyfreithiol yng Nghymru, yr Alban, Lloegr neu Ogledd Iwerddon yn berthnasol i’r ystyriaeth hon. Mae hyn yn cynnwys cyfraith genedlaethol a chyfraith yr UE a ddargedwir sy’n gymwys ym Mhrydain Fawr, yn ogystal â chyfraith genedlaethol a chyfraith yr UE sy’n gymwys ar hyn o bryd yng Ngogledd Iwerddon yn rhinwedd Protocol Gogledd Iwerddon. Mae pob cyfeiriad at ofynion diogelwch bwyd y DU yn y cyngor hwn yn ymwneud â’r ddeddfwriaeth diogelwch bwyd hon, sydd wedi’i hystyried yng nghyngor ar y cyd yr ASB/Safonau Bwyd yr Alban isod.
Buddiannau defnyddwyr a rhanddeiliaid
3.1 Wrth ysgrifennu’r cyngor hwn, mae’n bwysig yn gyntaf nodi’r cyd-destun ehangach perthnasol mewn perthynas â safbwyntiau defnyddwyr a phryderon rhanddeiliaid. Yn dilyn y cais a ddaeth i law gan yr Adran Busnes a Masnach, gwahoddodd yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban sylwadau ar fesurau diogelu statudol ar gyfer diogelwch bwyd gan bartïon â buddiant, gan gynnwys y rhai sy’n cynrychioli buddiannau defnyddwyr. Gan ddiolch i’r rheiny a ymatebodd, mae safbwyntiau perthnasol a ddaeth i law fel rhan o'r broses ymgynghori hon wedi’u dyfynnu yn ein cyngor.
3.2 Mae data o arolygon ymgysylltu â defnyddwyr diweddar yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban wedi dangos yn gyson fod gan ddefnyddwyr bryderon sylweddol uwch am fwyd a gynhyrchir y tu allan i’r DU na bwyd a gynhyrchir yn y DU. Fel rhan o gylch diweddaraf arolwg ‘Bwyd a Chi 2’ yr ASB, (footnote 2) a gasglodd safbwyntiau defnyddwyr yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2021, roedd 75% o’r cyfranogwyr yn poeni am ddiogelwch a hylendid bwyd sy’n dod o’r tu allan i’r DU o gymharu â 54% ar gyfer bwyd yn y DU. Roedd 71% yn poeni nad yw bwyd sy’n cael ei gynhyrchu y tu allan i’r DU yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, o gymharu â 51% ar gyfer bwyd sy’n dod o’r DU. Canfu cylch diweddaraf arolwg Safonau Bwyd yr Alban, Food in Scotland, o fis Rhagfyr 2021, (footnote 3) fod 70% o’r ymatebwyr wedi nodi eu bod yn poeni am safonau bwyd ac ansawdd y bwyd y maent yn ei fwyta. Canfu ymchwil defnyddwyr Safonau Bwyd yr Alban (footnote 4) a gynhaliwyd ym mis Medi 2020, cyn i’r DU ymadael â’r UE, fod 77% o’r ymatebwyr naill ai’n ‘poeni neu’n poeni’n fawr’ am ostyngiad mewn safonau ar ôl 31 Rhagfyr 2021. Canfu arolwg barn cynrychioliadol cenedlaethol gan yr ASB a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2020 (footnote 5) fod bron i wyth o bob deg o bobl (78%) yn meddwl y dylai’r DU gadw ei safonau bwyd presennol, hyd yn oed os oedd bwyd yn ddrutach ac yn llai cystadleuol yn y farchnad fyd-eang.
3.3 Ym mis Mehefin 2021, cynhaliodd Which? (footnote 6) ymchwil gyda grŵp cynrychioliadol cenedlaethol o 3,263 o ddefnyddwyr er mwyn deall eu barn a’u hagweddau tuag at fasnach ryngwladol. Gwnaeth Which? hefyd nodi lefelau uchel o gefnogaeth ar gyfer cynnal safonau diogelwch bwyd y DU. O’r ymatebwyr hynny a gymerodd ran, dywedodd 91% eu bod o’r farn y dylai llywodraeth y DU sicrhau, wrth gytuno ar gytundebau masnach, fod yr un safonau sy’n ymwneud â diogelwch ac iechyd yn gymwys i fwyd a fewnforir ag sy’n gymwys i fwyd a gynhyrchir yn y DU. Wrth ymateb i’n gwaith ymgysylltu â phartïon â buddiant, dywedodd Which? “ei bod yn bwysig nad yw’r Cytundeb Masnach Rydd yn tanseilio gallu’r DU i reoleiddio yn y ffordd y mae angen iddi wneud yn y dyfodol – boed hynny ar gyfer diogelwch bwyd neu er mwyn cynnal buddiannau eraill defnyddwyr mewn perthynas â bwyd”.
3.4 Mae’n amlwg o’r dystiolaeth hon fod cynnal safonau diogelwch bwyd mewn cytundebau masnach yn bwysig i ddefnyddwyr a rhanddeiliaid. Bydd mesurau diogelu statudol presennol, fel yr hawl i reoleiddio ar gyfer lefelau diogelwch sy’n briodol i ddefnyddwyr y DU yn seiliedig ar wyddoniaeth a thystiolaeth, a’r hawl i gymryd camau rhagofalus cymesur dros dro i ddiogelu defnyddwyr, yn chwarae rhan allweddol o ran sut y cynhelir y safonau hynny yn y dyfodol. Bydd yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban yn parhau i ddarparu cyngor seiliedig ar wyddoniaeth a thystiolaeth i weinidogion sy’n ystyried buddiannau ehangach defnyddwyr mewn perthynas â bwyd, a hynny fel y gallant fod yn hyderus bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label wrth i lywodraeth y DU fwrw ymlaen â’i pholisi masnach annibynnol. Mae rhanddeiliaid hefyd wedi bod yn glir ynghylch pwysigrwydd bod â threfniadau craffu cadarn ar waith ar gyfer asesu’r effeithiau ar iechyd pobl.
Trosolwg
4.1 Mae’r rhagymadrodd i destun cyfreithiol y Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU ac Awstralia yn gosod y naws ar gyfer cytundeb masnachu sydd wedi’i ategu gan rai themâu pwysig yng nghyd-destun cynnal mesurau diogelu statudol ar gyfer diogelwch bwyd. Yn bennaf, mae’r Partïon yn cydnabod ymreolaeth a hawl sofran ei gilydd i reoleiddio o fewn eu tiriogaethau, a hynny er mwyn cyflawni amcanion polisi cyhoeddus cyfreithlon, gan gynnwys diogelu iechyd y cyhoedd.
4.2 Mae’r darpariaethau cychwynnol ym Mhennod 1 yn cefnogi’r thema hon drwy nodi bod y Partïon yn cadarnhau hawliau a rhwymedigaethau presennol o dan Sefydliad Masnach y Byd (WTO). Mewn cyd-destun diogelwch bwyd, mae’r hawliau rhyngwladol sylfaenol hyn yn caniatáu i lywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig barhau i gynnal mesurau unochrog cymesur sy’n angenrheidiol i ddiogelu iechyd defnyddwyr ledled y DU.
4.3 O ystyried bod ymreolaeth reoleiddiol wedi’i nodi fel rhywbeth pwysig i’r ddau Barti yn y Cytundeb Masnach Rydd hwn, mae’n dilyn, felly, na chytunwyd ar unrhyw ganiatadau nac awdurdodiadau newydd ‘ymlaen llaw’ ar gyfer cynhyrchion bwyd-amaeth nad ydynt eisoes wedi’u hawdurdodi i’w mewnforio i’r DU neu Awstralia. Er mwyn cael mynediad i farchnad ei gilydd ar gyfer unrhyw allforion bwyd-amaeth newydd, rhaid i bob Parti gyflwyno cais drwy ei brosesau mynediad i’r farchnad. Yn y DU, yn achos cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid, mae ceisiadau o’r fath yn dod i law, yn cael eu cydgysylltu a’u hasesu o ran risg gan Swyddfa’r DU ar gyfer Sicrwydd Masnach Iechydol a Ffytoiechydol dan arweiniad Defra, gyda mewnbwn gan yr ASB/Safonau Bwyd yr Alban, asiantaethau Defra ac adrannau eraill o’r llywodraeth fel y bo’n briodol. Dim ond yn dilyn asesiad cadarn i gadarnhau bod partner masnachu’n gallu bodloni gofynion mewnforio’r DU y caniateir mynediad ar gyfer unrhyw gynhyrchion bwyd-amaeth newydd. Byddai asesiadau o’r fath hefyd yn ystyried safonau cynhyrchu bwyd yn y wlad allforio, a allai fod yn wahanol heb effeithio ar ddiogelwch bwyd. Nid yw’r Cytundeb Masnach Rydd yn cynnwys darpariaethau sy’n effeithio ar waharddiad presennol y DU ar hyrwyddwyr tyfiant penodol a ddefnyddir wrth gynhyrchu cig fel cig eidion wedi’i drin â hormonau, sy’n gymwys i fwydydd domestig a bwydydd a fewnforir.
4.5 Er mwyn negodi’r Cytundeb Masnach Rydd hwn, ni fydd yn ofynnol i’r ASB na Safonau Bwyd yr Alban gyflwyno unrhyw ddeddfwriaeth diogelwch bwyd newydd, na gwneud unrhyw newidiadau i bolisi diogelwch bwyd rheoleiddiol domestig er mwyn bodloni’r rhwymedigaethau ar ôl i’r Cytundeb ddod i rym.
4.6 Mae Rhwydwaith Gweithredu yn erbyn Plaladdwyr y DU yn poeni “y gallai’r Cytundeb Masnach Rydd hwyluso masnachu bwydydd sy’n cynnwys gweddillion plaladdwyr nad oes modd eu defnyddio mewn bwyd yn y DU ar hyn o bryd oherwydd eu bod yn peri risg i iechyd pobl” ac mae Sustain yn rhannu’r pryder hwn. Mae Awstralia eisoes yn allforio amrywiaeth o gynhyrchion bwyd-amaeth i’r DU. Yn 2019, er enghraifft, allforiodd Awstralia 9,112 o dunelli o gig ac offal cig; 12,808 o dunelli o lysiau a rhai gwreiddiau a chloron (tubers); 43,577 o dunelli o frasterau ac olewau anifeiliaid / llysiau; 7,345 o dunelli o rawnfwydydd; a 236,638 o dunelli o ddiodydd, gwirodydd a finegr. (footnote 8) Yn hollbwysig, mae’n rhaid i fewnforion bwyd a bwyd anifeiliaid o Awstralia barhau i fodloni gofynion diogelwch bwyd y DU, gan gynnwys, er enghraifft, cydymffurfio ag unrhyw waharddiadau presennol a therfynau uchaf ar gyfer gweddillion plaladdwyr a meddyginiaethau milfeddygol, yn ogystal ag unrhyw lefelau uchaf eraill ar gyfer halogion ac ati. O dan delerau Sefydliad Masnach y Byd a thelerau’r Cytundeb Masnach Rydd hwn, ni fyddai unrhyw beth yn atal llywodraeth y DU na’r gweinyddiaethau datganoledig rhag cynnal neu gyflwyno mesurau sy’n seiliedig ar wyddoniaeth a thystiolaeth, na rhag cymryd camau dros dro ar sail gwybodaeth berthnasol, ar gyfer bwyd a bwyd anifeiliaid a fewnforir a fyddai’n gwyro oddi wrth safonau neu ganllawiau rhyngwladol er mwyn bodloni’r lefel o ddiogelwch bwyd a ystyrir yn briodol i ddefnyddwyr ledled y DU.
4.7 Dim ond ar y sail bod Awstralia wedi’i nodi fel gwlad gymeradwy gan y DU a’i rhestru ar gyfer y nwydd penodol hwnnw y gall cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid gael eu mewnforio i’r DU o Awstralia. Rhaid i nwyddau o’r fath ddod o sefydliadau sy’n bodloni gofynion y DU. Rheolir y broses restru bellach gan Swyddfa’r DU ar gyfer Sicrwydd Masnach Iechydol a Ffytoiechydol, ac mae’n cynnwys, ymhlith pethau eraill, archwilio ac asesu system rheolaethau swyddogol gwlad a’i chynllun monitro gweddillion. Rhoddir sicrwydd pellach bod llwythi’n bodloni gofynion mewnforio’r DU gan yr ardystiad swyddogol sy’n cyd-fynd â’r llwyth. Mae’r ardystiad hwn yn tystio bod y cynnyrch sy’n dod o anifeiliaid wedi’i gynhyrchu yn unol â safonau’r DU. Mae llwythi’n destun rheolaethau swyddogol ar ffin y DU, ac mae canran yn destun gwiriadau ffisegol a all gynnwys profi am halogion fel metelau trwm neu weddillion milfeddygol. Nid oes dim yn y Cytundeb Masnach Rydd sy’n dileu unrhyw un o’r gofynion a’r sicrwydd hyn mewn perthynas â masnach barhaus.
Dadansoddi penodau perthnasol
5.1 Wrth asesu’r gwaith o gynnal y mesurau diogelu statudol presennol ar gyfer diogelwch bwyd, mae’r penodau canlynol yn arbennig o berthnasol:
Pennod 5 – Gweithdrefnau Tollau a Hwyluso Masnach
Pennod 6 – Mesurau Iechydol a Ffytoiechydol
Pennod 7 – Rhwystrau Technegol i Fasnachu
Pennod 25 – Darpariaethau ar Ymwrthedd Gwrthficrobaidd
5.2 Pennod 5 – Gweithdrefnau Tollau a Hwyluso Masnach
Mae sawl erthygl yn y bennod hon sy’n cynnwys darpariaethau sy’n ymwneud â’r gweithdrefnau tollau ar gyfer nwyddau, yn enwedig erthyglau 5.7 ar Hwyluso Llwythi, erthygl 5.8 ar Ryddhau Nwyddau ac erthygl 5.20 ar Nwyddau Darfodus. Ym mhob achos, mae eithriadau wedi’u cynnwys yn y testun sy’n sicrhau, lle bo angen gwiriadau Iechydol a Ffytoiechydol gan Awdurdodau Iechyd Porthladdoedd (gan gynnwys gwiriadau diogelwch bwyd ar fewnforion), y gellir dal i gynnal y rhain fel y gwneir ar hyn o bryd heb unrhyw gyfyngiadau amser. Felly, lle mae angen gwiriadau dogfennol, adnabod neu ffisegol, gan gynnwys samplu a phrofi at ddibenion diogelu iechyd y cyhoedd, mae hyn yn golygu na fyddai’r amserau rhyddhau a nodir yn yr erthyglau hyn yn gymwys.
Mae Erthygl 5.9 ar reoli risg hefyd yn gymwys i reolaethau swyddogol a gynhelir mewn Mannau Arolygu ar y Ffin gan Awdurdodau Iechyd Porthladdoedd. Nid oes dim yn yr erthygl sy’n atal Awdurdodau Iechyd Porthladdoedd rhag parhau i gynnal gwiriadau a gwyliadwriaeth ar sail risg ar fwyd a bwyd anifeiliaid wedi’u mewnforio fel sy’n digwydd ar hyn o bryd.
5.3 Pennod 6 – Mesurau Iechydol a Ffytoiechydol
Mae testun y bennod ar fesurau Iechydol a Ffytoiechydol y cytunwyd arno ar y cyd ag Awstralia yn hollbwysig o ran cadw hawl y DU i gynnal cyfreithiau a rheoliadau presennol i ddiogelu iechyd y cyhoedd, gan gynnwys diogelwch bwyd. Mae hefyd yn bwysig nad yw’r testun y cytunwyd arno wedi amharu ar y ffordd y mae rheoleiddio a gorfodi cyfraith bwyd yn cael ei gweithredu yn y DU. Mae’r erthyglau allweddol canlynol yn nodi sut mae’r testun yn cyflawni hyn:
5.3.1 Erthygl 6.4 Cadarnhau Cytundeb Iechydol a Ffytoiechydol
Mae cadarnhau hawliau a rhwymedigaethau o dan Gytundeb Iechydol a Ffytoiechydol Sefydliad Masnach y Byd yn golygu bod y Partïon yn cydnabod bod telerau Sefydliad Masnach y Byd yn cael eu blaenoriaethu o ran cymhwyso mesurau sy’n diogelu iechyd a bywydau pobl. Ni fydd dim yn y bennod ar fesurau Iechydol a Ffytoiechydol ag Awstralia yn effeithio ar hynny. Mae hyn yn arwyddocaol gan fod Cytundeb Iechydol a Ffytoiechydol Sefydliad Masnach y Byd yn rhoi hawliau pwysig i’r ddau Barti sy’n caniatáu i ni osod ein lefel ein hunain o fesurau diogelu iechyd cyhoeddus sy’n briodol i’r boblogaeth, yn unol â’r wyddoniaeth a’r dystiolaeth berthnasol, yr economeg gymdeithasol a’r ymarferoldeb technegol (Erthygl 5, Cytundeb Iechydol a Ffytoiechydol Sefydliad Masnach y Byd). (footnote 9)
5.3.2 Erthygl 6.5 Gwyddoniaeth ac Asesu Risg
Mae’r erthygl ar wyddoniaeth ac asesu risg yn ail-gadarnhau pwysigrwydd sicrhau bod mesurau Iechydol a Ffytoiechydol yn seiliedig ar egwyddorion gwyddonol (yn unol ag Erthygl 2(2) o Gytundeb Iechydol a Ffytoiechydol Sefydliad Masnach y Byd). Mae hefyd yn cyfeirio’n uniongyrchol at ddarpariaethau erthygl 5 Sefydliad Masnach y Byd ar asesu risg sy’n cynnwys y gallu i fabwysiadu mesurau Iechydol a Ffytoiechydol dros dro ar sail gwybodaeth berthnasol pan fo tystiolaeth wyddonol berthnasol yn annigonol. Mae’r rheolau rhyngwladol hyn yn sail i fframwaith y DU ar gyfer rheoleiddio diogelwch bwyd – er enghraifft, mae cyfraith bwyd gyffredinol y DU yn cynnwys egwyddor ragofalus y gellir ei mabwysiadu lle nodir y posibilrwydd o effeithiau niweidiol ar iechyd ond bod ansicrwydd gwyddonol yn parhau. Nid oes dim yn yr erthygl hon sy’n cyfyngu ar y ffordd y mae’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban yn cynnal dadansoddiadau risg ar gyfer materion diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid.
5.3.3 Erthygl 6.7 Cywerthedd
Mae Erthygl 4 o Gytundeb Iechydol a Ffytoiechydol Sefydliad Masnach y Byd ar Gyfwerthedd (footnote 10) yn ei gwneud yn ofynnol i aelodau o Sefydliad Masnach y Byd dderbyn mesurau Iechydol a Ffytoiechydol aelodau eraill fel mesurau cyfatebol. Os yw’r aelod sy’n allforio’n dangos yn wrthrychol fod ei fesurau’n cyrraedd lefelau diogelu priodol yr aelod sy’n mewnforio, mae’n rhaid i’r aelod sy’n mewnforio dderbyn y mesurau hyn, hyd yn oed os ydynt yn wahanol i’w rai ef.
Datblygodd Pwyllgor Iechydol a Ffytoiechydol Sefydliad Masnach y Byd ganllawiau penodol i helpu aelodau i weithredu’r erthygl hon. (footnote 11) Mae penderfyniadau cywerthedd o’r fath yn hwyluso masnach, a gallant arwain at fasnachu haws mewn perthynas â’r cynhyrchion yr effeithir arnynt gan y deddfau a’r rheoliadau y bernir eu bod yn gyfwerth.
Ni chytunwyd ar unrhyw benderfyniadau cywerthedd newydd ar gyfer cynhyrchion bwyd-amaeth fel rhan o’r Cytundeb Masnach Rydd hwn. Cytunwyd ar egwyddorion lefel uchel sy’n ailgadarnhau telerau Sefydliad Masnach y Byd ar y dull y bydd yn rhaid i bob Parti ei ddefnyddio ar gyfer penderfyniadau cywerthedd yn y dyfodol, ynghyd â thestun sy’n rhoi cyfle i Bartïon sefydlu proses fanylach, sy’n dderbyniol i’r ddwy ochr, ar gyfer gwneud penderfyniadau cywerthedd yn y dyfodol. Bydd sut y gallai unrhyw fecanwaith cywerthedd yn y dyfodol weithio’n ymarferol yn allweddol, a byddai’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban yn cymryd rhan mewn unrhyw drafodaethau yn y dyfodol ar broses o’r fath. Byddai’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban hefyd yn chwarae rhan allweddol ochr yn ochr ag adrannau eraill o’r llywodraeth wrth asesu risg unrhyw geisiadau cywerthedd yn y dyfodol ac wrth argymell unrhyw amodau masnachu arbennig (a allai gynnwys gofynion penodol ar gyfer prosesu, pecynnu ac ati) a allai fod yn ofynnol i fodloni lefelau diogelu’r DU o ran diogelwch bwyd. Fel y mae Which? wedi nodi yn ei ymateb, mae hyn yn bwysig oherwydd – “y bydd sut y cymhwysir cywerthedd yn arwyddocaol oherwydd bod llawer o’r safonau sy’n bwysig i ddefnyddwyr yn ymwneud â sut y cyflawnir y lefel ddiogelu, hynny yw’r broses gynhyrchu, nid y canlyniad terfynol yn unig”. Ni fyddai penderfyniadau o’r fath yn atal y DU rhag gwneud newidiadau i’n trefn Iechydol a Ffytoiechydol yn y dyfodol er budd defnyddwyr ledled y DU, ac os felly byddai unrhyw benderfyniad yn cael ei adolygu. Yn bwysig, mae’r penderfyniad terfynol ar gywerthedd bob amser yn nwylo’r parti sy’n mewnforio.
5.3.4 Erthygl 6.8 Amodau Masnach
Nid oes dim yn yr erthygl hon sy’n effeithio ar allu’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban i gyflawni eu rôl a datblygu cyngor rheoli risg a gweithredu cyfraith bwyd fel yr ydym yn ei wneud ar hyn o bryd.
5.3.5 Erthygl 6.9 Archwilio a Gwirio
P’un ai yng nghyd-destun archwiliad y DU yn Awstralia neu wrth hwyluso taith fewnol o Awstralia yma yn y DU, mae’r erthygl hon yn gosod fframwaith defnyddiol ar gyfer cynnal archwiliadau gyda’r bwriad o leihau beichiau ar y Partïon a sicrhau bod paramedrau archwiliad yn cael eu cyfleu’n glir ac y cytunir arnynt ymlaen llaw. Nid oes dim yn yr erthygl sy’n atal y DU rhag cynnal archwiliad lle gellir ei gyfiawnhau at ddibenion ceisio sicrwydd ar systemau rheoli diogelwch bwyd Awstralia, ac nid yw ychwaith yn atal y DU rhag cynnal mesurau diogelwch bwyd brys fel y bo’n briodol (gweler paragraff 5.3.8 isod).
5.3.6 Ardystiad Erthygl 6.10
Mae’r erthygl hon yn cadw hawl y DU i fynnu bod bwydydd a fewnforir o Awstralia yn cael eu hardystio’n swyddogol pan fernir bod hynny’n angenrheidiol, a hynny er mwyn cael sicrwydd fesul llwyth fod gofynion mewnforio’r DU wedi’u bodloni. Fodd bynnag, mae hyn ond yn berthnasol i’r graddau sy’n angenrheidiol i fodloni amcanion cyfreithiau a rheoliadau sy’n gymwys yn y DU – mae hyn yn cyd-fynd â’r dull cymesur sy’n seiliedig ar risg a ddefnyddir i reoleiddio diogelwch bwyd yn y DU.
5.3.7 Erthygl 6.11 Gwiriadau a ffioedd mewnforio
Nid yw’r erthygl hon yn cyfyngu ar hawl y DU i gynnal gwiriadau mewnforio ar sail risg nac i gymryd camau gorfodi priodol pan nodir achosion o ddiffyg cydymffurfio, yn unol â chyfreithiau a rheoliadau presennol y DU.
5.3.8 Erthygl 6.12 Mesurau Brys Iechydol a Ffytoiechydol
Mae’r testun ynghylch mesurau brys yn parchu hawl y ddau Barti i gymryd camau cyflym i ddiogelu bywyd ac iechyd pobl. Mae hefyd yn gosod rhai paramedrau ar gyfer sut y byddai’r Partïon yn mynd i’r afael ag achosion o’r fath ac ar gyfer cynnal adolygiadau sy’n seiliedig ar wyddoniaeth i gyfiawnhau naill ai barhau â’r mesurau neu gael gwared arnynt.
5.3.9 Erthygl 6.14 Tryloywder, Hysbysiadau a Chyfnewid Gwybodaeth
Mae’r erthygl hon yn ei gwneud yn ofynnol i Awstralia roi gwybod i’r DU yn brydlon am fater diogelwch bwyd sylweddol sy’n ymwneud â nwyddau a fasnachir gyda’r DU, a rhannu gwybodaeth mewn modd amserol a allai gefnogi ein hymateb. Mae hyn yn ategu’r berthynas dda sydd gan yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban eisoes â’r Pwyntiau Cyswllt Brys yn Awdurdod Diogelwch Bwyd Awstralia ac fel aelodau o INFOSAN – Rhwydwaith Awdurdodau Diogelwch Bwyd Rhyngwladol. Yn yr un modd, byddai gwybodaeth yn ymwneud ag unrhyw fater diogelwch bwyd sylweddol sy’n effeithio ar Ogledd Iwerddon hefyd yn cael ei chyfleu trwy System Rhybuddio Cyflym yr UE ar gyfer Bwyd a Bwyd Anifeiliaid, gan fod Gogledd Iwerddon o fewn parth rheoleiddio’r UE.
5.3.10 Erthygl 6.16 Pwyllgor ar Fesurau Iechydol a Ffytoiechydol
Mae’r erthygl hon yn sefydlu fforwm lle gall y DU ac Awstralia ystyried unrhyw fater sy’n ymwneud â’r bennod ar fesurau Iechydol a Ffytoiechydol. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, adolygu o bryd i’w gilydd sut mae’r Partïon yn rhoi’r bennod ar waith o ran cyfnewid gwybodaeth berthnasol a nodi cyfleoedd i gydweithio. Yn anad dim, gall gweithgareddau’r Pwyllgor gynnwys trafodaethau ar fesurau Iechydol a Ffytoiechydol arfaethedig sy’n cael eu hystyried naill ai gan y DU neu Awstralia, cytuno ar weithdrefn ar gyfer asesiadau cywerthedd, yn ogystal â datrys materion Iechydol a Ffytoiechydol sy’n effeithio ar fasnach rhwng y ddwy wlad. Mae’n bwysig tynnu sylw at y ffaith y bydd y fforwm hwn, ynghyd ag unrhyw weithgorau technegol a sefydlwyd gan y Pwyllgor Iechydol a Ffytoiechydol, yn gweithio i ddatrys materion masnach o fewn terfynau’r fframweithiau rheoleiddio presennol. Ni fwriedir i strwythurau’r Pwyllgor hyn ddisodli na thrawsfeddiannu’r mecanweithiau a’r prosesau ar wahân ar gyfer gwneud penderfyniadau y gall partneriaid masnachu, gan gynnwys Awstralia, er enghraifft, eu defnyddio i wneud cais i allforio cynnyrch newydd i’r DU, neu i gael ymgynghoriad ffurfiol ar reoliadau newydd arfaethedig ac ati. Bydd y fforwm yn helpu i gyfeirio sefydliadau at y sianeli pwrpasol hyn ac yn hwyluso cyfathrebu rhyngom. Mae hyn yn hanfodol i’r ymrwymiad sylfaenol a wnaed gan y ddwy ochr yn y Cytundeb Masnach Rydd hwn, sef y bydd y ddau Barti’n cydnabod ymreolaeth a hawl sofran ei gilydd i reoleiddio o fewn eu tiriogaethau, a bydd hyn yn allweddol i gynnal mesurau diogelu statudol yn y dyfodol.
5.3.11 Erthygl 6.18 Peidio â Chymhwyso Setliad Anghydfod
Mae peidio â chymhwyso setliad anghydfod at y bennod ar fesurau Iechydol a Ffytoiechydol yn golygu nad oes gan y DU nac Awstralia hawl i setlo anghydfod o dan y Cytundeb Masnach Rydd ar gyfer materion Iechydol a Ffytoiechydol. Yn hytrach, byddai angen codi unrhyw anghydfod drwy fecanweithiau Sefydliad Masnach y Byd fel sy’n digwydd ar hyn o bryd. Fodd bynnag, gall Partïon ddefnyddio darpariaethau’r Cytundeb Masnach Rydd ar ymgynghori technegol i geisio datrys materion yn ddwyochrog.
5.4 Pennod 7 – Rhwystrau Technegol i Fasnachu
Mae’r bennod ar Rwystrau Technegol i Fasnachu yn berthnasol i gynnal mesurau diogelu statudol mewn perthynas ag iechyd pobl, gan gynnwys diogelwch bwyd, i’r graddau y mae’n cadw hawl y DU i reoleiddio yn unol â hawliau a rhwymedigaethau rhyngwladol Sefydliad Masnach y Byd ac mewn perthynas â darpariaethau marcio a labelu penodol, fel y nodir isod.
5.4.1 Erthygl 7.4 Cadarnhau’r Cytundeb Rhwystrau Technegol i Fasnachu
Mae cadarnhau hawliau a rhwymedigaethau o dan Gytundeb Rhwystrau Technegol i Fasnachu Sefydliad Masnach y Byd yn golygu bod y Partïon yn cydnabod pwysigrwydd telerau Sefydliad Masnach y Byd wrth gymhwyso rheoliadau technegol, safonau a gweithdrefnau asesu cydymffurfiaeth. O ganlyniad, mae’r testun y cytunwyd arno’n ail-gadarnhau hawl y DU i roi mesurau technegol ar waith i gyflawni amcanion polisi cyfreithlon, gan gynnwys diogelu iechyd pobl a diogelwch bwyd (Erthygl 2, Cytundeb Rhwystrau Technegol i Fasnachu Sefydliad Masnach y Byd).
5.4.2 Erthygl 7.5 Rheoliadau Technegol
Mae Erthygl 2.7 o Gytundeb Iechydol a Ffytoiechydol Sefydliad Masnach y Byd yn ei gwneud yn ofynnol i aelodau o Sefydliad Masnach y Byd roi cydnabyddiaeth gadarnhaol i dderbyn rheoliadau technegol cyfatebol aelodau eraill, hyd yn oed os yw’r rheoliadau hyn yn wahanol i’w rhai nhw, ar yr amod eu bod yn fodlon bod y rheoliadau hyn yn cyflawni amcanion eu rheoliadau eu hunain yn ddigonol.
Mae’r erthygl hon yn ail-gadarnhau’r ymrwymiad hon o dan Gytundeb Sefydliad Masnach y Byd, ac yn ei gwneud yn ofynnol i’r DU ac Awstralia, ar gais, egluro’r rheswm dros beidio â derbyn rheoliad technegol y Parti arall fel un sy’n cyfateb i’w reoliad ei hun. O’r herwydd, nid yw’n newid mesurau diogelu statudol presennol y DU i’r graddau y gallai ymwneud â rheoliadau technegol ar gyfer diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid.
5.4.3 Erthygl 7.6 Safonau Rhyngwladol
Mae’r erthygl hon yn ail-gadarnhau ymrwymiadau Sefydliad Masnach y Byd i seilio mesurau Rhwystrau Technegol i Fasnachu ar safonau rhyngwladol perthnasol lle maent yn bodoli. Nid yw hyn yn effeithio ar hawl y DU i reoleiddio nac yn gofyn am newidiadau i fesurau diogelu statudol presennol ar gyfer diogelwch bwyd.
5.4.4 Erthygl 7.8 Marcio a Labelu
Mae’r erthygl hon yn adeiladu ar yr hawliau a’r rhwymedigaethau cyffredinol sydd yng Nghytundeb Rhwystrau Technegol i Fasnachu Sefydliad Masnach y Byd gan gyfeirio’n benodol at farcio a labelu, sy’n cynnwys mesurau marcio neu labelu sy’n ofynnol at ddibenion diogelwch bwyd neu fwyd anifeiliaid. Felly, yn unol ag ymrwymiadau Sefydliad Masnach y Byd, mae testun yr erthygl hon yn diogelu hawl y DU i reoleiddio at ddibenion labelu ynghylch diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid ac nid oes angen newid mesurau diogelu statudol presennol y DU. Mae’n rhaid i’r DU ac Awstralia sicrhau nad yw mesurau o’r fath yn gwahaniaethu ac nad ydynt yn cyfyngu ar fasnach yn fwy nag sy’n angenrheidiol i gyflawni amcanion polisi cyfreithlon (Erthygl 2, Cytundeb Rhwystrau Technegol i Fasnachu Sefydliad Masnach y Byd). Mae’r erthygl hefyd yn rhoi rhywfaint o hyblygrwydd i’r DU ac Awstralia dderbyn gwybodaeth orfodol am farcio neu labelu a ddarperir ar labeli datodadwy neu ddogfennaeth ategol, lle nad yw amcanion polisi cyfreithlon yn cael eu peryglu.
5.5 Pennod 25 – darpariaethau ar ymwrthedd gwrthficrobaidd
5.5.1 Erthygl 25.2 Ymwrthedd Gwrthficrobaidd
Mae ymwrthedd gwrthficrobaidd yn flaenoriaeth strategol genedlaethol ar gyfer llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig, sydd wedi arwain at ddatblygu gweledigaeth 20 mlynedd newydd ar gyfer ymwrthedd gwrthficrobaidd, a’r Cynllun Gweithredu Cenedlaethol 5 mlynedd cyfredol, a fydd ar waith tan 2024. Mae allbynnau o raglen ymchwil ymwrthedd gwrthficrobaidd yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban a gweithgaredd partneriaeth traws-lywodraethol yn cyfrannu at y Cynllun Gweithredu Cenedlaethol, yn ogystal â gwella ein gallu i gynnal asesiadau risg diogelwch bwyd ar ymwrthedd gwrthficrobaidd i sicrhau bod gwaith yn y dyfodol yn bodloni heriau pwysig sy’n dod i’r amlwg. Mae testun Pennod 25 ar ymwrthedd gwrthficrobaidd yn hyrwyddo dulliau cryfach o ran gwyliadwriaeth a monitro ymwrthedd gwrthficrobaidd (25.2(5)) sy’n cefnogi ein rhaglenni ymchwil ar ymwrthedd gwrthficrobaidd a’n hagenda gwyliadwriaeth ein hunain. Mae’r gydnabyddiaeth o bwysigrwydd dull ‘Un Iechyd’, yn unol â’r Cynllun Gweithredu Byd-eang (25.2(2)), yn cyd-fynd â’r dull y mae’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban yn ei fabwysiadu mewn perthynas â gweithgareddau gwyliadwriaeth, gan gydnabod y goblygiadau hollbwysig i ddiogelwch bwyd, iechyd pobl a diogeledd bwyd. Er bod y ‘Gynghrair i Arbed Ein Gwrthfiotigau’ yn cydnabod nad yw’r Cytundeb Masnach Rydd ei hun yn defnyddio mesurau diogelu, mae hefyd wedi croesawu’r gydnabyddiaeth rhwng y DU ac Awstralia o bwysigrwydd dull trawswladol, ‘Un Iechyd’ tuag at ymwrthedd gwrthficrobaidd yn y Cytundeb Masnach Rydd.
6.0 Casgliadau
6.1 Rydym wedi nodi cyngor yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban ar destun y Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU ac Awstralia a’i effaith ar fesurau statudol ar gyfer diogelwch bwyd. I grynhoi, dyma ein casgliadau:
- Mae’r Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU ac Awstralia yn cynnal y mesurau diogelwch statudol presennol ar gyfer diogelwch bwyd yn unol â’r gyfraith a ddargedwir.
- Nid oes angen unrhyw newidiadau i system reoleiddio diogelwch bwyd y DU i weithredu’r Cytundeb Masnach Rydd hwn ar ôl iddo ddod i rym.
- Mae testun y Cytundeb Masnach Rydd yn cadw ymreolaeth reoleiddiol llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig o ran materion diogelwch bwyd, ac ni fydd yn rhagfarnu yn erbyn unrhyw benderfyniadau yn y dyfodol yn hyn o beth. Bydd gweinidogion iechyd ledled y DU yn parhau i wneud penderfyniadau ynghylch diogelwch bwyd ar sail cyngor tryloyw ar wyddoniaeth a thystiolaeth gan yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban. Mae hyn yn allweddol i gynnal mesurau diogelu statudol yn y dyfodol.
-
At ddibenion y cyngor hwn, mae unrhyw gyfeiriad at ddiogelwch bwyd yn cynnwys diogelwch bwyd anifeiliaid lle mae’n ymwneud ag iechyd pobl.
-
Arolwg Tracio Defnyddwyr Food in Scotland Cylch 13 – Safonau Bwyd yr Alban
-
Blaenoriaethau defnyddwyr a bargeinion masnach Which? ar gyfer mis Rhagfyr 2021
-
Gwasanaeth gwneud cais i awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig ym Mhrydain Fawr
-
Gwybodaeth Fasnach y DU gan CThEF fel y crynhoir yn Offeryn Masnach yr ASB.
-
Cytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Gymhwyso Mesurau Iechydol a Ffytoiechydol
-
Diffinnir cywerthedd gan Sefydliad Masnach y Byd fel y cyflwr lle mae mesurau iechydol neu ffytoiechydol a ddefnyddir mewn gwlad allforio, er eu bod yn wahanol i’r mesurau a gymhwysir mewn gwlad sy’n mewnforio, yn cyflawni lefel briodol o fesurau diogelu iechydol neu ffytoiechydol y wlad sy’n mewnforio, fel y dangosir gan y wlad sy’n allforio ac a gydnabyddir gan y wlad sy’n mewnforio.
-
Penderfyniad Pwyllgor Mesurau Iechydol a Ffytoiechydol Sefydliad Masnach y Byd ar Gyfwerthedd
Hanes diwygio
Published: 8 Awst 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Ionawr 2024