Beca Lyne-Pirkis - aelod o Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru
Amlinellu hanes proffesiynol a chymwysterau aelodau Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru.
Mae Beca yn ysgrifennwr bwyd, cogydd, darlledwr ac awdur Cymreig. Fe’i ganwyd a’i magwyd yng Nghaerdydd gyda theulu ffermio yng Ngorllewin Cymru, ar ôl graddio yn 2005 symudodd i Lundain i weithio o fewn y sector celfyddydau a'r sector elusennol. Mae hi'n wraig filwrol falch i'w gŵr Matthew ac yn fam i ddwy ferch ifanc.
Ers cyrraedd y rownd derfynol ar The Great British Bake Off yn 2013, mae Beca wedi cael ei chyfres goginio ei hun ar S4C Becws a Bwyd Parti Beca, ac mae'n ymddangos yn rheolaidd ar Radio Cymru a BBC Radio Wales yn trafod amrywiaeth o bynciau sy'n ymwneud â bwyd.
Mae Beca yn gogydd ymgynghorol yn Borough Market yn Llundain lle mae hi’n arwain arddangosiadau coginio yn ogystal ag ysgrifennu cynnwys a ryseitiau ar gyfer gwefan a chylchgrawn y farchnad.
Yn ddiweddar, mae hi wedi mynd yn ôl i'r brifysgol i astudio Maeth Dynol a Dieteg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ac os nad oedd bywyd eisoes yn ddigon prysur, mae Beca hefyd yn mwynhau cymryd rhan mewn digwyddiadau sy’n rhoi prawf ar wytnwch corfforol ac wedi cwblhau saith marathon hyd yn hyn yn ogystal ag ‘ultra-marathon’.
Buddiannau personol
Ymgyngoriaethau a/neu gyflogaeth uniongyrchol
- Cogydd Ymgynghorol Marchnad Bwrdeistref Llundain
- Cennad Pwysau Iach: Cymru Iach, Ymgyrch Llywodraeth Cymru
- Cogydd, Darlledwr ac Ysgrifennydd Bwyd hunangyflogedig
- Wedi ysgrifennu, tynnu lluniau a ffilmio nifer o ryseitiau er mwyn hyrwyddo bwyd môr Cymru trwy’r ymgyrch ‘Porth i’r Plât’
- Aelod Bwrdd BDA (Cymdeithas Ddeieteg Prydain) dros Gymru
Gwaith am ffi
- Awdur Cyhoeddedig gyda Gwasg Gomer (Llyfr Coginio dwyieithog ac wrthi'n cynllunio ail lyfr)
Cyfranddaliadau
- Dim
Clybiau a sefydliadau eraill
- Myfyriwr Maetheg a Dieteteg llawn amser ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd
Buddiannau personol eraill
- Dim
Buddiannau nad ydynt yn rhai personol
Cymrodoriaethau
- Dim
Cymorth anuniongyrchol
- Dim
Ymddiriedolaethau
- Dim
Tir ac eiddo
- Dim
Buddiannau eraill nad ydynt yn rhai personol
- Dim
Hanes diwygio
Published: 31 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf: 5 Chwefror 2021