Cynllun 'Scores on the Doors' i'r DU Gyfan ar Safonau Hylendid Mewn Busnesau Bwyd
Tuesday 3 June 2008
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn ceisio eich barn ar gynigion i sefydlu cynllun 'scores on the doors' (SOTD) i'r DU gyfan i roi gwybodaeth i ddefnyddwyr am safonau hylendid mewn busnesau bwyd.
Dylech anfon eich holl sylwadau at:
Andrew Morris
Y Gangen Gorfodi Cyffredinol
Asiantaeth Safonau Bwyd
Llawr 11, Ty Southgate
Wood Street,
Caerdydd,
CF10 1EW
Ffôn: 02920678960
Ffacs: 02920678918
E-bost: andrew.morris@foodstandards.gsi.gov.uk
Gofynnir i chi ymateb erbyn: 29 Awst 2008
Manylion yr ymgynghoriad
Caiff y cynllun ei ategu gan ymarfer brandio a marchnata a ariennir yn ganolog a chan ymgyrch hyrwyddo genedlaethol i godi ymwybyddiaeth defnyddwyr a busnesau bwyd. Caiff safonau hylendid eu hasesu gan awdurdodau lleol, sy'n bartneriaid i ni, ac rydym hefyd yn ceisio eu barn ar becyn cymorth i'w helpu i weithredu'r cynllun yn y DU gyfan.
Gofynnir am eich sylwadau ar:
- nodweddion hanfodol cynllun i'r DU gyfan, ac ar ddau opsiwn gwahanol ar gyfer elfen sgorio'r cynllun - system 'tair seren, a methu' (pedair haen) a system 'llwyddo/angen gwella' (dwy haen) (yn seiliedig ar gynllun a gaiff ei dreialu yn yr Alban ar hyn o bryd) - rhoddir y manylion yn Atodiad 1
- opsiynau eraill ar gyfer elfen sgorio'r cynllun, yn seiliedig ar eich profiad o systemau sgorio presennol, megis y systemau pum seren amrywiol sydd ar waith
- elfennau hanfodol y pecyn cymorth angenrheidiol ar gyfer awdurdodau lleol sy'n gweithredu'r cynllun.
- yr Asesiad Effaith drafft ar gyfer y cynllun i'r DU gyfan
Mae manylion llawn y cynllun a gwybodaeth gefndirol ar gael yn y ddolen isod.
Gwybodaeth bellach
Paratowyd yr ymgynghoriad hwn yn unol â Chod Ymarfer Swyddfa'r Cabinet ar Ymgynghori Ysgrifenedig. Mae Maen Prawf 6 Cod Ymarfer Swyddfa'r Cabinet yn datgan bod yn rhaid i ymgynghoriad ddilyn arferion gorau o safbwynt gwell rheoleiddio, sy'n cynnwys cynnal Asesiad Effaith Reoleiddiol.
Hoffem gael eich sylwadau ar yr ymgynghoriad hwn ac adborth cyffredinol ar y pecyn ymgynghori a'r broses ymgynghori gyffredinol. Os hoffech ein helpu i wella ansawdd ymgynghoriadau'r dyfodol, mae croeso i chi roi eich barn trwy ddefnyddio holiadur adborth yr ymgynghoriad.
Cyfrinachedd ymatebion a chyhoeddi data personol
Yn unol ag egwyddor yr ASB o weithredu'n agored, bydd ein Canolfan Wybodaeth yn Aviation House yn cadw copi o'r ymgynghoriad cyflawn. Bydd yr ASB yn cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion hefyd, a allai gynnwys data personol, fel eich enw a'ch cyfeiriad llawn. Dim ond os ceir ceisiadau i weld yr ymatebion cyflawn i’r ymgynghoriad y bydd unrhyw ddata personol arall yn cael ei ddatgelu. Os nad ydych chi am i ni ryddhau'r wybodaeth hon, dylech lenwi'r Ffurflen Cyhoeddi Data Personol a'i dychwelyd atom. Nid yw dychwelyd y ffurflen hon yn golygu y byddwn yn trin eich ymateb i'r ymgynghoriad yn gyfrinachol, dim ond eich data personol.
Cyhoeddi data personol (Word)
Cyhoeddi data personol (pdf)
Cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion
Rydym yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad o fewn tri mis iddo ddod i ben a darparu dolen ato o'r dudalen hon.
Os nad yw'r crynodeb yn ymddangos ar ôl tri mis, cysylltwch â'r sawl a oedd yn gyfrifol am yr ymgynghoriad gwreiddiol. Fel arall, cysylltwch â Cydgysylltydd Ymgynghoriadau'r ASB
E-bost: consultationcoordinator@foodstandards.gsi.gov.uk
