Lleihau'r Risg o E. coli O157- Rheoli Croeshalogi (Cymru)
Wednesday 14 July 2010
Y dull i'w fabwysiadu yng nghanllawiau'r Asiantaeth ynglŷn â'r ffordd y dylai busnesau bwyd reoli'r perygl o groeshalogi gan E. coli O157 a'r ffordd y gall y rheiny sy'n cyflwyno rheolaethau swyddogol gael sicrwydd bod rheolaethau busnesau bwyd yn ddigonol ac yn effeithiol.
Dylech anfon eich holl sylwadau at:
Andrew Morris
Llawr 11, Tŷ Southgate,
Wood Street,
Caerdydd,
CF10 1EW
Ffôn: 029 2067 8960
Ffacs: 029 2067 8918
E-bost: andrew.morris@foodstandards.gsi.gov.uk
Gofynnir i chi ymateb erbyn: 05 Hydref 2010
Cynulleidfa
Pwy fydd â diddordeb yn yr ymgynghoriad hwn?
Pob busnes bwyd sy'n ymdrin â bwydydd amrwd a bwyd sydd yn barod i'w fwyta (RTE)
Swyddogion sy'n cyflwyno rheolaethau swyddogol mewn busnesau bwyd.
Beth yw testun yr ymgynghoriad hwn?
Y dull i'w fabwysiadu yng nghanllawiau'r Asiantaeth ynglŷn â'r ffordd y dylai busnesau bwyd reoli'r perygl o groeshalogi gan E. coli O157 a'r ffordd y gall y rheiny sy'n cyflwyno rheolaethau swyddogol gael sicrwydd bod rheolaethau busnesau bwyd yn ddigonol ac yn effeithiol.
Beth yw diben yr ymgynghoriad hwn?
I wahodd barn rhanddeiliaid ar yr egwyddorion i'w cymhwyso wrth reoli'r perygl o groeshalogi gan E. coli O157 er mwyn creu canllawiau clir i'w defnyddio gan bob busnes bwyd a gorfodwr perthnasol. Bydd gwybodaeth am effeithiolrwydd, ymarferoldeb a phriodolrwydd y mesurau, ar gyfer busnesau bwyd a gorfodwyr, yn helpu i lunio ffurf a chynnwys y canllawiau sy'n cael eu datblygu.
Manylion yr ymgynghoriad
Cyhoeddwyd Adroddiad yr Ymchwiliad Cyhoeddus i’r achosion o E. coli O157 yng Nghymru yn 2005 (gweler paragraph 5 am fanylion) yn 2009 a gwnaeth nifer o argymhellion, y mae’r Asiantaeth yn ymateb iddynt ar sail y DU. Mewn perthynas â’r ymgynghoriad, y canlynol yw’r mwyaf arwyddocaol:
- Argymhelliad 1: Mae’n rhaid i bob busnes bwyd sicrhau bod eu systemau a’u gweithdrefnau yn gallu atal halogi neu groeshalogi bwyd ag E.coli O157
- Argymhelliad 4: Dylai’r egwyddorion sy’n tanseilio’r Cynllun Trwyddedu Cigyddion...arwain mesurau hylendid bwyd mewn busnesau sy’n prosesu cig amrwd a bwyd sy’n barod i’w fwyta heb ei ddadlapio
- Argymhelliad 5: Dylai’r Asiantaeth Safonau Bwyd adolygu ei chanllawiau cyfredol a dylai fod yn rhagweithiol yn creu canllawiau newydd lle mae anghenion yn cael eu nodi
- Argymhelliad 6: Dylai’r Asiantaeth Safonau Bwyd ddileu’r dryswch sy’n bodoli ymysg gweithredwyr busnesau bwyd ynglŷn â pha ateb(ion) y dylid eu defnyddio i atal croeshalogi o arwynebau ac offer.
Mae E. coli O157 yn organeb arbennig o beryglus oherwydd:
- ei ddogn heintus isel iawn a all achosi salwch difrifol a marwolaeth
- ei allu i wrthsefyll amgylcheddau asidig, oergell a rhewi.
Mae plant ifanc, yr henoed ac unigolion ag imiwnedd gwan mewn perygl penodol. Er nad yw’n cael ei gario mewn cig yn unig, roedd y marwolaethau yn yr Alban (1996) a Chymru (2005) oherwydd croeshalogi bwyd gan E.coli O157 o gig amrwd mewn adeilad cigydd.
Prif gynigion
- Mae angen i bob defnyddiwr gael ei amddiffyn rhag y perygl o achos ynysig o halogiad lefel isel bwyd gan E. coli O157
- Mae angen lleihau’r risg i ddefnyddwyr o eiddo yn ymdrin â bwyd amrwd a bwyd RTE trwy (1) wahanu ffisegol, (2) glanhau a diheintio, a (3) golchi dwylo a glanweithio
- Mae angen cyflawni’r 3 er mwyn lleihau’r risg. Bydd y dull o egluro sut y dylai FBOs reoli’r risg o groeshalogi gan E. coli O157 a’r ffordd y gall y rheiny sy’n cyflwyno rheolaethau swyddogol gael sicrwydd bod rheolaethau busnes bwyd yn ddigonol ac yn effeithiol mewn canllawiau yn hytrach nag mewn deddfwriaeth
- Mae’r canllawiau yn berthnasol i bob busnes bwyd o bob math a maint sy’n ymdrin â bwydydd amrwd a bwyd sydd yn barod i’w fwyta
- Mae’n rhaid i unrhyw diffyg mewn rheoliad croeshalogi gwestiynu ar unwaith dilysrwydd y gweithdrefnau sydd wedi methu a dylai gwestiynu gallu’r FBO i barhau i ddibynnu ar weithdrefnau cyfredol.
Y broses ymgynghori
Mae’r ymgynghoriad hwn yn gwahodd eich sylwadau ar yr egwyddorion a ddylai lywio canllawiau’r Asiantaeth sy’n cael eu datblygu. Mae’r gwaith hyd yn hyn i ddatblygu’r canllawiau wedi cynnwys adolygu’r deunydd sydd wedi ei gyhoeddi. Mae wedi ei ategu gan drafodaeth gyda’r cysylltiadau allanol canlynol:
- British Institute of Cleaning Science
- Cyflenwyr a gweithgynhyrchwyr offer cynhyrchu bwyd (pacwyr sugno yn arbennig)
- Campden BRI
- Ymgynghorwyr a hyfforddwyr diogelwch bwyd annibynnol
- Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
Bydd y canllawiau a gynhyrchir o ganlyniad i’r sylwadau y byddwn yn eu derbyn yn destun ymgynghoriad arall gyda’r rhanddeiliaid â diddordeb, yn canolbwyntio ar ddefnyddwyr y canllawiau arfaethedig.
Cwestiynau a ofynnwyd yn yr ymgynghoriad hwn
- Ydych chi’n cytuno y dylai’r egwyddor tanategol ar gyfer y canllawiau fod bod angen amddiffyn pob defnyddiwr rhag y perygl o achos ynysig o halogiad lefel isel bwyd gan E. coli O157? Os nac ydych, pa ddewis amgen fyddech chi’n ei awgrymu?
- Ydych chi’n cytuno bod yr elfennau a ddisgrifir ym mharagraff 9 a)-c) yn ddull effeithiol a chymesur ar gyfer FBOs i reoli’r perygl o halogiad E. coli O157?
- Yn arbennig, a yw gwahanu i’r graddau uchaf posibl, yn cynnwys defnydd pwrpasol (diben unigol) o offer cymhelth, anodd i’w lanhau, fel pacwyr sugno, peiriannau briwio a thafellwyr yn ymateb cymesur i’r perygl? Os nad yw, pa ddewis amgen y byddech chi’n ei awgrymu?
- A yw’r dull ar gyfer Swyddogion Awdurdodedig a ddisgrifir ym mharagraff 11 yn gymesur, yn effeithiol ac yn glir? Os nad yw, pa ddewisiadau amgen y byddech chi’n eu hawgrymu?
- Rydym yn bwriadu cyhoeddi canllawiau yn seiliedig ar yr egwyddorion hyn i roi eglurder i FBOs a Swyddogion Awdurdodedig, fel y gall y ddau fod yn glir ynglŷn â sut i gydymffurfio a sut i fynd i’r afael â diffyg cydymffurfio. Ydych chi’n cytuno y byddai canllawiau o’r fath yn ddefnyddiol ar gyfer FBOs a/neu Swyddogion Awdurdodedig?
- A oes gennych chi unrhyw farn am ffurf neu fformat y canllawiau arfaethedig? Yn arbennig, beth fyddai o gymorth mewn perthynas ag addasrwydd a’r defnydd o ddeunyddiau glanhau a diheintio?
Cwestiynau o’r Asesiad Effaith
Byddai’r Asiantaeth yn croesawu barn am:
- Y gost debygol i fusnesau (gyda thystiolaeth gefnogol lle y bo’n bosibl) o ran ymgyfarwyddo ag arweiniad arfaethedig, prynu offer ychwanegol i gydymffurfio â gwahanu ffisegol a/neu newidiadau angenrheidiol i eiddo busnes i wahanu bwydydd amrwd a bwyd sy’n barod i’w fwyta yn gyfan gwbl
- P’un a yw wedi ei gytuno bod busnes mawr yn annhebygol o fynd i gost sylweddol wrth gydymffurfio â’r canllawiau arfaethedig oherwydd natur bresennol eu gweithrediadau
- P’un a ystyrir bod y gost a amcangyfrifir i awdurdodau lleol yn gywir neu a fydd unrhyw gostau ychwanegol o ganlyniad i’r canllawiau arfaethedig
- P’un a yw’r awdurdodau lleol yn cytuno â’r buddion a ddisgrifir o gyflwyno’r canllawiau arfaethedig.
Rydym yn croesawu sylwadau ar yr ymgynghoriad hwn gan bob rhanddeiliad. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan fusnesau bwyd bach a chanolig er mwyn deall yn well y ffordd y byddent yn cael eu heffeithio trwy gydweithredu â’r angen i wahanu i’r graddau ffisegol uchaf posibl, yn cynnwys defnydd pwrpasol (diben unigol) o offer cymhleth. Rydym hefyd yn croesawu sylwadau gan y rheiny sy’n cynnal rheolaethau swyddogol mewn busnesau bwyd ynglŷn ag a fyddai canllawiau sy’n ymgorffori’r egwyddorion a ddisgrifir uchod yn eu galluogi i (a) gynnig cyngor clir i fusnesau bwyd i’w helpu i gydymffurfio; a (b) bod yn glir ynglŷn â’r hyn y mae diffyg cydymffurfio yn ei olygu a’r camau i’w cymryd o ganlyniad. Anfonwch eich ymatebion naill ai dros ebost neu mewn copi caled i’r cyswllt a nodir ar frig y dudalen hon.
Ymatebion
Gofynnir am ymatebion erbyn diwedd y dydd, 05 Hydref 2010. Nodwch yn eich ymateb a ydych yn ymateb fel unigolyn preifat neu ar ran sefydliad/cwmni (yn cynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli).
Gwybodaeth bellach
Paratowyd yr ymgynghoriad hwn yn unol â Chod Ymarfer Swyddfa'r Cabinet ar Ymgynghori Ysgrifenedig. Mae Maen Prawf 6 Cod Ymarfer Swyddfa'r Cabinet yn datgan bod yn rhaid i ymgynghoriad ddilyn arferion gorau o safbwynt gwell rheoleiddio, sy'n cynnwys cynnal Asesiad Effaith Reoleiddiol.
Hoffem gael eich sylwadau ar yr ymgynghoriad hwn ac adborth cyffredinol ar y pecyn ymgynghori a'r broses ymgynghori gyffredinol. Os hoffech ein helpu i wella ansawdd ymgynghoriadau'r dyfodol, mae croeso i chi roi eich barn trwy ddefnyddio holiadur adborth yr ymgynghoriad.
Cyfrinachedd ymatebion a chyhoeddi data personol
Yn unol ag egwyddor yr ASB o weithredu'n agored, bydd ein Canolfan Wybodaeth yn Aviation House yn cadw copi o'r ymgynghoriad cyflawn. Bydd yr ASB yn cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion hefyd, a allai gynnwys data personol, fel eich enw a'ch cyfeiriad llawn. Dim ond os ceir ceisiadau i weld yr ymatebion cyflawn i’r ymgynghoriad y bydd unrhyw ddata personol arall yn cael ei ddatgelu. Os nad ydych chi am i ni ryddhau'r wybodaeth hon, dylech lenwi'r Ffurflen Cyhoeddi Data Personol a'i dychwelyd atom. Nid yw dychwelyd y ffurflen hon yn golygu y byddwn yn trin eich ymateb i'r ymgynghoriad yn gyfrinachol, dim ond eich data personol.
Cyhoeddi data personol (Word)
Cyhoeddi data personol (pdf)
Cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion
Rydym yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad o fewn tri mis iddo ddod i ben a darparu dolen ato o'r dudalen hon.
Os nad yw'r crynodeb yn ymddangos ar ôl tri mis, cysylltwch â'r sawl a oedd yn gyfrifol am yr ymgynghoriad gwreiddiol. Fel arall, cysylltwch â Cydgysylltydd Ymgynghoriadau'r ASB
E-bost: consultationcoordinator@foodstandards.gsi.gov.uk
