Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru a gynhaliwyd ar 20 Hydref 2022
Cyfarfod Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru ar thema benodol a gynhelir yn Wrecsam - Y Dirwedd Fwyd: Edrych tua'r dyfodol
Yn bresennol
Aelodau Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) a oedd yn bresennol:
- Peter Price, Chair
- Alan Gardner
- Dr Philip Hollington
- Christopher Brereton OBE
- Helen Taylor
- Georgia Taylor
- Dr John Williams
- Jessica Williams
Swyddogion yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a oedd yn bresennol:
- Julie Pierce – Cyfarwyddwr Cymru, Gwybodaeth a Gwyddoniaeth
- Nathan Barnhouse – Cyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru
- Sioned Fidler – Pennaeth Cyfathrebu, y Gymraeg a Chymorth Busnes
- Lucy Edwards – Rheolwr Busnes
- Sarah Aza - Pennaeth y Bartneriaeth ag Awdurdodau Lleol
Arsylwyr:
- Cynrychiolwyr o awdurdod lleol Sir y Fflint
- Cynrychiolwyr o awdurdod lleol Powys
- Cynrychiolwyr o awdurdod lleol Sir Ddinbych
- Cynrychiolwyr o’r Ganolfan Technoleg Bwyd
- Cynrychiolwyr o NFU Cymru
- Cynrychiolwyr o Gyngor Gogledd Cymru
- Cynrychiolwyr o awdurdod lleol Wrecsam
- Cynrychiolwyr o Village Dairy
- Cynrychiolwyr o awdurdod lleol Conwy
- Cynrychiolwyr o Laethdy Mynydd Mostyn
- Cynrychiolwyr o Sabor de Amor
- Cynrychiolwyr o BASC
Cyflwynwyr:
- Rebecca Pomeroy - Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
- Robert Preston - Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
- Clive Woolley - Rowan Foods
- Gareth Parry - Undeb Amaethwyr Cymru (FUW)
- Dr Robert Elias - Prifysgol Bangor
- Jason Murphy - Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch (AMRC) Cymru
1. Cyflwyniadau ac ymddiheuriadau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
2. Datgan buddiannau
2.1 Gwnaeth Phil Hollington ddatgan ei fod wedi cymryd swydd arholwr allanol ychwanegol yn IBERS ac nad yw ei wraig bellach yn Brif Weithredwr Dyfodol i’r Iaith. Gwnaeth Alan Gardner ddatgan ei fod yn aelod o FUW ac yn Gyfarwyddwr anweithredol FUW Ltd.
3. Y Dirwedd Fwyd: Edrych tua’r dyfodol
3.1 Rebecca Pomeroy and Robert Preston, Wrecsam CBC
Roedd y cyflwyniad yn rhoi trosolwg o swyddogaethau diogelwch bwyd a safonau masnach Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae tua 1300 o safleoedd bwyd wedi’u cofrestru gyda Wrecsam, yn arlwywyr bach a gweithgynhyrchwyr mawr, yn ogystal ag 16 o safleoedd cymeradwy. Rhoddodd Robert drosolwg o’r berthynas partneriaeth sydd gan Wrecsam fel Prif Awdurdod â 5 busnes bwyd gwahanol, gan egluro bod swyddogion yn gweithio gyda’r busnesau i’w cynorthwyo i ddatblygu systemau rheoli diogelwch bwyd, olrheiniadwyedd, hyfforddiant a phrosesau adolygu ac asesu er mwyn darparu cyngor sicr. Rhoddodd Robert drosolwg o’r grŵp defnyddwyr Prif Awdurdod yng Nghymru a ddefnyddir i rannu arferion gorau, cynnal adolygiadau cymheiriaid a chydlynu hyfforddiant. Daeth y cyflwyniad i ben yn nodi heriau’r dyfodol sy’n wynebu awdurdodau lleol. Roedd pryderon yn ymwneud â chyllid i awdurdodau lleol o ganlyniad i ymarferion arbed costau ar draws y llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus yn ogystal â newidiadau yn yr amgylchedd rheoleiddio a allai arwain at bwysau ychwanegol ar adnoddau a llwythi gwaith.
3.2 Clive Wooley, Rowan Foods - Heriau a chyfleoedd i fusnesau bwyd
Rhoddodd y cyflwyniad gipolwg ar y busnes. Mae Rowan Foods yn gweithredu o 3 safle gyda dros 2500 o weithwyr wedi’u lleoli’n bennaf yng Ngogledd Cymru. Mae’r cwmni’n cynhyrchu dros 3 miliwn o brydau parod yr wythnos, gan gyflenwi i fanwerthwyr mawr fel Morrisons, Tesco, Sainsbury’s ac Asda. Eglurodd Clive mai’r heriau presennol i’r cwmni yw costau cynyddol cyflenwadau a chynhyrchion, yn ogystal ag effaith y rhyfel yn yr Wcráin a Ffliw Adar ar gadwyni cyflenwi. Mae’r ffactorau hyn yn arwain at heriau pellach wrth ddatblygu bwyd maethlon iachus am gost resymol. Mae heriau’r dyfodol yn cynnwys newid yn yr hinsawdd sy’n effeithio ar dwf cnydau, yr argyfwng economaidd parhaus gyda defnyddwyr yn chwilio am gynhyrchion cost is, newidiadau o ran deiet ac iechyd gyda chynnydd mewn proteinau amgen, ac effeithiau parhaus ymadael â’r UE. Rhannodd Clive ei ganmoliaeth am y gefnogaeth a’r cyngor a gafodd y busnes gan awdurdod lleol Wrecsam.
3.3 Gareth Parry, Undeb Amaethwyr Cymru (FUW)
Roedd y cyflwyniad yn dangos y costau cynyddol i’r sector amaethyddol ar gyfer nwyddau fel gwrtaith a bwyd anifeiliaid, tra bod prisiau da byw bellach wedi dechrau aros yn gyson. Eglurodd Gareth fod cyfleoedd ar gael drwy fewnbynnu i’r Bil Amaethyddiaeth (Cymru). Bydd hyn yn rhoi cyfle i ffermwyr ac undebau ffermwyr lunio a chyd-weddu’r amcanion a’r anghenion ffermio ac amaethyddiaeth yng Nghymru. Mae FUW hefyd yn gweld cyfle i ddylanwadu ar y gallu i gynhyrchu bwyd wrth ofalu am yr amgylchedd a mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Dywedodd Gareth fod cynigion ar gyfer cymorth amaethyddol yn y dyfodol wrthi’n cael eu diwygio a phwysleisiodd fod ffermwyr yn Lloegr wedi dechrau gweld toriadau o 25%. Mae’r System Taliad Sylfaenol wedi’i gwarantu yng Nghymru ar hyn o bryd tan 2023. Nid yw’r sefyllfa mor glir o 2024 ymlaen, ac mae FUW yn ymgynghori â Llywodraeth Cymru ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
3.4 Dr Robert Elias, Biogyfansoddion Prifysgol Bangor
Roedd y cyflwyniad yn disgrifio’r ymchwil ar ddeunydd pecynnu bwyd cynaliadwy sy’n cael ei chynnal yn y Ganolfan. Mae gan y Ganolfan uned beilot lle gall gweithgynhyrchwyr greu deunyddiau a’u treialu i’w defnyddio. Dywedodd Dr Elias mai’r diwydiant bwyd yw un o ddefnyddwyr mwyaf deunyddiau plastig, gyda bron i 40% o ddeunydd pecynnu bwyd yn cael eu gwneud o blastig. Nod y cytundeb Plastigau yw sicrhau bod yr holl blastig a ddefnyddir yn cynnwys 30% o blastig wedi’i ailgylchu. Mae hyn yn her i’r sector bwyd gan fod angen ystyried deunyddiau cyswllt. Mae prosiect deunydd pecynnu Smart Sustainable y Ganolfan yn gweithio gyda phartneriaid prosiect Dunbia, BSF ac eraill i ddatblygu dull newydd o becynnu bwyd a datblygu cynnyrch rhwystr o ansawdd uchel sy’n hawdd ei ailgylchu.
3.5 Jason Murphy, Canolfan Gweithgynhyrchu Ymchwil Uwch (AMRC) Cymru
Canolfan dechnoleg o’r radd flaenaf sydd wedi’i lleoli yng Ngogledd Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, Airbus a Phrifysgol Sheffield. Soniodd Jason am waith y ganolfan gydag Airbus ar eu rhaglen ‘Wing of tomorrow’, sy’n defnyddio peirianneg awyrofod i helpu gweithgynhyrchwyr eraill i gyflawni uchelgeisiau gweithgynhyrchu uwch, fel gwella deunydd pecynnu bwyd. Roedd y cyflwyniad hefyd yn disgrifio gwaith cyfredol y ganolfan ar eu prosiect Polytag, sy’n canolbwyntio ar gynyddu lefelau ailgylchu plastig yng Nghymru. Mae deunydd pecynnu yn cael ei dagio er mwyn symleiddio’r broses o nodi a didoli gwastraff wedi’i ailgylchu gan ddefnyddio golau ultrasonic, sydd wedyn yn trefnu ac yn didoli’r eitemau yn ôl cyflenwyr neu ddeunyddiau. Maent hefyd yn cydweithio â chynhyrchwyr bwyd i ddatblygu technolegau blaengar a fydd yn awtomeiddio rhai agweddau ar gynhyrchu bwyd, gyda’r nod o leihau gwastraff bwyd.
4. Adroddiad y Cadeirydd (Papur 22/10/02)
4.1 Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad llafar ar ei adroddiad a dywedodd, oherwydd y cyfnod o Alaru Cenedlaethol, fod cyfarfod y Bwrdd wedi’i ganslo ym mis Medi yn ogystal â chyfarfodydd ac ymweliadau cysylltiedig yn Belfast. Cynhaliwyd cyfarfodydd y Pwyllgor Busnes a’r Bwrdd ar-lein ar 23 a 26 Medi yn y drefn honno.
5. Adroddiad y Cyfarwyddwr (Papur 22/10/03)
5.1 Rhoddodd y Cyfarwyddwr ddiweddariad llafar ar ei adroddiad gan dynnu sylw at ddigwyddiadau ymgysylltu llwyddiannus yr haf, sef Sioe Frenhinol Cymru a’r Eisteddfod Genedlaethol, yn ogystal â’r newidiadau sydd ar y gweill o ran Cyfarwyddiaethau’r ASB.
6. Unrhyw fater arall
6.1 Nododd yr aelodau y byddai’r cyfarfod busnes nesaf yn cael ei gynnal ar 1 Rhagfyr a’r cyfarfod â thema nesaf yn cael ei gynnal ar 8 Chwefror 2023 yng Nghaerdydd.
6.2 Daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben.