Strategaeth Clefydau a Gludir gan Fwyd 2010-15 yr ASB
Wednesday 9 June 2010
Ceisio barn ar flaenoriaethau, ymagwedd ac amcanion strategaeth newydd yr Asiantaeth ar gyfer lleihau salwch a gludir gan fwyd ar gyfer 2010-15.
Dylech anfon eich holl sylwadau at:
Hefin Davies
Cangen Digwyddiadau, ASB Cymru
Llawr 11, Tŷ Southgate
Wood Street
Caerdydd CF10 1EW
Ffôn: 029 2067 8928
Ffacs: 029 2067 8918
E-bost: hefin.davies@foodstandards.gsi.gov.uk
Gofynnir i chi ymateb erbyn: 2 Medi 2010
Cynulleidfa
Pwy fydd â diddordeb yn yr ymgynghoriad hwn?
Pob rhanddeiliad, yn arbennig cynhyrchwyr bwyd, proseswyr bwyd, manwerthwyr, defnyddwyr
Beth yw testun yr ymgynghoriad hwn?
Datblygu strategaeth newydd i leihau clefydau a gludir gan fwyd yn y DU ar gyfer y cyfnod 2010-15
Beth yw diben yr ymgynghoriad hwn?
Ceisio barn ar flaenoriaethau, ymagwedd ac amcanion strategaeth newydd yr Asiantaeth ar gyfer lleihau salwch a gludir gan fwyd ar gyfer 2010-15. Mae’r Strategaeth Clefydau a Gludir gan Fwyd 2010-15 ddrafft yn disgrifio’r ymagwedd arfaethedig o ganolbwyntio ar reoli prif bathogenau a gludir gan fwyd sydd wedi cael eu nodi fel blaenoriaeth i weithredu arnynt. Nid yw’r strategaeth ddrafft hon yn disgrifio’r ymagwedd gyffredinol y bwriedir ei mabwysiadu ac, fel y cyfryw, nid yw’n gynllun gwaith manwl. Caiff hynny ei ddatblygu ar wahân ar gyfer pob maes gwaith. Dylid ystyried y strategaeth ddrafft ochr yn ochr â gwaith arall yr ASB mewn meysydd cysylltiedig.
Manylion yr ymgynghoriad
Mae clefydau a gludir gan fwyd yn un o brif achosion salwch ymysg poblogaeth y Du ac mae’n faich sylweddol ar gleifion a’r economi. Amcangyfrifir bod tua miliwn o bobl yn y DU wedi cael salwch a gludir gan fwyd yn 2007, a arweiniodd at 20,000 o bobl yn cael triniaeth mewn ysbyty a 500 o farwolaethau, ar gost flynyddol o bron £1.5 biliwn .
Ers ei sefydlu yn 2000, mae lleihau clefydau a gludir gan fwyd wedi bod yn un o brif amcanion yr ASB o ran sicrhau diogelwch bwyd. Er mwyn cyflawni hyn sefydlwyd Strategaeth Clefydau a Gludir gan Fwyd (y Strategaeth) yn 2001 . Cyflawnwyd gostyngiad sylweddol (19.2%) yn nifer yr achosion erbyn 2005 ac roedd strategaeth ddiwygiedig ar gyfer 2005-2010 yn anelu at leihau clefydau a gludir gan fwyd ymhellach . Fodd bynnag, prin fu’r newid arwyddocaol yn lefel y clefydau a gludir gan fwyd ers 2005 ac mae’r gost a’r baich yn sgîl clefydau a gludir gan fwyd yn y DU yn parhau i fod yn annerbyniol o uchel. Gellid osgoi neu atal llawer o’r baich presennol a achosir gan glefydau a gludir gan fwyd ac mae cyfle i gymryd camau pellach ar draws y gadwyn fwyd er mwyn lleihau clefydau a’u heffaith ar iechyd y cyhoedd yn sylweddol.
Mae Strategaeth yr ASB ar gyfer 2010-15 yn cadarnhau bod lleihau clefydau a gludir gan fwyd yn flaenoriaeth o ran sicrhau bod bwyd a gynhyrchir ac a werthir yn y DU yn ddiogel i’w fwyta. Rydym wedi blaenoriaethu’r prif bathogenau a all gael yr effaith fwyaf ar sicrhau’r canlyniad hwn mewn strategaeth ddiwygiedig ar gyfer 2010-15. Byddwn yn mabwysiadu ymagwedd wedi’i thargedu tuag at eu rheoli a’u lleihau, a dylai hynny arwain at leihau’r baich cyffredinol a achosir gan glefydau a gludir gan fwyd yn y DU.
Byddai llwyddo i leihau clefydau a gludir gan fwyd yn y DU yn arwain at fanteision sylweddol. Er enghraifft, byddai pob gostyngiad o 1% yn nifer y digwyddiadau yn golygu tua 10,000 yn llai o achosion y flwyddyn, a byddai’r gostyngiad cysylltiedig mewn poen bersonol ac anghyfleustra, absenoldeb o’r gwaith a’r gostyngiad yn y pwysau ar wasanaethau iechyd, yn arwain at arbediad economaidd o oddeutu £15 miliwn.
Cynigion
Rydym wedi bod yn gweithio i leihau clefydau a gludir gan fwyd yn y DU ers i’r Asiantaeth Safonau Bwyd gael ei ffurfio yn 2000. Drwy’r gwaith hwn rydym wedi ehangu’r wyddoniaeth a sail y dystiolaeth ynghylch natur clefydau a gludir gan fwyd yn y DU a sut i’w rheoli. Rydym hefyd wedi datblygu, gweithredu a gwerthuso ystod eang o gamau ac ymyriadau i fynd ar drywydd lleihau salwch a gludir gan fwyd a’i ffynonellau, ar draws y gadwyn fwyd.
Er bod y camau a’r ymyriadau hyn wedi arwain at nifer o ddatblygiadau arwyddocaol (o ran dealltwriaeth wyddonol, gwybodaeth dechnegol ac ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ymysg defnyddwyr a gweithwyr yn y diwydiant bwyd), nid yw hyn wedi mynd law yn llaw â gostyngiad sylweddol a chyson yn nifer yr achosion o salwch a gludir gan fwyd sy’n parhau i ddigwydd bob blwyddyn.
Er mwyn mynd i’r afael â’r mater hwn, bydd yr ASB yn parhau i gefnogi mesurau’n ymwneud â nwyddau penodol i wella diogelwch gwahanol fwydydd ar draws y gadwyn fwyd a chyfuno hyn gydag ymagwedd wedi’i thargedu’n fwy tuag at ostwng lefelau pathogenau penodol a gludir gan fwyd er mwyn sicrhau’r manteision mwyaf i iechyd y cyhoedd. Mae’r dystiolaeth sydd ar gael, yn cynnwys ein prosiect dadansoddi’r gadwyn fwyd , wedi galluogi i ni nodi’r prif bathogenau hynny lle y gellir defnyddio rhaglenni rheoli risg wedi’u teilwra (fel yr amlinellir isod) fel canolbwynt i’n hymdrechion a nodi pwyntiau ymyrryd priodol i sicrhau gostyngiad mewn lefelau halogi ac, felly, gyfraddau clefydau ymysg poblogaeth y DU.
Rydym yn bwriadu datblygu rhaglenni rheoli risg penodol sy’n anelu at leihau lefelau a difrifoldeb y clefydau a achosir gan y pathogenau hynny a nodir fel y rhai sy’n achosi’r baich mwyaf o glefyd. Yn ogystal â’n gwaith i ostwng lefelau clefydau a achosir gan bathogenau penodol byddwn yn parhau i weithio i leihau clefydau a gludir gan fwyd drwy well dealltwriaeth a defnydd o negeseuon diogelwch drwy Ymgyrch Hylendid Bwyd newydd.
Mae’r Strategaeth Clefydau a Gludir gan Fwyd 2010-15 yn bwriadu canolbwyntio ar leihau’r risgiau o gael salwch a gludir gan fwyd yn sgîl cynhyrchu a pharatoi bwyd yn y DU, a mynd i’r afael â nhw drwy raglen weithredu benodol ledled y DU.
Ni ragwelir y bydd y Strategaeth yn cynnwys gwaith i leihau risgiau yn sgîl bwydydd sy’n deilio o wledydd nad ydynt yn rhan o’r UE (trydydd gwledydd) ar y cam cyn mewnforio, gan y bydd hyn yn cael ei gwmpasu gan eraill o fewn yr Asiantaeth sy’n gweithio i sicrhau canlyniad y cynllun strategol bod “bwyd sy’n cael ei fewnforio yn ddiogel i’w fwyta”. Y prif flaenoriaethau ar gyfer y gwaith hwnnw yw gweithio’n rhyngwladol i leihau’r risgiau yn deillio o fwyd o’r tu allan i’r UE a sicrhau bod rheolaethau swyddogol wedi’u targedu sy’n seiliedig ar risg ar waith. Serch hynny, bydd y Strategaeth yn cadw cysylltiad agos gyda’r gweithgareddau hyn i sicrhau bod unrhyw faterion trawsbynciol yn cael eu nodi a, lle y bo’n berthnasol, eu hystyried yn y Strategaeth.
Prif Nodweddion
Prif nodweddion Strategaeth Clefydau a Gludir gan Fwyd 2010-15 yw:
Prif gynnig/gynigion:
- Datblygu a gweithredu Rhaglen Rheoli Risg i leihau Campylobacter mewn cyw iâr. Bydd hyn yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth â’r diwydiant, manwerthwyr a rhanddeiliaid eraill i adolygu tystiolaeth bresennol ac ymyriadau effeithiol sydd ar gael i leihau Campylobacter mewn cyw iâr, a datblygu targed i leihau lefelau Campylobacter mewn cyw iâr amrwd a fanwerthir erbyn mis Rhagfyr 2010, i’w gyflawni erbyn Ebrill 2015
- Datblygu Rhaglen Rheoli Risg ar gyfer Listeria, a fydd yn asesu risg a, lle bo angen, gwneud gwaith ymchwil newydd i gynyddu dealltwriaeth o’r risgiau yn sgîl listeriosis a’r hyn sy’n ei ysgogi yn y DU erbyn Mawrth 2013, yna llunio a gweithredu cynllun gweithredu yn seiliedig ar y canfyddiadau erbyn 2015
- Datblygu rhaglenni ar gyfer rheoli pathogenau arwyddocaol eraill a gludir gan fwyd erbyn Mawrth 2011
- Edrych o’r newydd ar weithgareddau Ymgyrch Hylendid Bwyd i gefnogi amcanion y Strategaeth erbyn diwedd 2010, gwella’r diwylliant diogelwch bwyd domestig (ymwybyddiaeth ac ymddygiad) a sicrhau newid ymddygiad hirdymor ymysg defnyddwyr
- Mapio a dadansoddi rhanddeiliaid y Strategaeth ac ymgysylltu’n rhagweithiol gyda’r prif randdeiliaid i gynorthwyo gyda’r gwaith o gyflawni gweledigaeth ac amcanion y Strategaeth
- Gwneud gwaith ymchwil i ddarparu sail tystiolaeth gadarn ar gyfer asesu risgiau a chamau gweithredu ac i fod yn sail ar gyfer cynllunio a gweithredu gweithgaredd y Strategaeth, yn ôl y galw
Y Broses Ymgynghori
Ystyriwyd y Strategaeth ddrafft gan Fwrdd yr ASB yn ei gyfarfod ar 11 Mai 2010. Clicwch yma i weld rhagor o wybodaeth.
Ni ddisgwylir i raglenni gwahanol o fewn y Strategaeth fod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol yn yr un modd â’r Strategaeth ei hun ond caiff y cynlluniau ar gyfer y rhaglenni hyn eu trafod gydag ystod o randdeiliaid priodol ar gyfer pob pwnc ym mhob rhaglen, fel grwpiau cyswllt llywodraeth-diwydiant.
Y cwestiynau a ofynnir yn yr ymgynghoriad hwn:
- Yn eich barn chi, ai’r ymagwedd gyffredinol a ddisgrifir (h.y. gweithredu ar bathogenau penodol, yn hytrach na chanolbwyntio ar nwyddau) yw’r un fwyaf priodol i sicrhau’r canlyniad hwn? Os nad ydych chi o’r farn hon, a fyddech cystal ag egluro pam yn gryno.
- P’un a ydym wedi blaenoriaethu’r pathogenau priodol i weithredu arnynt er mwyn, os bydd y strategaeth yn llwyddiannus, sicrhau’r gostyngiad mwyaf yn nifer yr achosion o glefydau a gludir gan fwyd yn y DU a’r baich a achosir ganddynt? A ydych yn cytuno mai dyma’r blaenoriaethau cywir?
- Yn eich barn chi, a yw’n debygol y bydd yr amcanion a ddisgrifir yn y Strategaeth yn arwain at ostyngiad sylweddol mewn clefydau a gludir gan fwyd ymysg pobl yn y DU? Os nad ydych chi o’r farn hon, a fyddech cystal ag egluro pam yn gryno.
Byddem yn croesawu sylwadau a barn ar y cwestiynau hyn gan yr holl randdeiliaid a chanddynt ddiddordeb yn niogelwch y bwyd a gynhyrchir ac a fwyteir yn y DU, yn arbennig gan gynhyrchwyr bwyd, proseswyr bwyd, manwerthwyr, defnyddwyr ac eraill a fyddai’n gallu cyfrannu at waith y Strategaeth.
Ymatebion
Mae angen ymatebion erbyn diwedd y dydd 2 Medi 2010. Nodwch yn eich ymateb p’un a ydych yn ymateb fel unigolyn preifat ynteu ar ran sefydliad/cwmni (yn cynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli).
Diolch i chi ar ran yr Asiantaeth Safonau Bwyd am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn.
Gwybodaeth bellach
Paratowyd yr ymgynghoriad hwn yn unol â Chod Ymarfer Swyddfa'r Cabinet ar Ymgynghori Ysgrifenedig. Mae Maen Prawf 6 Cod Ymarfer Swyddfa'r Cabinet yn datgan bod yn rhaid i ymgynghoriad ddilyn arferion gorau o safbwynt gwell rheoleiddio, sy'n cynnwys cynnal Asesiad Effaith Reoleiddiol.
Hoffem gael eich sylwadau ar yr ymgynghoriad hwn ac adborth cyffredinol ar y pecyn ymgynghori a'r broses ymgynghori gyffredinol. Os hoffech ein helpu i wella ansawdd ymgynghoriadau'r dyfodol, mae croeso i chi roi eich barn trwy ddefnyddio holiadur adborth yr ymgynghoriad.
Cyfrinachedd ymatebion a chyhoeddi data personol
Yn unol ag egwyddor yr ASB o weithredu'n agored, bydd ein Canolfan Wybodaeth yn Aviation House yn cadw copi o'r ymgynghoriad cyflawn. Bydd yr ASB yn cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion hefyd, a allai gynnwys data personol, fel eich enw a'ch cyfeiriad llawn. Dim ond os ceir ceisiadau i weld yr ymatebion cyflawn i’r ymgynghoriad y bydd unrhyw ddata personol arall yn cael ei ddatgelu. Os nad ydych chi am i ni ryddhau'r wybodaeth hon, dylech lenwi'r Ffurflen Cyhoeddi Data Personol a'i dychwelyd atom. Nid yw dychwelyd y ffurflen hon yn golygu y byddwn yn trin eich ymateb i'r ymgynghoriad yn gyfrinachol, dim ond eich data personol.
Cyhoeddi data personol (Word)
Cyhoeddi data personol (pdf)
Cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion
Rydym yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad o fewn tri mis iddo ddod i ben a darparu dolen ato o'r dudalen hon.
Os nad yw'r crynodeb yn ymddangos ar ôl tri mis, cysylltwch â'r sawl a oedd yn gyfrifol am yr ymgynghoriad gwreiddiol. Fel arall, cysylltwch â Cydgysylltydd Ymgynghoriadau'r ASB
E-bost: consultationcoordinator@foodstandards.gsi.gov.uk
