Cyfarfod Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru – 21 Ebrill 2022
Cyfarfod hybrid wyneb yn wyneb a dros Microsoft Teams
Agenda a Phapurau
Cyfarfod Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru â Thema
Thema: Diffyg diogeledd bwyd (Food Insecurity)
09:30 – 09:35 Croeso, ymddiheuriadau a datganiadau buddiannau
09:35 – 09:40 Adroddiad Cadeirydd WFAC
09:40 – 09:45 Adroddiad Cyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru
09:45 – 10:05 Tueddiadau yn yr economi a chostau byw: asesu’r effaith ar aelwydydd – Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd (MS Teams)
10:05 – 10:25 Diffyg diogeledd bwyd mewn cyd-destun: Mewnwelediad a dadansoddiad yr ASB – Joanna Disson, Pennaeth Gwyddor Gymdeithasol, yr ASB (MS Teams)
10:25 – 11:05 Sut mae pobl sy’n profi tlodi bwyd yn cael mynediad at fwyd:
- Yr Athro Yingli Wang, Logisteg a Rheoli Gweithrediadau, Prifysgol Caerdydd – Fideo wedi’i recordio ymlaen llaw
- Susan Lloyd-Selby, Arweinydd Rhwydwaith Cymru – Ymddiriedolaeth Trussell
- Sarah Germain, Prif Swyddog Gweithredol, a Katie Padfield, Pennaeth Datblygu – FareShare Cymru (MS Teams)
11:05 – 11:15 Egwyl
11:15 – 11:35 Mynd i’r Afael â Thlodi Bwyd – Llywodraeth Cymru – David Lloyd-Thomas, Pennaeth yr Uned Polisi a Strategaeth Bwyd, a Maureen Howells, Yr Is-adran Dyfodol Ffyniannus (MS Teams)
11:35 – 11:50 Ymagwedd amgen at dlodi bwyd a bwyta iachus – Robbie Davison, Can Cook (Yn bersonol)
11:50 – 12:05 Diffyg diogeledd bwyd – Ystyriaethau diogelwch bwyd ar gyfer awdurdodau lleol – Ceri Edwards, Rheolwr Iechyd yr Amgylchedd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, a Daniel Morelli, Pennaeth Diogelu’r Cyhoedd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (MS Teams)
12:05 – 12:30 Strategaeth Graidd yr ASB a Diffyg Diogeledd Bwyd: Edrych tua’r dyfodol – Tîm Strategaeth yr ASB a Thîm y Gwyddorau Cymdeithasol (MS Teams)
12:30 – 12:45 Diffyg diogeledd bwyd – Yr effaith ar ymddygiad deietegol – Charlotte Hardman, Uwch Ddarlithydd a Chyfarwyddwr Ymchwil Ôl-raddedig
Adran Seicoleg, Prifysgol Lerpwl (MS Teams)
12:45 – 13:30 Egwyl ginio
13:30 – 14:30 Trafodaeth bwyllgor ar feysydd gweithredu posib i’r ASB mewn perthynas â diogelwch bwyd – Aelodau WFAC
Unrhyw faterion eraill a dod â’r cyfarfod i ben