Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Rhybudd Preifatrwydd – Gohebiaeth y Swyddfa Breifat

Gwybodaeth am bolisi preifatrwydd gohebiaeth ein Swyddfa Breifat, pam fod angen y data arnom ni, yr hyn a wnawn gyda'r data a'ch hawliau.

Pam fod angen yr wybodaeth hon arnom ni 

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fydd 'Rheolydd' y data personol a ddarperir i ni. Mae angen i ni gasglu'r wybodaeth hon er mwyn dadansoddi ystadegau perfformiad yr ASB ar weithgareddau gwaelodlin, megis ymateb i lythyrau gan aelodau'r cyhoedd, rhanddeiliaid a'r Senedd.

Gwnawn hyn yn unol â pherfformiad ein dyletswyddau statudol ac ni fyddwn yn casglu unrhyw ddata personol gennych chi nad ydym ni ei angen.

Beth fyddwn ni'n ei wneud â'r wybodaeth 

Dim ond am y cyfnod sydd ei angen i gyflawni'r swyddogaethau hyn rydym ni'n cadw gwybodaeth bersonol, ac yn unol â'n polisi cadw. Mae hyn yn golygu y byddwn ni'n cadw'r wybodaeth am 5 mlynedd wedi iddi ddod i law.

Mae'r holl ddata personol rydym ni'n ei brosesu yn byw ar weinyddion o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Mae ein gwasanaethau cwmwl wedi’u caffael drwy Gytundebau Fframwaith y Llywodraeth a’u hasesu yn erbyn egwyddorion cwmwl y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.

Nid oes gan drydydd partïon fynediad at eich data personol oni bai bod y gyfraith yn caniatáu iddynt wneud hynny. Yn unol â'r ymrwymiad hwn, gellir trosglwyddo'ch gwybodaeth at adrannau eraill y llywodraeth. Bydd yr ASB weithiau'n rhannu data gydag adrannau eraill y llywodraeth, cyrff cyhoeddus a sefydliadau sy'n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus i'w cynorthwyo i gyflawni eu dyletswyddau statudol, neu pan fydd er budd y cyhoedd.

Eich hawliau 

Mae gennych chi'r hawl i weld yr wybodaeth sydd gennym ni amdanoch chi drwy wneud cais ysgrifenedig i'r cyfeiriad e-bost isod. Os ydych chi ar unrhyw adeg o'r farn bod yr wybodaeth rydym ni'n ei phrosesu amdanoch chi yn anghywir, gallwch chi wneud cais i'w chywiro. Os hoffech chi wneud cwyn am y ffordd rydym ni wedi trin eich data personol, gallwch chi gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data a fydd yn ymchwilio i'r mater.

Os nad ydych chi'n fodlon â'n hymateb neu os ydych chi o'r farn nad ydym yn prosesu eich data personol yn unol â'r gyfraith, fe allwch chi gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).