Adroddiad Cyfarwyddwr – Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru Ebrill 2022
Adroddiad y Cyfarwyddwr ar gyfer Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru Ebrill 2022
Papur FSAW 22/04/03
I’w drafod
Diweddariad gan y Cyfarwyddwr
Crynodeb Gweithredol
Mae’r papur atodol yn cyfeirio at faterion a gyflwynwyd gan y Prif Weithredwr yn y cyfarfod Bwrdd diwethaf a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2022. Mae cofnodion llawn y cyfarfod hwnnw ar gael ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) (Saesneg yn unig). Mae’r papur hwn hefyd yn cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am faterion sy’n berthnasol i Gymru ac yn sail i'r diweddariad i Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru.
Bydd Cyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru yn ategu’r wybodaeth yn yr adroddiad hwn gyda diweddariad lafar, lle bo’n briodol.
Gwahoddir aelodau i:
- nodi'r diweddariad;
- gwahodd y Cyfarwyddwr i ymhelaethu ar unrhyw faterion i'w trafod ymhellach.
Cyswllt yr ASB yng Nghymru: Lucy Edwards
1. Crynodeb o Adroddiad y Prif Weithredwr i Gyfarfod Bwrdd Agored 9 Mawrth 2022.
1.1. Cafodd y Bwrdd adroddiad ysgrifenedig (FSA 22/03/03) y Prif Weithredwr (Saesneg yn unig)
2. Adroddiad Cyfarwyddwr Cymru ar Faterion sy’n ymwneud â Chymru
Ymgysylltu allanol
2.1. Rwyf wedi bod yn rhan o’r cyfleoedd ymgysylltu canlynol ers cyfarfod diwethaf Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru ar 3 Chwefror 2022, a allai fod o ddiddordeb.
- 1 Mawrth: Cyfarfod Cyswllt Chwarterol yr ASB yng Nghymru a Llywodraeth Cymru – roedd y drafodaeth yn cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am yr adferiad wedi COVID-19 a chynlluniau busnes yr ASB yng Nghymru ar gyfer 2022/23.
- 5 Ebrill: Cyfarfod Grŵp Cynghori ar Ddiogelu Iechyd y Prif Swyddog Meddygol – roedd y drafodaeth yn cynnwys cylch gorchwyl grŵp y Prif Swyddog Meddygol, ac is-grwpiau cysylltiedig, ar gyfer y flwyddyn i ddod. Mae diweddariad ar ddiogelwch bwyd wedi’i gynnwys yn y rhagolwg o bynciau y gallai’r Pwyllgor eu trafod.
Amnewid cynhwysion mewn rhai cynhyrchion bwyd i osgoi tarfu ar gyflenwadau bwyd
2.2 Rydym wedi bod yn cyfrannu at yr ymateb i’r digwyddiad hwn mewn perthynas â chyflenwadau cynhyrchion, a’r ffaith y gall rhai cynhyrchion bwyd sydd wedi’u labelu fel rhai sy’n cynnwys olew blodyn yr haul gynnwys olew hadau rêp wedi’i buro yn lle hwnnw. Rydym yn ymgysylltu’n barhaus â swyddogion polisi Llywodraeth Cymru ac yn cefnogi ymgysylltu â Gweinidogion Cymru. Anfonwyd llythyr at awdurdodau lleol yn cydnabod y tarfu presennol ar y gadwyn gyflenwi. Yn yr amgylchiadau eithriadol hyn, mae’r ASB yn annog swyddogion gorfodi i fabwysiadu dull gorfodi sy’n rhesymol, yn gymesur, yn seiliedig ar risg ac sy’n ystyried pob achos yn unigol.
2.3 Brigiad o achosion o Salmonela sy’n gysylltiedig â rhai cynhyrchion siocled Ferrero (Kinder).
Rydym yn parhau i weithio’n agos gydag Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Iechyd Cyhoeddus yr Alban, Asiantaeth Iechyd Cyhoeddus Gogledd Iwerddon, Safonau Bwyd yr Alban – yn ogystal ag awdurdodau iechyd cyhoeddus a diogelwch bwyd rhyngwladol – i ymchwilio i frigiad o achosion (outbreak) parhaus o Salmonela sy’n gysylltiedig ac amryw gynhyrchion wyau Kinder a Schoko-Bons a gynhyrchwyd yn un o ffatrïoedd cwmni Ferrero, yn Arlon, Gwlad Belg. Rydym hefyd mewn cysylltiad â Llywodraeth Cymru i sicrhau ei bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd ymchwiliadau. Mae’r ASB wedi cyhoeddi rhybudd galw cynnyrch yn ôl a stori newyddion wedi’i diweddaru i hysbysu defnyddwyr na ddylid bwyta amrywiaeth o gynhyrchion Kinder Egg a Schoko-Bon's.
Ymgynghoriadau sydd ar agor
2.4 Ymgynghoriad i geisio safbwyntiau rhanddeiliaid ar y newidiadau arfaethedig i ganllawiau’r ASB ar fyrgyrs cig eidion heb eu coginio'n drylwyr.
Dyddiad lansio: 27 Ionawr
Dyddiad cau: 27 Ebrill
Ceisiadau am un ar ddeg o ychwanegion i’w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid
2.5 Ymgynghoriad sy’n ceisio safbwyntiau, sylwadau ac adborth rhanddeiliaid mewn perthynas â cheisiadau cynhyrchion wedi’u rheoleiddio ar gyfer un ar ddeg o ychwanegion i’w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid, sydd wedi’u cyflwyno i’w hawdurdodi.
Dyddiad lansio: 7 Mawrth 2022
Dyddiad cau: 2 Mai 2022.
2.6 Ymgynghoriad sy’n galw am dystiolaeth mewn perthynas â’r modd y mae gweithredwyr busnesau’n bwriadu cynnal eu hasesiad risg eu hunain i bennu defnydd diogel o blastig wedi’i ailgylchu sydd wedi dod o’r amgylchedd agored (y môr, ‘yn diweddu yn y môr’ neu’r tir), mewn cynhyrchion deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd, neu dystiolaeth gan fusnesau sy’n gwneud hynny ar hyn o bryd.
Dyddiad lansio: 21 Mawrth 2022
Dyddiad cau: 20 Medi 2022.
Trosglwyddo perchnogaeth pum awdurdodiad ar gyfer cyflasynnau mwg
2.7 Ymgynghoriad byr sy’n gofyn am sylwadau ar newidiadau i enwau a chyfeiriadau pum deiliad awdurdodiadau cynhyrchion cynradd cyflasynnau mwg.
Dyddiad lansio: 31/03/2022
Dyddiad cau: 14/03/2022
Ceisiadau am un ar ddeg o ychwanegion i’w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid
2.6 Ymgynghoriad sy’n ceisio safbwyntiau, sylwadau ac adborth rhanddeiliaid mewn perthynas â cheisiadau cynhyrchion wedi’u rheoleiddio ar gyfer un ar ddeg o ychwanegion i’w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid, sydd wedi’u cyflwyno i’w hawdurdodi.
Dyddiad lansio: 7 Mawrth 2022
Dyddiad cau: 2 Mai 2022.
Ymgynghoriad ar ddiwygiadau rheolaidd arfaethedig i Reoliad a Ddargedwir 2019/1793 sy’n cymhwyso cynnydd dros dro mewn rheolaethau swyddogol ac amodau arbennig sy’n llywodraethu mynediad bwyd a bwyd anifeiliaid penodol nad ydynt yn dod o anifeiliaid i Brydain Fawr o wledydd penodol.
Dyddiad lansio: 14 Ebrill 2022
Dyddiad cau: 7 Gorffennaf 2022
Ymgynghoriadau – Rhagolwg
2.8
- Sefydliadau Cymeradwy: Canllawiau i swyddogion awdurdodau lleol –Ymgynghoriad 14 wythnos yn lansio ym mis Mai 2022
- Qurbani: Ymgynghoriad ar y dull hirdymor a gynigir ar gyfer yr haf – Rydym yn gweithio i gwblhau’r cynlluniau a datblygu ymgynghoriad, a fydd yn dechrau ym mis Mehefin 2022, i ofyn am safbwyntiau rhanddeiliaid ar ddull deddfwriaethol hirdymor o gyflenwi cig ac offal Qurbani yn uniongyrchol yn ystod cyfnod Eid al-Adha yng Nghymru a Lloegr.
- Mae Defra, yr ASB a’r FSS yn bwriadu lansio ymgynghoriad ar y cyd ar newidiadau arfaethedig i Reoliadau Bara a Blawd 1998 – yn lansio mis Gorffennaf 2022
- Mae’r ASB yn bwriadu lansio tri ymgynghoriad wyth wythnos ar ffactorau cyfreithlon eraill y ceisiadau Bwydydd Newydd, GM ac Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid sydd wedi’u cynnwys yn yr ail gyfres o geisiadau
3. Cyfarwyddwr Cymru yn Bwrw Golwg Ymlaen
3.1 Rhwng nawr a chyfarfod agored â thema nesaf Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru ar 14 Gorffennaf 2022, mae’r canlynol yn berthnasol i’r ASB yng Nghymru:
- 26 Ebrill – Byddaf yn cefnogi’r Cadeirydd yn ei chyfarfod â’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle. Bydd yr agenda’n cynnwys problemau labelu sy’n deillio o’r rhyfel yn Wcráin a Strategaeth newydd yr ASB.
- Mai (dyddiad i'w gadarnhau) – Mae cyfarfod nesaf Bwyd Diogel, Cynaliadwy a Dilys Cymru (SSAFW) wedi’i symud i ddyddiad sydd eto i'w gadarnhau ym mis Mai oherwydd gwyliau’r Pasg. Mae’r agenda hefyd i’w gadarnhau.
- 7 Mehefin – Cyfarfod Grŵp Cynghori ar Ddiogelu Iechyd y Prif Swyddog Meddygol.
- 6 Gorffennaf – digwyddiad y Senedd. Byddwn yn cynnal digwyddiad dros ginio yn y Senedd gydag Aelodau’r Senedd a rhanddeiliaid eraill i hyrwyddo’r Strategaeth newydd a’r Adroddiad Blynyddol ar Safonau Bwyd cyntaf, sydd i’w cyhoeddi ym mis Mehefin 2022.
Nathan Barnhouse
Cyfarwyddwr, yr ASB yng Nghymru
Ebrill 2022
Hanes diwygio
Published: 19 Ebrill 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Tachwedd 2022