Rheoliadau Arbelydru Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2010
Friday 25 June 2010
Mae’r Rheoliadau arfaethedig yn berthnasol i gyfleusterau arbelydru, mewnforwyr y saith categori o fwyd a ganiateir neu weithgynhyrchwyr cynhyrchion sy’n defnyddio’r cynhwysion hyn, awdurdodau gorfodi a grwpiau diogelu buddiannau defnyddwyr.
Dylech anfon eich holl sylwadau at:
Deb Morgan
Llawr 11, Tŷ Southgate
Wood Street
Caerdydd, CF10 1EW
Ffôn: 029 2067 8938
Ffacs: 029 2067 8919
E-bost: deb.morgan@foodstandards.gsi.gov.uk
Gofynnir i chi ymateb erbyn: 6 Awst 2010
Cynulleidfa
Pwy fydd â diddordeb yn yr ymgynghoriad hwn?
Mae'r Rheoliadau arfaethedig yn berthnasol i gyfleusterau arbelydru, mewnforwyr y saith categori o fwyd a ganiateir neu weithgynhyrchwyr cynhyrchion sy’n defnyddio’r cynhwysion hyn, awdurdodau gorfodi a grwpiau diogelu buddiannau defnyddwyr.
Beth yw testun yr ymgynghoriad hwn?
Rheoliadau Arbelydru Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2010, sy’n diwygio Rheoliadau Arbelydru Bwyd (Cymru) 2009. Gwneud darpariaethau statudol i weithredu Penderfyniad y Comisiwn 2010/172/EU, sy'n ychwanegu tri chyfleuster arbelydru bwyd yn India at y rhestr o gyfleusterau arbelydru bwyd a gymeradwywyd mewn trydydd gwledydd (nad ydynt yn rhan o’r UE). Bydd rhestr o gyfleusterau a gymeradwywyd yn Aelod-wladwriaethau’r UE hefyd yn cael ei diweddaru i adlewyrchu’r newidiadau diweddaraf.
Beth yw pwrpas yr ymgynghoriad hwn?
Ceisio safbwyntiau ar y diwygio arfaethedig i’r Rheoliadau, gwneud busnesau ac awdurdodau gorfodi’n ymwybodol o’r cyfleusterau newydd a rhoi cyfle i bawb sydd â diddordeb wneud sylwadau ar y cynigion.
Manylion yr ymgynghoriad
Byddem yn croesawu’ch sylwadau ar y Rheoliadau Arbelydru Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2010 arfaethedig, sydd wedi’u hamgáu fel Atodiad B. Bydd y Rheoliadau arfaethedig yn gweithredu Penderfyniad y Comisiwn 2010/172/EU, (“penderfyniad yr UE”) mewn perthynas â’r rhestr o gyfleusterau arbelydru bwyd a gymeradwywyd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd (UE). Mae’r Penderfyniad hwn yn diwygio Penderfyniad 2002/840/EC drwy ychwanegu tri chyfleuster yn India at y rhestr o gyfleusterau a gymeradwywyd. Mae’n ofynnol bod Penderfyniad yr UE yn cael ei weithredu’n ddi-oed.
Bu Penderfyniad yr UE mewn grym ers 29ain Mawrth 2010. Rydym yn cynnal ymgynghoriad chwe wythnos i gael sylwadau buddgyfranogwyr er mwyn sicrhau bod penderfyniad yr UE yn cael ei weithredu cyn gynted ag y bo modd. Rydym yn croesawu’ch sylwadau ar y modd y bydd Rheoliadau Arbelydru Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2010 yn gweithredu’r darpariaethau hyn. Gallai oedi pellach olygu bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn wynebu achosion tordyletswydd. Ond byddwn yn ceisio hwyluso pethau i’r rhai sydd angen mwy o amser os oes raid.
Bydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn ymgynghori ar Reoliadau cyfochrog ond gwahanol fydd yn berthnasol i’w tiriogaethau nhw.
Talfyriadau
UE - Undeb Ewropeaidd
CS - Cyfnodolyn Swyddogol
OS – Offeryn Statudol
Caniatawyd y broses o drin bwyd gydag ymbelydredd ïoneiddio (pelydr-x, pelydrau gama neu belydrau electron) (y cyfeirir ato fel “arbelydru bwyd”) yn y DU ers 1991. Mae arbelydru bwyd a mewnforio a gwerthu bwyd sydd wedi’i drin yn y fath fodd (y cyfeirir ato fel “bwyd arbelydredig”) yn cael ei reoli ar hyn o bryd gan Gyfarwyddeb Ewropeaidd 1999/2/EC sy’n ymwneud â bwydydd a chynhwysion bwydydd sydd wedi’u trin ag ymbelydredd ïoneiddio. Mae darpariaethau Cyfarwyddeb 1999/2/EC yn cael eu gweithredu’n llawn yng Nghymru gan Reoliadau Arbelydru Bwyd (Cymru) 2009.
Mae Erthygl 9 Cyfarwyddeb 1999/2/EC yn datgan na ddylid mewnforio bwyd arbelydredig o drydedd wlad (nad yw’n rhan o’r UE) oni bai ei fod yn tarddu o gyfleuster sydd wedi’i gymeradwyo gan y Gymuned Ewropeaidd. Mae Erthygl 9 hefyd yn cynnwys y gweithdrefnau ar gyfer cymeradwyo cyfleusterau newydd. Yn 2008, archwiliwyd tri chyfleuster yn India dan y gweithdrefnau hyn. Mae Penderfyniad y Comisiwn 2010/172/EU yn diwygio Penderfyniad 2002/840/EC gyda golwg ar y rhestr o gyfleusterau arbelydru bwyd a gymeradwywyd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, fe’i cyhoeddwyd ar 23 Mawrth 2010 ac mae’n ychwanegu tri chyfleuster at y rhestr o gyfleusterau a gymeradwywyd. Mae’r Rheoliadau arfaethedig hyn yn darparu ar gyfer gweithredu Penderfyniad y Comisiwn 2010/172/EU yng Nghymru.
Er nad yw arbelydru bwyd yn arfer cyffredin iawn yn y DU, mae’n cael ei ffafrio fwyfwy mewn rhannau o’r byd megis yr Unol Daleithiau, India a’r Dwyrain Pell. Mae’n bwysig felly ein bod yn sicrhau bod ein gweithdrefnau ar gyfer derbyn bwyd arbelydredig o’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd yn cwrdd â’r safonau cyfreithiol a osodir yn neddfwriaeth yr UE.
Cynigion
Mae’r adran ganlynol yn esbonio’n fanwl y rhesymeg y tu ôl i’r Rheoliadau newydd.
Gweithredu Penderfyniad y Comisiwn 2010/172/EC
Mae Erthygl 9 Cyfarwyddeb 1999/2/EC yn datgan na ddylid mewnforio bwyd arbelydredig o drydedd wlad oni bai ei fod yn tarddu o gyfleuster sydd wedi’i gymeradwyo gan y Gymuned Ewropeaidd. Mae Erthygl 9 hefyd yn cynnwys y gweithdrefnau ar gyfer cymeradwyo cyfleusterau newydd. Yn 2008, archwiliwyd tri chyfleuster yn India dan y gweithdrefnau hyn a’u cael yn foddhaol.
Bydd y Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 4 (Rhestr o gyfleusterau tu allan i’r Gymuned Ewropeaidd) Rheoliadau Arbelydru Bwyd (Cymru) 2009, i gynnwys tri chyfleuster newydd yn India. Maent yn darparu ar gyfer gweithredu Penderfyniad y Comisiwn 2010/172/EU sy’n diwygio Penderfyniad 2002/840/EC yng Nghymru gyda golwg ar y rhestr o gyfleusterau a gymeradwywyd mewn trydydd gwledydd ar gyfer arbelydru bwydydd.
Diweddaru’r rhestr o gyfleusterau Aelod-wladwriaethau yn Atodlen 3
Mae Erthygl 7(4) Cyfarwyddeb 1999/2/EC yn gwneud hi’n ofynnol i’r Comisiwn Ewropeaidd i gyhoeddi manylion cyfleusterau Aelod-wladwriaethau ac unrhyw newidiadau i’w statws yn y Cyfnodolyn Swyddogol (CS). Cyhoeddwyd y manylion hyn i ddechrau yng Nghyfres C y CS, ond ers 2004 maent wedi’u disodli gan restr a gyhoeddwyd ar wefan y Comisiwn yn unig. Mae Atodlen 3 Rheoliadau Arbelydru Bwyd (Cymru) 2009 yn seiliedig ar y rhestr a gyhoeddwyd ynghynt ar wefan y Comisiwn, dyddiedig 3 Medi 2004. Ar 4 Ionawr 2010, disodlwyd y rhestr roedd Atodlen 3 Rheoliadau 2009 yn seiliedig arni gan y rhestr bresennol, di-ddyddiad.
O safbwynt yr Asiantaeth Safonau Bwyd (“yr Asiantaeth”), pwrpas Erthygl 7(4) yw cynhyrchu rhestr derfynol o gyfleusterau a gymeradwywyd mewn Aelod-wladwriaethau. Er bod y rhestr hon wedi’i chyhoeddi erbyn hyn ar wefan y Comisiwn ac nid yn gwbl unol â gofynion Erthygl 7(4), mae’n amlwg, serch hynny, mai bwriad y Comisiwn yw bod y rhestrau gwefan hyn yn cael eu trin fel y rhestr derfynol yn unol ag Erthygl 7(4). Fel y cyfryw rhaid i’r rhestr hon, ac unrhyw newidiadau a wneir iddi, gael ei gweithredu fel rhan o’n deddfwriaeth genedlaethol trwy ddiweddaru Atodlen 3 Rheoliadau 2009.
Pe na bai’r newidiadau hyn yn cael eu gweithredu fel rhan o’n deddfwriaeth genedlaethol, ni fyddai bwyd o’r tri chyfleuster Aelod-wladwriaeth newydd a restrir, sydd wedi’u cymeradwyo’n unigol gan yr Aelod-wladwriaeth berthnasol yn unol ag Erthygl 7 Cyfarwyddeb 19999/2/EC, yn cael ei ganiatáu dan Reoliadau 2009, a byddai hynny’n rhwystr i’r fasnach rydd gyfreithlon o fewn yr Undeb Ewropeaidd.
Mân Welliannau Drafftio i Atodlen 2 (Trwyddedau)
Mae’r cynnig hwn hefyd yn gwneud mân welliant drafftio i Atodlen 2 (Trwyddedau) Rheoliadau Arbelydru Bwyd (Cymru) 2009. Mae’r gwelliant yn Rhan 3 (Y gofynion a’r gwaharddiadau sydd i’w dilyn gan drwyddedai) o Atodlen 2 a bydd yn gosod y geiriau “rhif ei swp” ym mharagraff 9(1)(b) yn lle cyfeirio at “y nifer a roir iddo dan baragraff 4”. Nid yw hyn yn newid ystyr y ddarpariaeth ond mae’n ei gwneud yn fwy clir.
Argymhellwyd y cynnig hwn gan Bwyllgor Is-ddeddfwriaeth Senedd yr Alban wrth iddynt graffu ar eu deddfwriaeth gyfochrog i Reoliadau 2009, ac yn yr un modd mae’n cael ei gynnwys yn nrafft Cymru am fod y testun yr un fath yn union yn hyn o beth â Rheoliadau Cymru. Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn cynnwys cywiriad i fersiwn Gymraeg Rheoliadau Arbelydru Bwyd (Cymru) 2009 a gwelliant drafftio i Atodlen 2. Mae hyn yn ymwneud â’r defnydd o ddau derm gwahanol yn Gymraeg (‘risg o bwys’ a ‘risg sylweddol’) ar gyfer yr un term yn Saesneg (‘significant risk’). Mae’r Rheoliadau hyn yn cael gwared â’r anghysondeb hwnnw.
Cynigion allweddol:
- Gweithredu Penderfyniad y Comisiwn 2010/172/EU trwy ddiwygio Atodlen 4 (Rhestr o gyfleusterau mewn gwlad tu allan i’r Gymuned Ewropeaidd) Rheoliadau Arbelydru Bwyd (Cymru) 2009 i ychwanegu tri chyfleuster arbelydru bwyd newydd a gymeradwywyd yn India.
- Diweddaru Atodlen 3 (Rhestr o gyfleusterau a gymeradwywyd mewn Aelod-wladwriaethau) Rheoliadau Arbelydru Bwyd (Cymru) 2009 i adlewyrchu newidiadau diweddar i’r rhestr gyfatebol a gyhoeddwyd ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd.
- Gwneud mân welliannau drafftio i Atodlen 2 (Trwyddedau) Rheoliadau Arbelydru Bwyd (Cymru) 2009.
Y Broses Ymgynghori
Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus llawn dros gyfnod o 12 wythnos ar Reoliadau 2009 y bydd yr OS drafft hwn yn eu diwygio, a hynny rhwng 29 Ionawr a 27 Ebrill 2009. Mae’r ymgynghoriad blaenorol hwn a chrynodeb o’r ymatebion a gafwyd o Gymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon ar gael drwy glicio yma
Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus chwe wythnos hwn yn rhoi cyfle i fuddgyfranogwyr i wneud sylwadau ar yr OS diwygio arfaethedig.
Bydd yr holl ymatebion a dderbynnir fel rhan o’r ymgynghoriad yn cael ystyriaeth ofalus. Caiff y rhain eu crynhoi a’u cyhoeddi ar wefan yr Asiantaeth yn nes ymlaen.
Cwestiynau a holwyd yn yr ymgynghoriad hwn:
- Oes gennych chi unrhyw wrthwynebiad i gynnwys unrhyw rai o’r cyfleusterau yn Atodlenni diwygiedig 3 a 4 fel cyfleusterau arbelydru bwyd a gymeradwywyd (er enghraifft, os gennych chi dystiolaeth na chwrddwyd â’r gweithdrefnau cywir o ran cymeradwyo unrhyw un o’r enghreifftiau hyn)? Rhowch dystiolaeth i gefnogi’ch barn.
- Ydych chi’n meddwl y bydd unrhyw agweddau o’r ddeddfwriaeth yn anodd eu gweithredu neu’n teimlo y gellid eu gweithredu mewn ffordd fwy syml, llai beichus? Rhowch dystiolaeth i gefnogi’ch barn.
- Ydych chi’n meddwl bod yna unrhyw ffordd arall, ar wahân i gyflwyno deddfwriaeth, o gael yr un canlyniad, sef sicrhau nad yw bwyd arbelydredig yn cael ei werthu oni bai ei fod yn tarddu o gyfleuster a gymeradwywyd? Rhowch dystiolaeth i gefnogi’ch barn.
- Ydych chi’n cytuno â’n barn ni na fydd yna unrhyw effaith ar fusnesau neu awdurdodau gorfodi o ganlyniad i’r cynigion hyn? Rhowch dystiolaeth i gefnogi’ch barn.
- Oes gennych chi unrhyw sylwadau cyffredinol / bryderon am y cynigion hyn?
Byddem yn croesawu sylwadau gan yr holl randdeiliaid, ond yn arbennig y rhai sydd yn y diwydiant arbelydru, y rhai all fod yn mewnforio unrhyw gynnyrch sydd yn y saith categori o fwydydd a ganiateir, neu’n gweithgynhyrchu cynnyrch gan ddefnyddio’r cynhwysion mewnforiedig hyn, a chan awdurdodau gorfodi. Er nad yw’r Asiantaeth yn rhagweld y bydd yna unrhyw gostau newydd neu ychwanegol yn sgil y cynigion a drafodir yma, mae bob amser yn gymorth i ni gael y darlun cyfan o ran beichiau (yn arbennig beichiau gweinyddol) a osodir ar y rhai sy’n cael eu heffeithio gan y cynigion. A fyddech cystal ag anfon eich ymateb trwy e-bost neu’r post gan ddefnyddio’r manylion cyswllt ar dudalen 1.
Ymatebion
Mae angen inni dderbyn eich ymatebion cyn diwedd y dydd ar 6 Awst 2010. A fyddech cystal â nodi yn eich ymateb, p’un ai ydych chi’n ymateb fel unigolyn preifat neu ar ran sefydliad/cwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid mae’ch sefydliad yn eu cynrychioli).
Gwybodaeth bellach
Paratowyd yr ymgynghoriad hwn yn unol â Chod Ymarfer Swyddfa'r Cabinet ar Ymgynghori Ysgrifenedig. Mae Maen Prawf 6 Cod Ymarfer Swyddfa'r Cabinet yn datgan bod yn rhaid i ymgynghoriad ddilyn arferion gorau o safbwynt gwell rheoleiddio, sy'n cynnwys cynnal Asesiad Effaith Reoleiddiol.
Hoffem gael eich sylwadau ar yr ymgynghoriad hwn ac adborth cyffredinol ar y pecyn ymgynghori a'r broses ymgynghori gyffredinol. Os hoffech ein helpu i wella ansawdd ymgynghoriadau'r dyfodol, mae croeso i chi roi eich barn trwy ddefnyddio holiadur adborth yr ymgynghoriad.
Cyfrinachedd ymatebion a chyhoeddi data personol
Yn unol ag egwyddor yr ASB o weithredu'n agored, bydd ein Canolfan Wybodaeth yn Aviation House yn cadw copi o'r ymgynghoriad cyflawn. Bydd yr ASB yn cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion hefyd, a allai gynnwys data personol, fel eich enw a'ch cyfeiriad llawn. Dim ond os ceir ceisiadau i weld yr ymatebion cyflawn i’r ymgynghoriad y bydd unrhyw ddata personol arall yn cael ei ddatgelu. Os nad ydych chi am i ni ryddhau'r wybodaeth hon, dylech lenwi'r Ffurflen Cyhoeddi Data Personol a'i dychwelyd atom. Nid yw dychwelyd y ffurflen hon yn golygu y byddwn yn trin eich ymateb i'r ymgynghoriad yn gyfrinachol, dim ond eich data personol.
Cyhoeddi data personol (Word)
Cyhoeddi data personol (pdf)
Cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion
Rydym yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad o fewn tri mis iddo ddod i ben a darparu dolen ato o'r dudalen hon.
Os nad yw'r crynodeb yn ymddangos ar ôl tri mis, cysylltwch â'r sawl a oedd yn gyfrifol am yr ymgynghoriad gwreiddiol. Fel arall, cysylltwch â Cydgysylltydd Ymgynghoriadau'r ASB
E-bost: consultationcoordinator@foodstandards.gsi.gov.uk
