Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hysbysiad Preifatrwydd – Gwahoddiadau a dosbarthu gwybodaeth am gyfarfodydd Bwrdd yr ASB

Gwybodaeth am bolisi preifatrwydd cyfarfodydd bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd, pam fod angen y data arnom ni, yr hyn a wnawn gyda'r data a'ch hawliau.

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fydd 'Rheolydd' y data personol a ddarperir i ni.

Pam fod angen yr wybodaeth hon arnom ni?

Mae angen i ni gasglu'r wybodaeth hon er mwyn gwahodd rhanddeiliaid ac aelodau'r cyhoedd i gyfarfodydd Bwrdd yr ASB neu i wylio'r ffrwd byw. Mae'r ASB wedi ymrwymo i fod yn agored a thryloyw bob tro wrth lunio polisïau. Er mwyn i hyn fod yn ystyrlon, mae angen i randdeiliaid ac aelodau'r cyhoedd fod yn bresennol yn ystod y trafodaethau, i godi pwyntiau a gofyn cwestiynau.      

Gwnawn hyn yn unol â'n dyletswydd gyhoeddus ac er budd y cyhoedd. Ni fyddwn ni'n casglu unrhyw ddata personol gennych chi nad ydym ni ei angen.

 

Beth fyddwn ni'n ei wneud â'r wybodaeth? 

Dim ond am y cyfnod sydd ei angen i gyflawni'r swyddogaethau hyn rydym ni'n cadw gwybodaeth bersonol, ac yn unol â'n polisi cadw. Bydd manylion cyswllt yn cael eu cadw nes i chi roi gwybod i ni nad ydych am dderbyn gwybodaeth am gyfarfodydd Bwrdd yr ASB bellach a bydd cofnodion gohebiaeth yn cael eu cadw am 5 mlynedd ar ôl iddynt ddod i law. 

Mae'r holl ddata personol rydym ni'n ei brosesu yn byw ar weinyddion o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Mae ein gwasanaethau cwmwl wedi’u caffael drwy Gytundebau Fframwaith y Llywodraeth a’u hasesu yn erbyn egwyddorion cwmwl y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.

Nid oes gan drydydd partïon fynediad at eich data personol oni bai bod y gyfraith yn caniatáu iddynt wneud hynny. Bydd yr ASB weithiau'n rhannu data gydag adrannau eraill y llywodraeth, cyrff cyhoeddus a sefydliadau sy'n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus i'w cynorthwyo i gyflawni eu dyletswyddau statudol, neu pan fydd er budd y cyhoedd.

Eich hawliau

Mae gennych chi'r hawl i weld yr wybodaeth sydd gennym ni amdanoch chi drwy wneud cais ysgrifenedig i'r cyfeiriad e-bost isod. Os ydych chi ar unrhyw adeg o'r farn bod yr wybodaeth rydym ni'n ei phrosesu amdanoch chi yn anghywir, gallwch chi wneud cais i'w chywiro. Os hoffech chi wneud cwyn am y ffordd rydym ni wedi trin eich data personol, gallwch chi gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data a fydd yn ymchwilio i'r mater.

Os nad ydych chi'n fodlon â'n hymateb neu os ydych chi o'r farn nad ydym yn prosesu eich data personol yn unol â'r gyfraith, fe allwch chi gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).

Ein Swyddog Diogelu Data yn yr ASB yw Arweinydd y Tîm Rheoli Gwybodaeth a Diogelwch. Gallwch chi gysylltu drwy anfon e-bost at: informationmanagement@food.gov.uk.