Cofnodion cyfarfod â thema Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2023
Cyfarfod hybrid â thema – y rhan bwysig sydd gan awdurdodau lleol i’w chwarae wrth reoleiddio busnesau bwyd, gan gynnwys heriau presennol a heriau’r dyfodol.
Yn bresennol:
Aelodau Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) a oedd yn bresennol:
- Peter Price – Cadeirydd
- Alan Gardner
- Dr Philip Hollington
- Christopher Brereton OBE
- Georgia Taylor
- Dr John Williams
Swyddogion yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a oedd yn bresennol:
- Anjali Juneja – Cyfarwyddwr Materion Rhyngwladol a’r Deyrnas Unedig
- Nathan Barnhouse – Cyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru
- Sioned Fidler – Pennaeth Cyfathrebu, y Gymraeg a Chymorth Busnes
- Lucy Edwards – Uwch-reolwr Busnes
- Sarah Aza – Pennaeth y Bartneriaeth ag Awdurdodau Lleol
- Carmel Lynskey – Pennaeth y Rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau
- Jonathan Davies – Pennaeth Polisi Safonau a Diogelu Defnyddwyr
- Owen Lewis – Pennaeth Polisi Rheoleiddio a’r Bartneriaeth ag Awdurdodau Lleol
Arsylwyr:
- Cynrychiolwyr o Wrecsam
- Cynrychiolwyr o Gyngor Sir Fynwy
Cyflwynwyr:
- Ceri Edwards – Cadeirydd Iechyd yr Amgylchedd Cymru
- Judith Parry – Cadeirydd Safonau Masnach Cymru
- Sarah Aza – Pennaeth y Bartneriaeth ag Awdurdodau Lleol, yr ASB yng Nghymru
- Carmel Lynskey – Pennaeth y Rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau
1. Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a chofnodion y cyfarfod diwethaf
1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jessica Williams a Helen Taylor (am ran o’r cyfarfod). Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod mis Mai 2023.
2. Datgan buddiannau
2.1 Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.
3. Gweithrediadau Awdurdodau Lleol
3.1 Gwaith gweithredu Iechyd yr Amgylchedd
Roedd y cyflwyniad yn crynhoi’r tair blynedd diwethaf; y pwysau yr oedd swyddogion Iechyd yr Amgylchedd yn eu hwynebu a’r galwadau arnynt yn ystod y pandemig, gan gynnwys cefnogi lleoliadau gofal a’r rhai mwyaf agored i niwed, cefnogi busnesau, delio â newidiadau i’r Cod Ymarfer ac ymateb i ymgynghoriadau yn ogystal â mynd i’r afael ag effeithiau ymadael â’r UE ac ymateb i argyfyngau sy’n ymwneud â bwyd.
Aeth y cyflwyniad yn ei flaen wedyn i fanylu ar sut y gwnaeth Cynllun Adfer ac arolygon cynnydd yr ASB effeithio ar awdurdodau lleol. Yn ystod y pandemig, symudodd ffocws i safleoedd risg uchel ond mae hyn bellach wedi gadael ôl-groniad o arolygiadau ar gyfer safleoedd risg isel nawr bod awdurdodau lleol wedi dychwelyd i fusnes fel arfer. Esboniodd Ceri fod awdurdodau lleol, yn y gorffennol, yn adrodd ar ddata drwy System Monitro Gwaith Gorfodi Awdurdodau Lleol (LAEMS) a bod yr arolygon cynnydd wedi disodli’r system hon. Aeth Ceri yn ei blaen i egluro bod peth awydd i ddychwelyd i ddefnyddio LAEMS gan fod pryderon bod rhywfaint o ddata critigol a ddefnyddir i olrhain tueddiadau a llywio gwaith gweithredu awdurdodau lleol wedi cael ei golli. Gan mai yn 2018-2019 y cafwyd yr adroddiad data swyddogol diwethaf gan LAEMS, mae pryderon hefyd fod y rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau yn seiliedig ar ddata sydd wedi dyddio. Esboniodd Ceri, gan nad yw data o’r arolwg cynnydd diweddaraf wedi’i gyhoeddi eto, fod Iechyd yr Amgylchedd Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi casglu data crai o awdurdodau lleol sy’n dangos sefyllfa well o lawer ac sydd hefyd yn dangos bod awdurdodau lleol ar y cyfan wedi dychwelyd i fusnes fel arfer.
Tynnodd Ceri sylw at ddata ar adnoddau staff, gorfodi ymatebol, samplu, ymyriadau hylendid bwyd, prosesau cofrestru/cymeradwyo busnesau bwyd a chamau gorfodi, ac esboniodd pa gamau oedd yn cael eu cymryd o ganlyniad. Dywedodd Ceri fod awdurdodau lleol, yn ystod y cyfnod adfer, wedi canfod ei bod yn cymryd mwy o amser i gwblhau arolygiadau a bod angen mwy o gamau gorfodi. Mae hyn oherwydd safonau sy’n syrthio a heriau y mae busnesau’n eu hwynebu, fel costau tanwydd cynyddol a phrinder staff. Dywedodd Ceri fod awdurdodau lleol yn croesawu’r datganiad gweinidogol diweddar a’u bod yn awyddus iawn i weithio gyda’r ASB a Llywodraeth Cymru i ddatblygu dull rheoleiddio cyfannol.
3.2 Cafwyd trafodaethau ynghylch LAEMS a’r arolygon cynnydd. Esboniodd Ceri fod awdurdodau lleol yn croesawu’r dull newydd o weithredu, ond eu bod yn teimlo bod angen data ychwanegol nawr i olrhain tueddiadau ac y byddai o gymorth pe bai’r system LAEMS yn cael ei hadfer hyd nes y caiff adnodd adrodd newydd ei lansio. Roedd cwestiynau ynghylch staffio a hyfforddiant. Dywedodd Ceri ei bod yn anodd recriwtio i’r rolau ond bod rhywfaint o hyblygrwydd nawr ar gyfer hyfforddiant ymarferol i fyfyrwyr. Soniodd Ceri hefyd fod awdurdodau lleol yn gwahodd y byd academaidd i weithio gyda nhw i allu darparu dull amgen o hyfforddi. Cafwyd trafodaeth am ymyriadau ar y safle a’r angen i ymweld â safleoedd risg is. Gofynnwyd cwestiwn ynghylch newidiadau i’r weithdrefn ar gyfer trwyddedu busnesau a sut y gallai hyn effeithio ar y berthynas rhwng awdurdodau lleol a gweithredwyr busnesau bwyd. Dywedodd Ceri y byddai awdurdodau lleol yn falch pe bai’r newid hwn yn cael ei gyflwyno a’i bod yn gobeithio na fyddai gwneud hynny’n effeithio ar y berthynas dda y mae awdurdodau lleol wedi gweithio’n galed i’w meithrin gyda busnesau. Cyfeiriodd at y profiad y mae awdurdodau lleol wedi’i gael gyda thrwyddedau cigyddion a pha mor dda y mae hynny wedi gweithio.
3.3 Dywedodd cynrychiolydd o awdurdod lleol Wrecsam ei fod yn teimlo bod yr arolygon cynnydd yn cymryd mwy o amser na’r datganiad LAEMS gan nad yw systemau gwybodaeth reoli’r awdurdod lleol yn cyfateb yn union i’r cwestiynau a ofynnir yn yr arolygon. Mae angen mynd ati â llaw, felly, i gael gafael ar y data gofynnol. Ategwyd pwynt Ceri am yr anhawster i recriwtio swyddogion hefyd. Soniwyd hefyd am symud safleoedd rhwng categorïau a dod o hyd i fusnesau mwy problemus sy’n dangos nad yw rhai busnesau’n gallu hunan-reoleiddio.
3.4 Gwaith Gweithredu Safonau Masnach
Rhoddodd y cyflwyniad drosolwg o brofiad swyddogion Safonau Masnach (TSOs) ar hyn o bryd a’r heriau drwy gydol y pandemig. Esboniodd Judith fod TSOs ar hyn o bryd yn gweithio yn unol â’r Cod Ymarfer diwygiedig gan yr ASB a oedd yn cynnwys cryn gyfeiriad ar gyfer Iechyd yr Amgylchedd ond ychydig iawn ar gyfer gofynion Safonau Masnach a safonau bwyd gan fod y Cod yn canolbwyntio’n bennaf ar fusnesau newydd a oedd yn cael eu hysbysu yn ystod y pandemig. Roedd y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn gallu bodloni’r safonau a oedd yn ofynnol ganddynt, ond mae hyn wedi gadael ôl-groniad. Mae’r rhan fwyaf o awdurdodau’n bwriadu targedu busnesau risg uchel a risg ganolig yn unol â’r Cod Ymarfer, ac maent yn ceisio ennill tir yn hyn o beth er mwyn sicrhau darpariaeth gynaliadwy o hyn ymlaen. Esboniodd Judith fod busnesau wedi bod yn gweithredu’n wahanol ers y pandemig a bod swyddogion Safonau Masnach yn dal i weld llawer o amrywiaethu yn hytrach na bod busnesau’n dychwelyd i’w gweithrediadau blaenorol. Oherwydd hyn, mae wedi bod yn angenrheidiol rhoi mwy o gyngor mewn perthynas â dulliau gweithredu busnesau ac alergenau. Eglurodd Judith hefyd y gallai’r awdurdodau lleol yn y gorffennol amcangyfrif a darogan nifer y busnesau newydd ar gyfer y flwyddyn i ddod, ond eu bod bellach yn gweld cymaint o fusnesau bwyd newydd mewn mis ag yr oeddent yn eu gweld mewn blwyddyn. Mae yna hefyd dueddiadau gyda rhai busnesau’n ailddechrau i gael sgôr newydd ar ôl iddyn nhw gael sgôr is ynghynt.
Dywedodd Judith nad yw Safonau Masnach wedi cael yr un buddion ariannol ag Iechyd yr Amgylchedd trwy gydol y pandemig. O ran y gweithlu, dywedodd Judith nad yw hyfforddiant Safonau Masnach yn cynnwys gradd a bod awdurdodau lleol yn gweithredu rhaglen hyfforddi fewnol a ddarperir trwy’r Sefydliad Safonau Masnach Siartredig. Mae hyn yn golygu bod swyddogion yn eu swyddi wrth hyfforddi; mae’n system dda gydag elfen ymarferol, sy’n cynnwys cysgodi swyddi. Gall gymryd 3 blynedd ar gyfartaledd i rywun gymhwyso gan fod yn rhaid i swyddogion fynd drwy fframwaith Safonau Masnach llawn ac mae’n costio hyd at £15,000. Esboniodd Judith fod cylch gwaith swyddogion Safonau Masnach yn eang gan gynnwys alergenau, labelu, halogion, ychwanegion, safonau cynnyrch-benodol, cynhyrchion GM, deunyddiau ac eitemau sy’n dod i gysylltiad â bwyd, amnewid, rheoliadau masnachu annheg yn ogystal â’r Ddeddf Twyll a’r Ddeddf Nodau Masnach. Mae hyn yn caniatáu mwy o wytnwch ac yn golygu bod modd ailddyrannu staff pan fydd digwyddiad bwyd. Dywedodd Judith fod gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd gyda Llywodraeth Cymru ar gynllun prentisiaeth.
Eglurodd Judith y gallai’r cynllun prentisiaeth hwn helpu’n sylweddol, pe bai ar gael yng Nghymru. Dywedodd fod awdurdodau lleol yn Lloegr eisoes wedi elwa ar gynllun prentisiaeth gan sicrhau bod dwy garfan o brentisiaid ar gael a lleihau nifer y swyddi gwag sydd gan awdurdodau lleol Lloegr yn sylweddol.
3.5 Yna, soniodd Judith am yr heriau y mae Safonau Masnach yn eu hwynebu, sef diwygio rheoleiddiol, llai o hyblygrwydd ym maes Safonau Masnach gyda’r Cod Ymarfer, diffyg meini prawf sefydlog wrth asesu alergenau ac ati. Mae newidiadau deddfwriaethol, er enghraifft yr agenda lleihau gwastraff bwyd ac archfarchnadoedd yn symud oddi wrth ddyddiadau ‘defnyddio erbyn’, yn creu heriau o ran sicrhau bod defnyddwyr yn cael eu diogelu. Mae cyngor wedi’i ddarparu ar gyfer gwasanaethau gwastraff bwyd ac argyfwng bwyd, hynny yw WRAP, FairShare, banciau bwyd ac mae gwaith a chefnogaeth yn parhau gyda’r sefydliadau hyn i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth. Mae heriau eraill yn cynnwys masnach agored o fewn y DU, plastigau untro, cynnwys halen a siwgr, sicrhau diogelwch cynhyrchion sydd â galw mawr gan ddefnyddwyr a nodi cynhyrchion ffug.
Dywedodd Judith ei bod yn rhagweld y bydd agregwyr bwyd yn her at y dyfodol, yn enwedig wrth sicrhau eu bod yn rhoi gwybodaeth gywir mewn perthynas ag alergenau a’r CSHB. Dywedodd Judith y bu nifer uwch o ddigwyddiadau’n ddiweddar a bod llawer ohonyn nhw’n ymwneud â bwyd wedi’i fewnforio, er enghraifft, mae llawer o felysion Americanaidd yn cynnwys ychwanegion anghyfreithlon. Wrth i fusnesau geisio amrywiaethu, maen nhw’n chwilio am gynhyrchion newydd y mae galw amdanynt ond mae llawer o waith yn cael ei wneud i helpu busnesau i wybod beth y gallan nhw ei wneud yn gyfreithlon fel bod modd arbed buddsoddiad yn gyffredinol.
Mae goblygiadau hefyd o ran labelu’r cynhyrchion hyn mewn perthynas ag alergenau.
Eglurodd Judith hefyd, gan fod caeau yn Wcráin wedi’u halogi â shrapnel, y bydd angen ymchwilio i faint o fetelau trwm sydd mewn bwyd anifeiliaid a gynhyrchir gyda’r grawn. Nid oes gan awdurdodau lleol gyllideb samplu fawr mwyach i allu cynnal profion ar lefel uchel.
3.6 Cafwyd trafodaeth ynghylch adnoddau ar gyfer gwaith safonau bwyd ac ynghylch y posibilrwydd y gallai’r cymhwyster diogelu defnyddwyr symud tuag at gymhwyster mwy modiwlaidd, a allai liniaru pwysau pan fydd brigiadau o achosion neu ddigwyddiadau’n codi; gellid hyfforddi staff yn unol â’r galw gan ganiatáu i awdurdodau lleol adleoli staff. Cafwyd trafodaeth ynghylch cyllidebau samplu, ac eglurwyd sut mae’r ASB yn cyhoeddi cynigion am gyllid samplu a sut mae awdurdodau lleol yn gweithio’n rhanbarthol i gydlynu rhaglenni samplu er mwyn cael darlun ehangach gan nad oes digon o gyllidebau samplu mewn awdurdodau unigol.
3.7 Sut mae’r ASB yng Nghymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol
Amlinellodd y cyflwyniad feysydd gwaith y tîm a sut mae Tîm y Bartneriaeth ag Awdurdodau Lleol yn gweithio gydag awdurdodau lleol yng Nghymru. Esboniodd Sarah fod y tîm yn sicrhau, pan fydd polisi’n cael ei ddatblygu ac wrth i gyngor ac arweiniad gael eu hystyried, fod pob dim yn cael ei wneud o safbwynt cyflawni. Mae'r tîm yn ymdrin â llawer o feysydd gwaith gwahanol, gan gynnwys hylendid bwyd cyffredinol, safleoedd cymeradwy, byrgyrs heb eu coginio’n drylwyr, cychod pysgota, pob agwedd ar gyflenwi fel safonau cyfansoddiadol, atchwanegiadau bwyd, alergenau a deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd. Mae bwyd anifeiliaid ychydig yn wahanol yng Nghymru o gofio bod gan yr ASB gyllideb wedi’i chlustnodi ar gyfer cynnal rheolaethau swyddogol ar fwyd anifeiliaid a’i bod yn goruchwylio’r rhaglen bwyd anifeiliaid ac yn darparu’r cyllid i awdurdodau lleol, gan sicrhau bod y rhaglen bwyd anifeiliaid yn cael ei darparu yn unol â’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd, a hynny wrth weithio’n agos â’r grŵp llywodraethu bwyd anifeiliaid. Mae’r tîm hefyd yn adolygu diweddariadau i’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd a Bwyd Anifeiliaid yn ogystal â chanllawiau statudol eraill y mae awdurdodau lleol yn eu defnyddio, gan sicrhau bod y canllawiau’n newid wrth i’r ddeddfwriaeth newid. Eglurodd Sarah fod y tîm hefyd yn cyflawni swyddogaethau rheoli perfformiad, gan adolygu data a anfonir gan awdurdodau lleol a chysylltu â nhw i drafod unrhyw anghysondebau er mwyn pennu a oes tueddiadau neu feysydd lle gellir darparu cymorth, pe bai angen. Gwneir hyn fesul achos i bob awdurdod lleol. Mae’r tîm hefyd yn gweithio gydag awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i sicrhau’r polisi ar gyfer cynnal y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd. Maes cyfrifoldeb arall yw Rheolaethau Swyddogol Pysgod Cregyn. Mae’r tîm yn gweithio gyda chwe awdurdod lleol sy’n ymdrin â 10 o welyau cynaeafu ledled Cymru. Mae’r tîm hefyd yn cyfrannu at y Rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau i wneud yn siŵr bod y sefyllfa yng Nghymru yn cael ei hadlewyrchu o fewn y gwahanol ffrydiau gwaith.
Eglurodd Sarah fod y tîm yn defnyddio’r llwyfan Hwyluso Cyfathrebu i gysylltu ag awdurdodau lleol a rhoi canllawiau iddynt. Gwneir hyn yn ddwyieithog. Mae’r tîm hefyd yn ymateb i ymholiadau uniongyrchol ac yn ystyried ceisiadau gan awdurdodau lleol i ariannu meysydd gwaith penodol. Enghraifft o hyn yw’r cais gan Safonau Masnach Caerffili i gynorthwyo gyda chyfieithu cyflwyniad hyfforddi a hefyd y gwaith gyda Grŵp Bwyd Gwent Fwyaf, gan gynorthwyo gydag actorion a chyfieithu deunyddiau hyfforddi i 13 o ieithoedd gwahanol. Mae’r tîm hefyd yn darparu hyfforddiant ar gyfer awdurdodau lleol, a thros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae wedi darparu hyfforddiant ar ystod amrywiol o bynciau, gan gynnwys gorsensitifrwydd i fwyd, bwydydd a fewnforir, cysondeb yr CSHB, cyfraith bwyd gyffredinol, a phuro pysgod cregyn, ymhlith eraill. Darparwyd cyllid i uwchsgilio swyddogion hefyd. Mae cyllid grant ar gael i awdurdodau lleol i’w galluogi i ymgymryd â rhaglenni samplu penodol. Mae hyn wedi caniatáu i 696 o samplau gael eu cymryd dros y tair blynedd diwethaf sydd wedyn wedi arwain at gymryd camau ffurfiol. Esboniodd Sarah fod y tîm yn ymgysylltu ag awdurdodau lleol drwy wahanol lwyfannau a grwpiau, gan gynnwys: gweithgorau’r ASB/awdurdodau lleol ar y Model Gweithredu Hylendid; Dangosyddion Perfformiad Allweddol/Data; y fforwm Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau; y gwasanaeth Cofrestru Busnesau Bwyd; grŵp llywio cenedlaethol yr CSHB; grŵp Pysgod Cregyn Cymru; y gweithgor allforio a gwaith ymgysylltu drwy Grŵp Bwyd Diogel, Cynaliadwy a Dilys Cymru; paneli arbenigol Cyfarwyddwyr Diogelu’r Cyhoedd; a gweithdai penodol i Gymru.
3.8 Gofynnwyd cwestiwn ynghylch y cyllid ychwanegol y gall awdurdodau lleol wneud cais amdano. Esboniodd Sarah mai diben y cyllid hwn yw ategu rhaglenni’r awdurdodau lleol sydd eisoes ar waith, gan geisio gwneud y gwaith samplu’n fwy targededig ac yn fwy seiliedig ar risg.
Gwnaed sylw bod yr ymgysylltu ag awdurdodau lleol yn dda yn ôl pob golwg, ond gofynnwyd a oes unrhyw beth arall y gellir ei wneud i sicrhau bod y gwaith ymgysylltu a chanlyniadau’r gwaith hwnnw’n fwy llwyddiannus, yn enwedig ar gyfer llunio polisïau. Mewn ymateb, dyfynnwyd y datganiad gweinidogol diweddar a mynegodd gweithwyr o’r ASB fod hwn yn gyfle gwych i Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a’r ASB gydweithio i hybu newid a chydweithio.
4. Trafodaeth panel a phwyllgor
4.1 Rhoddodd Carmel Lynskey drosolwg o amcanion y rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau, gan egluro bod y dirwedd fwyd wedi newid yn aruthrol yn ystod y 30 mlynedd diwethaf o ganlyniad i dechnoleg a galw gan ddefnyddwyr. Sefydlwyd y rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau i ddatblygu set o ddulliau rheoleiddio craffach sy’n helpu partneriaid cyflenwi ac sy’n targedu’r adnoddau rheoleiddio sydd ar gael at feysydd sy’n peri’r risg fwyaf i ddefnyddwyr, ond hefyd i wella cydymffurfiaeth ar draws y system gyfan. Esboniodd Carmel fod y rhaglen, ers mis Ionawr 2023, yn wahanol, a hynny ers uno elfen drawsnewidiol y Rhaglen Trawsnewid Gweithredol â’r rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau. Mae hyn yn golygu ei bod yn cwmpasu’r system fwyd gyfan mewn perthynas â rheoleiddio ac nid dim ond y meysydd lle mae gwaith rheoleiddio’n cael ei gyflenwi gan bartneriaid awdurdodau lleol, ond hefyd y diwydiant cig, llaeth a gwin, lle mae gwaith rheoleiddio’n cael ei gyflenwi’n uniongyrchol gan bartneriaid cyflenwi’r ASB. Mae’r ASB wedi gorfod ail-fframio’r rhaglen i ystyried adnoddau a sut rydym yn blaenoriaethu ar draws y system gyfan. Y nod yw helpu i foderneiddio’r modd y caiff rheoliadau awdurdodau lleol eu cyflenwi a rhoi cynnig ar ddulliau newydd er mwyn gallu dylunio glasbrint newydd ar gyfer y dyfodol sy’n ystyried sut y bydd y system fwyd yn newid ac yn addasu dros yr 20-30 mlynedd nesaf.
Dywedodd Carmel fod llawer o heriau’n ymwneud â masnach a bod y rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau’n gweithio'n agos â thimau polisi eraill i sicrhau nad yw’r rhaglen yn tanseilio rheoliadau masnach nac yn gwneud pethau’n anoddach i fusnesau. Eglurodd Carmel fod tîm y rhaglen yn cysylltu â rheoleiddwyr bwyd rhyngwladol, busnesau bwyd a grwpiau allweddol eraill i hysbysu a rhannu arferion gorau. Gwneir hyn trwy gyfweliadau, gweithdai ac ymweliadau.
Aeth Carmel i’r afael â phum peth allweddol yr oedd hi wedi’u clywed yn y cyflwyniadau cynharach. Adnoddau – deall bod hwn yn fater allweddol i awdurdodau lleol ac i swyddogion hylendid cig a milfeddygon swyddogol. Soniodd Carmel am y prosiect gallu a chapasiti Awdurdodau Lleol y cyfeiriodd Sarah ato a’r ymgysylltu cadarnhaol sydd wedi deillio o hynny, ond mae rôl i’r ASB o ran pennu lle y gallwn gefnogi a gwneud gwelliannau. Data a TG – gwybod nad yw LAEMS ar gael mwyach ond eisiau rhoi sicrwydd bod yr ASB yn chwilio am system newydd, a’i bod wedi ymrwymo i ddod o hyd i un ateb. Wrthi’n profi system alffa ac yn ystyried a allai hyn weithio. Dylai diweddariad fod ar gael yn ddiweddarach eleni. Cofrestru a thrwydded i fasnachu – rhoddodd Carmel wybod bod y rhaglen newydd ddechrau ymchwil ddarganfod er mwyn deall beth yw’r gofynion hyn a allai o bosib arwain at brosiect yn y maes hwn a allai fod yn benodol i Gymru o ystyried yr awydd am hyn. Addysg – mae’r ASB yn gweithio ar ganllawiau i gynorthwyo busnesau llai (‘Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell’) a chanllawiau cyfathrebu, ac mae’n ystyried y ffordd orau o ddiweddaru’r rhain, fel eu bod o’r gwerth mwyaf i fusnesau bach. Gorfodi – awyddus iawn i ddeall mwy am hyn at ddiben ffrwd waith glasbrint y dyfodol, lle mae’r ASB yn edrych ar strategaeth ddeddfwriaethol y dyfodol a sut y gall sancsiynau syml wneud byd o wahaniaeth i’r sawl sydd ar y rheng flaen. Byddai dysgu cymaint â phosib am hyn a chael gwybod beth fyddai’n gweithio i awdurdodau lleol o’r budd mwyaf i’r rhaglen.
4.2 Dywedodd Ceri fod Carmel wedi sôn am weithio gyda phartneriaid eraill a bod yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi’i grybwyll, ond roedd am dynnu sylw at y ffaith bod mecanwaith cyflenwi’r Awdurdod yn wahanol i’r byd bwyd ac y byddai’n pwysleisio na ddylid defnyddio hyn fel sail i’r model cyflenwi. Dywedodd cynrychiolydd o Gyngor Sir Fynwy ei fod yn falch o glywed am yr ymchwil ddarganfod i’r drwydded i fasnachu yng Nghymru ac y byddai’n awyddus i weithio ar y cyd â’r ASB ar gynllun peilot ar gyfer hyn. Dywedodd aelod o’r pwyllgor fod angen i ni fod yn glir ynghylch y datganiad gweinidogol a bod angen i ni wrando ac ymgynghori’n well, a chael gafael mwy cadarn ar gydgynhyrchu a beth mae hyn yn ei olygu o ran ymgysylltu llwyddiannus wrth edrych tua’r dyfodol.
4.3 I grynhoi, diolchodd y Cadeirydd i’r cyflwynwyr a’r mynychwyr am eu cyflwyniadau a’u mewnwelediad i faes gwaith cymhleth iawn. Dywedodd ei bod yn galonogol bod cyfleoedd yn cael eu ceisio i Gymru arwain y ffordd a threialu rhai o’r meysydd newid a bod y pwyllgor yn edrych ymlaen at gael diweddariadau ar sut mae gwaith y rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau’n datblygu dros y misoedd nesaf.
5. Adroddiad y Cadeirydd (Papur 23/07/02)
5.1 Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad llafar ar ei adroddiad a oedd yn manylu ar gyfarfod y Bwrdd a gynhaliwyd yn Belfast ym mis Mehefin 2023.
6. Adroddiad y Cyfarwyddwr (Papur 23/07/03)
6.1 Rhoddodd y Cyfarwyddwr ddiweddariad llafar ar ei adroddiad a oedd yn cynnwys manylion rhaglen ymgysylltu ar lefel Weithredol yn Sioe Frenhinol Cymru eleni.
7. Unrhyw fater arall
7.1 Nodwyd mai dyma oedd cyfarfod olaf Peter Price ac Alan Gardner. Mae’r ysgrifenyddiaeth ac aelodau’r pwyllgor yn dymuno’n dda iddyn nhw ar gyfer y dyfodol wrth iddyn nhw droi eu sylw at brosiectau newydd. Rhoddwyd diolch iddyn nhw am eu hamser yn gwasanaethu ar y pwyllgor.
7.2 Dywedodd Alan Gardner ei fod yn fraint cael gwasanaethu am ddau dymor fel aelod o WFAC gan gyfrannu at waith hynod bwysig yr ASB. Diolchodd i’r ysgrifenyddiaeth am ei chefnogaeth ac i staff eraill yr ASB sydd wedi rhoi cyflwyniadau a gwybodaeth werthfawr i WFAC, a rhoddodd ddiolch hefyd i Peter am ei gyfnod fel Cadeirydd.
7.3 Diolchodd Peter Price i Alan am ei gyfraniad i’r pwyllgor dros y 6 blynedd diwethaf, gan nodi ei brofiad gwerthfawr ym maes cynhyrchu cynradd. Diolchodd Peter hefyd i dîm yr ASB yng Nghymru, gyda diolch arbennig i ysgrifenyddiaeth WFAC am y gefnogaeth yn ystod ei gyfnod fel Cadeirydd.
7.4 Nododd yr aelodau y byddai’r cyfarfod nesaf â thema yn cael ei gynnal Aberystwyth ym mis Hydref.
Daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben.