Newidiadau Arfaethedig i Strwythur Deddfwriaeth Ychwanegion Bwyd yr UE (Cymru)
Tuesday 6 July 2010
Rhybuddio busnesau bwyd am y newidiadau arfaethedig i strwythur deddfwriaeth ychwanegion bwyd yr UE a cheisio eu cyngor ar unrhyw beth a hepgorwyd neu gamgymeriadau yn y rhestrau newydd.
Dylech anfon eich holl sylwadau at:
Kerys James-Palmer
Tîm Iechyd Deietegol a Dewis i Ddefnyddwyr
Asiantaeth Safonau Bwyd
Llawr 11, Tŷ Southgate,
Wood Street,
Caerdydd, CF10 1EW
Ffôn: 029 2067 8912
Ffacs: 029 2067 8919
E-bost: kerys.james-palmer@foodstandards.gsi.gov.uk
Gofynnir i chi ymateb erbyn: 27 Awst 2010
Cynulleidfa
Pwy fydd â diddordeb yn yr ymgynghoriad hwn?
Busnesau bwyd a diod sy’n defnyddio ychwanegion bwyd, gweithgynhyrchwyr ychwanegion bwyd, cyrff gorfodi awdurdodau lleol.
Beth yw testun yr ymgynghoriad hwn?
Newidiadau arfaethedig gan yr Undeb Ewropeaidd i strwythur deddfwriaeth ychwanegion bwyd yr UE i’w gwneud yn haws gwybod pa ychwanegion a ganiateir.
Beth yw diben yr ymgynghoriad hwn?
Rhybuddio busnesau bwyd am y newidiadau arfaethedig i strwythur deddfwriaeth ychwanegion bwyd yr UE a cheisio eu cyngor ar unrhyw beth a hepgorwyd neu gamgymeriadau yn y rhestrau newydd.
Manylion yr ymgynghoriad
Cyn bo hir bydd newidiadau’n cael eu gwneud i ddeddfwriaeth ychwanegion bwyd yr UE a fydd yn ei gwneud yn haws nodi pa ychwanegion a ganiateir mewn bwyd.
Mae Erthygl 30, Rheoliad 1333/2008 ar ychwanegion bwyd yn gofyn i’r ychwanegion a ganiateir mewn bwyd a’r amodau defnyddio gael eu trosglwyddo o’r Atodiadau yng Nghyfarwyddebau 95/2/EC (ychwanegion amrywiol), 94/35/EC (melysyddion) a 94/36/EC (lliwiau) i Atodiad II Rheoliad 1333/2008. Yn ogystal, noda Erthygl 4.3 y rheoliad y caiff yr ychwanegion eu rhestru ar sail y categori bwyd y gellir eu hychwanegu ato. I’r perwyl hwn, mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi datblygu System Categoreiddio Bwyd hierarchaidd, yn seiliedig ar Safon Gyffredinol Codex ar Ychwanegion Bwyd, ond wedi’i haddasu ar gyfer anghenion rhanddeiliaid Ewropeaidd.
Y Cynnig
Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi creu’r tablau draft atodedig (ar ffurf llyfrau gwaith Excel), sy’n cwmpasu 16 o wahanol gategorïau bwyd wedi’u rhannu’n nifer o is-gategorïau, y bwriedir iddynt gynnwys y System Categoreiddio Bwyd. Caiff ychwanegion y caniateir iddynt gael eu defnyddio eu rhestru yn erbyn pob is-gategori, ynghyd ag amodau defnyddio. Mae’r tablau, a luniwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd, yn ystyried sylwadau gan Aelod-wladwriaethau’r UE a’r sylwadau a wnaed yn ystod ymgynghoriad dwyochrog gyda rhanddeiliaid. Mae dogfen sy’n rhoi cyflwyniad i’r System Categoreiddio bwyd wedi cael ei drafftio hefyd.
Ni fwriedir rhoi caniatâd i ychwanegion gael eu defnyddio at ddibenion newydd neu at ddibenion ychwanegol yn sgîl yr ymarfer hwn.
Prif gynnig:
- Newid strwythur deddfwriaeth ychwanegion bwyd y DU er mwyn ei symleiddio fel y nodir yn y tablau drafft atodedig.
Y Broses Ymgynghori
Mae’r Comisiwn Ewropeaidd eisoes wedi ymgynghori’n anffurfiol gyda chymdeithasau masnach y diwydiant a chydag Aelod-wladwriaethau’r UE ar yr ymarfer trosglwyddo arfaethedig ac mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi ysgrifennu at y sectorau bwyd perthnasol yn gofyn am eu sylwadau.
Er mwyn gwirio cywirdeb ymhellach, gofynnir am sylwadau yn awr gan bob rhanddeiliaid yn y DU ar unrhyw gamgymeriadau neu ychwanegion a ganiateir sydd wedi eu hepgor o’r rhestr. Yn ogystal croesewir sylwadau ar ddisgrifyddion y categorïau bwyd sydd ar yr ail daflen waith ym mhob llyfr gwaith. Mae’r Comisiwn yn bwriadu i’r disgrifyddion hyn fod yn rhai dangosol/cynghorol yn hytrach na bod yn gyfreithiol rwymol. Gwerthfawrogir sylwadau ar y ddogfen ddrafft sy’n rhoi cyflwyniad i’r System Categoreiddio Bwyd hefyd.
Er cyfleustra, cliciwch yma i weld fersiynau o’r tair Cyfarwyddeb a Rheoliad 1333/2008.
Amserlen
Atodir amserlen ar gyfer cwblhau gwaith ar y System Categoreiddio Bwyd yn Atodiad C er gwybodaeth. Fel y gwelwch, bwriedir cynnal trafodaethau mewn cyfarfodydd o’r Gweithgor ym Mrwsel fis Mehefin, ac o bosibl ym mis Gorffennaf a Medi ar y gwaith hwn. Byddem yn gwerthfawrogi derbyn sylwadau cyn gynted â phosibl er mwyn eu bwydo i drafodaethau parhaus.
Ymatebion
Mae angen i ymatebion ddod i law erbyn dydd Gwener 27 Awst. Noder, yn eich ymateb, p’un a ydych yn ymateb ar ran sefydliad/cwmni (yn cynnwys manylion unrhyw randdeiliad y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli).
Gwybodaeth bellach
Paratowyd yr ymgynghoriad hwn yn unol â Chod Ymarfer Swyddfa'r Cabinet ar Ymgynghori Ysgrifenedig. Mae Maen Prawf 6 Cod Ymarfer Swyddfa'r Cabinet yn datgan bod yn rhaid i ymgynghoriad ddilyn arferion gorau o safbwynt gwell rheoleiddio, sy'n cynnwys cynnal Asesiad Effaith Reoleiddiol.
Hoffem gael eich sylwadau ar yr ymgynghoriad hwn ac adborth cyffredinol ar y pecyn ymgynghori a'r broses ymgynghori gyffredinol. Os hoffech ein helpu i wella ansawdd ymgynghoriadau'r dyfodol, mae croeso i chi roi eich barn trwy ddefnyddio holiadur adborth yr ymgynghoriad.
Cyfrinachedd ymatebion a chyhoeddi data personol
Yn unol ag egwyddor yr ASB o weithredu'n agored, bydd ein Canolfan Wybodaeth yn Aviation House yn cadw copi o'r ymgynghoriad cyflawn. Bydd yr ASB yn cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion hefyd, a allai gynnwys data personol, fel eich enw a'ch cyfeiriad llawn. Dim ond os ceir ceisiadau i weld yr ymatebion cyflawn i’r ymgynghoriad y bydd unrhyw ddata personol arall yn cael ei ddatgelu. Os nad ydych chi am i ni ryddhau'r wybodaeth hon, dylech lenwi'r Ffurflen Cyhoeddi Data Personol a'i dychwelyd atom. Nid yw dychwelyd y ffurflen hon yn golygu y byddwn yn trin eich ymateb i'r ymgynghoriad yn gyfrinachol, dim ond eich data personol.
Cyhoeddi data personol (Word)
Cyhoeddi data personol (pdf)
Cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion
Rydym yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad o fewn tri mis iddo ddod i ben a darparu dolen ato o'r dudalen hon.
Os nad yw'r crynodeb yn ymddangos ar ôl tri mis, cysylltwch â'r sawl a oedd yn gyfrifol am yr ymgynghoriad gwreiddiol. Fel arall, cysylltwch â Cydgysylltydd Ymgynghoriadau'r ASB
E-bost: consultationcoordinator@foodstandards.gsi.gov.uk
