Bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw
Bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw yw hwn.
Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, fwyd heb unrhyw ddeunydd pecynnu, fel ffrwythau a llysiau rhydd, bara a werthir heb ei lapio a bwyd wedi'i becynnu ar y safle gwerthu ar gais y defnyddiwr ar ôl dewis neu archebu’r bwyd.
Mewn amgylchedd manwerthu mae hyn yn debygol o fod yn berthnasol i fwyd sy'n cael ei werthu o gownter delicatessen. Mae hyn yn cynnwys cigoedd oer, cawsiau, quiche, pasteiod a dipiau, bariau salad, bara neu doesenni a werthir heb ddeunydd lapio.
Mewn amgylchedd arlwyo, mae hyn yn debygol o fod yn berthnasol i fwyd na chaiff ei werthu wedi'i becynnu ymlaen llaw, er enghraifft bwyd o siop tecawê, neu brydau a weinir mewn ffreutur neu fwyty.
Gellir cyfleu gwybodaeth am alergenau ar gyfer bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw trwy amryw ddulliau sy’n gweddu i fformat y busnes bwyd. Mae'n ofynnol i chi ddarparu gwybodaeth am yr 14 alergen os ydyn nhw'n bresennol mewn bwyd. Nid yw'n ofynnol i chi ddarparu rhestr gynhwysion lawn.
Pan fydd busnesau bwyd yn dewis peidio â darparu'r wybodaeth hon ymlaen llaw mewn fformat ysgrifenedig, rhaid i'r busnes bwyd ddefnyddio cyfeiriadau clir i gyfeirio'r cwsmer i’r man lle gall ddod o hyd i'r wybodaeth hon, fel gofyn i aelodau staff. Mewn sefyllfaoedd o'r fath rhaid cael datganiad y gellir ei weld ar fwydlenni, byrddau sialc, tocynnau archebu bwyd neu labeli bwyd.
Mae gennym ni ragor o wybodaeth am ofynion labelu alergenau penodol ar gyfer bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw yn ein canllawiau technegol ar labelu alergenau bwyd a gofynion gwybodaeth .