Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hysbysiad Preifatrwydd – Gohebiaeth mewn perthynas â pholisïau ar fwyd a hylendid, diogelwch a safonau bwyd

Gwybodaeth am ein gohebiaeth mewn perthynas â pholisïau ar fwyd a hylendid, diogelwch a safonau bwyd, pam fod angen y data arnom ni, yr hyn a wnawn ni gyda'r data a'ch hawliau.

Pam fod angen yr wybodaeth hon arnom ni?

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yw 'Rheolydd' y data personol a ddarperir i ni. 

Mae angen i ni gasglu'r wybodaeth hon er mwyn ymateb i ymholiadau a wneir gan y cyhoedd, busnesau a sefydliadau cymdeithas sifil am bolisïau sy'n ymwneud â bwyd a hylendid, diogelwch a safonau bwyd.

Mae casglu'r wybodaeth hon yn angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg a gynhelir er lles y cyhoedd.  Ni fyddwn ni'n casglu unrhyw ddata personol gennych chi nad ydym ni ei angen.

Gallai methu â darparu'r wybodaeth hon olygu na allwn ni ymateb i ymholiad a wnaed i'r ASB.

Beth fyddwn ni'n ei wneud â'r wybodaeth?

Dim ond am y cyfnod sydd ei angen i gyflawni'r swyddogaethau hyn rydym ni'n cadw gwybodaeth bersonol, ac yn unol â'n polisi cadw. Mae hyn yn golygu y byddwn ni'n cadw'r wybodaeth am 7 mlynedd wedi iddi ddod i law, oni nodir yn wahanol.

Mae'r holl ddata personol rydym ni'n ei brosesu yn byw ar weinyddion o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Mae ein gwasanaethau cwmwl wedi’u caffael drwy Gytundebau Fframwaith y Llywodraeth a’u hasesu yn erbyn egwyddorion cwmwl y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.

Nid oes gan drydydd partïon fynediad at eich data personol oni bai bod y gyfraith yn caniatáu iddynt wneud hynny. Yn unol â'r ymrwymiad hwn, gallai eich gwybodaeth gael ei throsglwyddo i Ombwdsmon y Senedd a'r Gwasanaeth Iechyd.

Eich hawliau

Mae gennych chi'r hawl i weld yr wybodaeth sydd gennym ni amdanoch chi drwy wneud cais ysgrifenedig i'r cyfeiriad e-bost isod. Os ydych chi ar unrhyw adeg o'r farn bod yr wybodaeth rydym ni'n ei phrosesu amdanoch chi yn anghywir, gallwch chi wneud cais i'w chywiro. Os hoffech chi wneud cwyn am y ffordd rydym ni wedi trin eich data personol, gallwch chi gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data a fydd yn ymchwilio i'r mater.

Os nad ydych chi'n fodlon â'n hymateb neu os ydych chi o'r farn nad ydym yn prosesu eich data personol yn unol â'r gyfraith, fe allwch chi gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).