Neidio i’r prif gynnwys
Cymraeg

Monitro ac archwilio

Rydym ni'n monitro gweithgarwch pysgod cregyn, hylendid cig a llaeth i sicrhau bod diogelwch bwyd yn cael ei fonitro ar bob cam o'r gadwyn fwyd.

Rydym ni'n darparu cyngor, cymorth ymarferol, a chyllid ar gyfer arolygu a rhaglenni samplu ar lefel leol a chenedlaethol.

Monitro

Hylendid cig

Mae gennym arolygwyr cig ac archwilwyr sy'n monitro gweithgarwch safleoedd lladd. Rydym ni hefyd yn gorfodi'r tâl a godir ar eich safle am y gwaith y mae'n ei wneud â ni.

Darllenwch ein canllawiau i fusnesau ar hylendid cig

Pysgod cregyn

Rydym ni'n monitro'r rheolaethau swyddogol a'r broses o ddosbarthu pysgod cregyn.

Mae hyn yn cynnwys y gweithgarwch canlynol:

  • Samplu
  • Halogion
  • Lefelau biotocsinau
  • Ffytoplancton

Darllenwch ein canllawiau i fusnesau ar bysgod cregyn (Saesneg yn unig)

Hylendid llaeth

Rydym ni'n monitro ac yn arolygu ffermydd llaeth, safleoedd godro, offer ac anifeiliaid sy'n cynhyrchu llaeth er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni'r safonau gofynnol. Dysgwch ragor am y ffordd yr ydym ni'n monitro hylendid llaeth yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Archwiliadau

Manylion archwilaidau allweddol o 2010 i 2018.