Anjali Juneja, Cyfarwyddwr Materion Rhyngwladol a’r Deyrnas Unedig
Gwybodaeth am Brif Weithredwr a chyfarwyddwyr yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB).

Ymunodd Anjali Juneja â’r ASB ym mis Hydref 2020 fel Dirprwy Gyfarwyddwr Cyfnod Pontio a Masnach yr Undeb Ewropeaidd. Fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr Materion Rhyngwladol a’r DU ym mis Mawrth 2022.
Mae Anjali yn Was Sifil profiadol ac yn gyn-Fargyfreithiwr cymwysedig ac mae wedi treulio’r rhan fwyaf o’i gyrfa yn y Swyddfa Gartref mewn amrywiaeth o rolau polisi a rhaglenni sy’n ymwneud â mewnfudo, diogelwch a phlismona. Cyn ymuno â'r ASB, Anjali oedd Prif Ysgrifennydd Preifat Ysgrifennydd Parhaol y Swyddfa Gartref. Ar hyn o bryd Anjali yw Dirprwy Gadeirydd Bwrdd Amrywiaeth yr ASB.
Hanes diwygio
Cyhoeddwyd: 27 Ebrill 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Ionawr 2023