Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hysbysiad Preifatrwydd – Gwasanaethau Iaith Gymraeg

Gwybodaeth am y polisi preifatrwydd mewn perthynas â gwasanaethau iaith Gymraeg, pam fod angen y data arnom ni, beth rydym ni'n ei wneud â'r data a'ch hawliau.

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fydd 'Rheolydd' y data personol a ddarperir i ni.

Pam fod angen yr wybodaeth hon arnom ni?

Mae angen i ni gasglu'r wybodaeth hon at ddibenion caffael gwasanaethau cyfieithu Saesneg i Gymraeg, gan gynnwys gwasanaethau cyfieithu ar y pryd, er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion yr Asiantaeth o ran y Gymraeg. Rydym ni’n gwneud hyn er mwyn i ni allu llunio a chyflawni’r contract rhyngom ni. Ni fyddwn  ni’n casglu unrhyw ddata gennych chi nad oes ei angen arnom ni.

Beth fyddwn ni'n ei wneud â'r wybodaeth?

Dim ond am y cyfnod sydd ei angen i gyflawni'r swyddogaethau hyn rydym ni'n cadw gwybodaeth bersonol, ac yn unol â'n polisi cadw. Mae hyn yn golygu y byddwn yn cadw'r wybodaeth am 5 mlynedd wedi iddi ddod i law.

Mae'r holl ddata personol rydym ni'n ei brosesu yn byw ar weinyddion o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Mae ein gwasanaethau cwmwl wedi’u caffael drwy Gytundebau Fframwaith y Llywodraeth a’u hasesu yn erbyn egwyddorion cwmwl y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.

Nid oes gan drydydd partïon fynediad at eich data personol oni bai bod y gyfraith yn caniatáu iddynt wneud hynny. Yn unol â'r ymrwymiad hwn, efallai y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i adrannau eraill y llywodraeth. 

Beth yw eich hawliau?

Mae gennych chi'r hawl i weld yr wybodaeth sydd gennym ni amdanoch chi drwy wneud cais ysgrifenedig i'r cyfeiriad e-bost isod. Os ydych chi ar unrhyw adeg o'r farn bod yr wybodaeth rydym ni'n ei phrosesu amdanoch chi yn anghywir, gallwch chi wneud cais i'w chywiro. Os hoffech chi wneud cwyn am y ffordd rydym ni wedi trin eich data personol, gallwch chi gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data a fydd yn ymchwilio i'r mater.

Os nad ydych chi'n fodlon â'n hymateb neu os ydych chi o'r farn nad ydym yn prosesu eich data personol yn unol â'r gyfraith, fe allwch chi gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).