Canllawiau’r Asiantaeth Safonau Bwyd ar gymhwyso nodau dyddiad ar fwyd
Thursday 25 March 2010
Gofyn yn ffurfiol am sylwadau rhanddeiliaid am y canllawiau diwygiedig drafft ar gydymffurfio â Rheoliadau Labelu Bwyd y DU 1996 a’r canllawiau newydd ar gyfer busnesau bach.
Dylech anfon eich holl sylwadau at:
Hilary Neathey
Iechyd Deietegol a Dewis i Ddefnyddwyr
Llawr 11
Tŷ Southgate
Wood Street
Caerdydd, CF10 1EW
Ffôn: 029 2067 8911
Ffacs: 029 2067 8919
E-bost: hilary.neathey@foodstandards.gsi.gov.uk
Gofynnir i chi ymateb erbyn: 16 Mehefin 2010
Cynulleidfa
Pwy fydd â diddordeb yn yr ymgynghoriad hwn?
Gweithgynhyrchwyr bwyd, awdurdodau gorfodi, labordai dadansoddi ac eraill sydd â diddordeb yn y broses o gymhwyso nodau dyddiad ar fwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw.
Beth yw testun yr ymgynghoriad hwn?
Diwygio canllawiau’r ASB ar gydymffurfio â Rheoliadau Labelu Bwyd y DU 1996 (fel y’u diwygiwyd) a fydd yn gweithredu Cyfarwyddeb 2000/13/EC sy’n ymwneud â labelu, cyflwyno a hysbysebu bwydydd, a chyhoeddi canllawiau newydd ar gyfer busnesau bach.
Beth yw diben yr ymgynghoriad hwn?
Gofyn yn ffurfiol am sylwadau rhanddeiliaid am y canllawiau diwygiedig drafft ar gydymffurfio â Rheoliadau Labelu Bwyd y DU 1996 a’r canllawiau newydd ar gyfer busnesau bach.
Manylion yr ymgynghoriad
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn gofyn am sylwadau ynghylch y canllawiau diwygiedig o ran cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol ar gyfer nodi dyddiadau ar fwyd a becynnir ymlaen llaw o dan Reoliadau Labelu Bwyd y DU 1996 fel y’u diwygiwyd, a fydd yn gweithredu Cyfarwyddeb 2000/1013/EC sy’n ymwneud â labelu, cyflwyno a hysbysebu bwydydd.
Mae cyfraith bwyd yn ei gwneud yn ofynnol i fwyd a becynnir ymlaen llaw gael un o ddau ddyddiad posibl wedi’i nodi arno sef; dyddiad sy’n nodi’r ‘cyfnod lleiaf y bydd y bwyd yn para’ neu’r minimum durability date (h.y. dyddiad ‘ar ei orau cyn’ neu ‘best before’) neu ddyddiad ‘defnyddio erbyn’ (‘use by’). Fodd bynnag, nid oes rhestr benodedig mewn cyfraith yn nodi pa ddyddiad sy’n mynd ar ba gynhyrchion bwyd. Bydd y dyddiad ‘ar ei orau cyn’ yn briodol i’r rhan fwyaf o fwydydd, a bydd y bwyd yn cadw ei nodweddion penodol tan y dyddiad hwnnw, os yw’n cael ei storio’n gywir, e.e. ni fydd yn llwydo. Ar gyfer bwydydd sy’n ddarfodus iawn yn ficrobiolegol ac felly, o’r herwydd, yn fwy tebygol o beri perygl enfawr i iechyd dynol ar ôl cyfnod byr o amser, mae angen nodi dyddiad ‘defnyddio erbyn’ arnynt. Cyhoeddwyd canllawiau gan yr Asiantaeth yn 2003 ar ba fwydydd a ddylai gael dyddiad ‘defnyddio erbyn’ arnynt (gweler dolen isod - Saesneg yn unig).
Datblygwyd y ddogfen er mwyn rhoi canllawiau i fusnesau bwyd sy’n rhan o’r broses o weithgynhyrchu, cynhyrchu a manwerthu bwyd a becynnir ymlaen llaw ar sut a phryd i roi dyddiad ‘defnyddio erbyn’ ar labeli bwyd. Roedd yn nodi pa ffactorau y dylid eu hystyried wrth benderfynu p’un a ddylid defnyddio dyddiad ‘defnyddio erbyn’ yn ogystal ag enghreifftiau o’r mathau o fwydydd a allai gario dyddiad ‘defnyddio erbyn’.
Mae rhanddeiliaid wedi beirniadu’r canllawiau presennol dros y blynyddoedd diweddar, gan gynnwys busnesau bwyd ac awdurdodau gorfodi. Cafodd ei nodi gan fusnesau bwyd bod y canllawiau yn cyfyngu ar eu gallu i gymhwyso’r dyddiadau a oedd yn angenrheidiol yn eu tyb nhw. Cafodd ei nodi gan awdurdodau gorfodi bod defnydd amhriodol o’r dyddiad ‘defnyddio erbyn’ mewn rhai achosion, ac felly roedd yn cael ei ddefnyddio ar ystod ehangach o gynhyrchion nag y dylai. Mae’r canllawiau hyn wedi’u cynhyrchu er mwyn diweddaru’r wybodaeth a mynd i’r afael â’r problemau a nodir uchod.
Mae adborth gan swyddogion gorfodi yn nodi bod busnesau bach yn cael dogfennau canllaw ar gydymffurfio â’r gyfraith yn anodd eu defnyddio. O’r herwydd, mae fersiwn byr a symlach o’r canllawiau llawn wedi’i chynhyrchu ar gyfer busnesau bach a dylai’r fersiwn hon wneud yr wybodaeth sydd ar gael yn y canllawiau llawn yn haws ei defnyddio. Fodd bynnag, byddai dal yn bwysig i weithredwyr busnesau bwyd ystyried p’un a oes ganddynt yr arbenigedd mewnol i bennu’r nod dyddiad, ac os nad oes ganddynt yr arbenigedd hwn, mae’n cael ei argymell y dylent sicrhau cywirdeb a phriodoldeb eu nodau dyddiad.
Cynigion
Er mwyn helpu busnesau bwyd i gymhwyso nodau dyddiad, mae’r Asiantaeth wedi diweddaru’r canllawiau a’u gwneud yn gliriach, a hefyd wedi’u hehangu i gynnwys canllawiau ar ddyddiadau ‘defnyddio erbyn’ yn ogystal â dyddiadau ‘ar ei orau cyn’. Mae’r canllawiau yn amlinellu’r prif egwyddorion y dylid eu hystyried wrth benderfynu ar nodau dyddiad, gan gynnwys siart lif i helpu wrth benderfynu ar y nodau dyddiad. Dylai’r canllawiau helpu busnesau bwyd osod nodau dyddiad mewn modd sy’n cydymffurfio â’r gyfraith ac sy’n fwy cyson, a fydd yn ei dro yn golygu gwell mesurau i ddiogelu defnyddwyr rhag nodau dyddiad amhriodol a lleihau unrhyw ddryswch am nodau dyddiad. Hefyd, mae posibilrwydd y gall hyn leihau gwastraff bwyd. Mae fersiwn symlach 2 dudalen o’r canllawiau hefyd yn cael ei chynhyrchu er mwyn helpu busnesau bach.
Mae’r canllawiau drafft hefyd wedi’u diwygio er mwyn eu cysoni â thempled safonol yr ASB.
Prif gynigion:
- Canllawiau diwygiedig a chynhwysfawr ar gydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol ar gyfer defnyddio nodau dyddiad, fel sy’n ofynnol o dan Reoliadau Labelu Bwyd 1996 (fel y’u diwygiwyd).
- Adran ar arfer gorau yn amlinellu’r prif egwyddorion y dylid eu hystyried wrth bennu nodau dyddiad, yn cynnwys siart benderfynu a fydd yn helpu gyda’r broses o bennu dyddiadau. Bydd yn darparu fframwaith i hwyluso dull mwy cyson a phriodol o bennu nodau dyddiad.
- Mae fersiwn 2 dudalen symlach o’r canllawiau hefyd yn cael ei chynhyrchu yn arbennig ar gyfer busnesau bach i’w helpu i gydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol o ran nodau dyddiad.
- Adran gydag enghraifft sy’n berthnasol i’r diwydiant o sut y gellir penderfynu ar ddyddiad ‘defnyddio erbyn’ a dyddiad ‘ar ei orau cyn’ ar gyfer dau gynnyrch bwyd, a hynny drwy ddefnyddio’r siart lif.
- Adran sy’n trafod oes silff a sut i benderfynu arno.
Y Broses Ymgynghori
Fe gynhaliodd Rhaglen Weithredu'r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau (WRAP) a’r ASB ddigwyddiad ar y cyd ym mis Chwefror 2009 ar wastraff bwyd, ac yn y cyfarfod, cytunwyd y dylid diwygio’r canllawiau ar ddyddiadau ‘defnyddio erbyn’, a hynny fel rhan o waith ehangach i edrych ar sut y mae busnesau bwyd yn defnyddio nodau dyddiad. O ganlyniad, sefydlodd yr ASB weithgor ar gyfer rhanddeiliaid allweddol, yn cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o’r diwydiant bwyd a gorfodi, i ystyried beth oedd y materion a oedd yn peri trafferth a sut y gellir diwygio’r canllawiau. Mae’r grŵp wedi helpu i gynhyrchu dwy set o ganllawiau, ac rydym yn ymgynghori ar y rhain ar hyn o bryd.
Mae’r Asiantaeth yn cyhoeddi ei dogfennau ymgynghori yn Gymraeg drwy glicio yma.
Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal am 12 wythnos. Anogir unrhyw un sydd â diddordeb i gysylltu â’r Asiantaeth gydag unrhyw sylwadau neu ymholiadau sydd ganddynt.
Bydd crynodeb o’r ymatebion a ddaw i law yn cael ei gyhoeddi ar wefan yr Asiantaeth o fewn 3 mis i ddiwedd y cyfnod ymgynghori. Bydd yr holl ymatebion yn cael eu hystyried gan yr Asiantaeth wrth lunio’r canllawiau terfynol i’w cyhoeddi. Lle na fydd sylwadau yn cael eu hystyried, bydd y rhesymau dros hyn yn cael eu nodi yn y crynodeb o ymatebion.
Cwestiynau a ofynnir yn yr ymgynghoriad hwn:
Canllawiau
- A ydych yn cytuno bod y canllawiau diwygiedig (Rhan 1 o’r ddogfen) ar gydymffurfio â’r gyfraith yn ddefnyddiol? A yw’n adlewyrchu gofynion y ddeddfwriaeth yn ddigonol ac yn glir? Os ydych yn anghytuno ag unrhyw ran ohonynt, nodwch y rheswm/rhesymau dros hyn.
- A yw Rhan 2 o’r ddogfen yn amlinellu’r prif egwyddorion y dylid eu hystyried wrth osod nodau dyddiad. Sut fyddai’n bosibl gwella’r adran hon?
- Mae Rhan 2 hefyd yn cynnwys siart benderfynu er mwyn dangos sut y gellir cymhwyso’r prif egwyddorion wrth wneud penderfyniadau am nodau dyddiad, ac mae’n cynnwys rhai enghreifftiau o grwpiau bwyd penodol. Un pryder yw y byddai dyfynnu enghreifftiau yn annog pobl i ddefnyddio’r siart heb gynnal yr asesiad risg angenrheidiol. Rydym am gael eich sylwadau ar hyn.
- A oes yna unrhyw wybodaeth arall y dylid ei chynnwys y canllawiau?
Asesiad Effaith
- A ydych yn rhagweld unrhyw effaith negyddol neu bositif o ganlyniad i gyflwyno’r canllawiau? Nodwch i ba raddau.
- Ai ‘rheolwr cynhyrchu’ yw’r swydd briodol ar gyfer cyfrifo costau ymgyfarwyddo. Os mai na yw eich ateb, nodwch yr opsiynau eraill, gyda thystiolaeth os yw’n briodol.
- A yw’r amcangyfrifon o ran amser a chost ar gyfer ymgyfarwyddo â’r canllawiau newydd yn realistig? Nodwch unrhyw amcangyfrifon eraill gyda thystiolaeth os yw’n briodol.
- Rydym yn gwahodd rhanddeiliaid i gynnig eu sylwadau ar yr Asesiad Effaith, ac yn arbennig, i gyflwyno tystiolaeth am unrhyw dybiaethau eraill a / neu gostau buddion eraill nad ydynt wedi’u cynnwys.
- Pa mor hir y byddai’n cymryd i fusnesau bach ddarllen fersiwn newydd, fwy syml o’r canllawiau?
Mae’r Asiantaeth yn croesawu eich holl sylwadau ar y canllawiau diwygiedig drafft a’r canllawiau syml newydd ar gyfer busnesau bach. Yn arbennig, anogir busnesau bwyd, doctoriaid a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill, elusennau a sefydliadau meddygol, maeth neu ddeietegol cenedlaethol eraill i gyflwyno eu sylwadau.
Ymatebion
Gofynnir am ymatebion erbyn diwedd y dydd 16 Mehefin 2010. A fyddech cystal â nodi wrth ymateb a ydych yn gwneud hynny fel unigolyn preifat neu ar ran sefydliad/cwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli).
Gwybodaeth bellach
Paratowyd yr ymgynghoriad hwn yn unol â Chod Ymarfer Swyddfa'r Cabinet ar Ymgynghori Ysgrifenedig. Mae Maen Prawf 6 Cod Ymarfer Swyddfa'r Cabinet yn datgan bod yn rhaid i ymgynghoriad ddilyn arferion gorau o safbwynt gwell rheoleiddio, sy'n cynnwys cynnal Asesiad Effaith Reoleiddiol.
Hoffem gael eich sylwadau ar yr ymgynghoriad hwn ac adborth cyffredinol ar y pecyn ymgynghori a'r broses ymgynghori gyffredinol. Os hoffech ein helpu i wella ansawdd ymgynghoriadau'r dyfodol, mae croeso i chi roi eich barn trwy ddefnyddio holiadur adborth yr ymgynghoriad.
Cyfrinachedd ymatebion a chyhoeddi data personol
Yn unol ag egwyddor yr ASB o weithredu'n agored, bydd ein Canolfan Wybodaeth yn Aviation House yn cadw copi o'r ymgynghoriad cyflawn. Bydd yr ASB yn cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion hefyd, a allai gynnwys data personol, fel eich enw a'ch cyfeiriad llawn. Dim ond os ceir ceisiadau i weld yr ymatebion cyflawn i’r ymgynghoriad y bydd unrhyw ddata personol arall yn cael ei ddatgelu. Os nad ydych chi am i ni ryddhau'r wybodaeth hon, dylech lenwi'r Ffurflen Cyhoeddi Data Personol a'i dychwelyd atom. Nid yw dychwelyd y ffurflen hon yn golygu y byddwn yn trin eich ymateb i'r ymgynghoriad yn gyfrinachol, dim ond eich data personol.
Cyhoeddi data personol (Word)
Cyhoeddi data personol (pdf)
Cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion
Rydym yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad o fewn tri mis iddo ddod i ben a darparu dolen ato o'r dudalen hon.
Os nad yw'r crynodeb yn ymddangos ar ôl tri mis, cysylltwch â'r sawl a oedd yn gyfrifol am yr ymgynghoriad gwreiddiol. Fel arall, cysylltwch â Cydgysylltydd Ymgynghoriadau'r ASB
E-bost: consultationcoordinator@foodstandards.gsi.gov.uk
