Argymhelliad yr Asiantaeth Safonau Bwyd i asesu’r system rheoli diogelwch bwyd yn Tsieina
Argymhelliad gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) i archwilio’r system o reolaethau diogelwch bwyd yn Tsieina ar gyfer bwyd nad yw'n dod o anifeiliaid (FNAO) a chynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid (POAO) y bwriedir eu hallforio i Brydain Fawr.
Cefndir
Ym mis Mai 2023, gwnaeth yr ASB gyflwyno ei blaenoriaethau o ran cynnal archwiliadau trydedd wlad ar sail risg i Swyddfa Defra ar gyfer Sicrwydd Masnach SPS, i’w hystyried er mwyn eu cynnwys yng nghynllun archwilio rhyngwladol y DU. Un o’r blaenoriaethau hyn oedd archwilio’r system o reolaethau diogelwch bwyd yn Tsieina sy’n cwmpasu cynhyrchion FNAO a POAO.
Oherwydd cyfraddau uchel o ddiffyg cydymffurfio o ran allforion bwyd o Tsieina, gellir cyfiawnhau rhoi sylw pellach i reolaethau Tsieina ar gyfer nwyddau bwyd sydd i’w hallforio i Brydain Fawr.
Mae nifer o nwyddau, cynhyrchion POAO ac FNAO fel ei gilydd, wedi bod yn destun rheolaethau uwch am gyfnod hir, heb fawr o dystiolaeth i gyfiawnhau eu dileu sy’n awgrymu nad yw problemau o ran rheoli diogelwch bwyd yn cael eu datrys yn ddigonol ar lefel genedlaethol.
Mai 2023, Argymhelliad yr ASB
Mae’r ASB yn argymell bod y DU yn ceisio archwilio Tsieina fel a ganlyn:
- Goruchwyliaeth gan yr awdurdod cymwys o reolaethau swyddogol ar gyfer nwyddau FNAO a gaiff eu hallforio i Brydain Fawr.
- Goruchwyliaeth gan yr awdurdod cymwys o reolaethau swyddogol ar gyfer nwyddau POAO a gaiff eu hallforio i Brydain Fawr.
- Gwaith ymgysylltu gan yr awdurdod cymwys â chynhyrchwyr, allforwyr a masnachwyr i sicrhau eu bod yn bodloni’r gofynion ar gyfer allforio cynhyrchion POAO ac FNAO i Brydain Fawr.