Ymgynghoriadau
Mae’r Asiantaeth yn cynnal nifer o ymgynghoriadau ffurfiol, a hynny er mwyn gwahodd sylwadau gan y diwydiant bwyd, y cyhoedd ac eraill ar bynciau yn amrywio o newidiadau arfaethedig i reoliadau i fentrau polisi bwyd newydd.
Rydym wedi mynd ati i greu rhestr o ymgynghoriadau arfaethedig, a hynny er mwyn rhoi gwybod i randdeiliaid ymlaen llaw am unrhyw ymgynghoriadau y mae’r ASB yn bwriadu eu cyhoeddi ar ei gwefan yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd y rhestr arfaethedig yn newid, ac efallai y bydd rhai ymgynghoriadau arfaethedig yn cael eu tynnu’n ôl yn gyfan gwbl. O’r herwydd, nid yw’r ffaith fod ymgynghoriad arfaethedig yn ymddangos ar y rhestr yn golygu y bydd yr ymgynghoriad hwnnw’n mynd yn ei flaen.
Isod, mae manylion ymgynghoriadau sydd ar agor ar hyn o bryd.
Ymgynghoriadau yng Nghymru
Asesiad Effaith ar Reoliad y Comisiwn (UE) Rhif 1276/2011
Dyddiad lansio: 16 Mawrth 2012 Dyddiad cau: 14 Ebrill 2012
Adolygiad o'r Fframwaith ar gyfer Gwneud Polisïau yn yr ASB
Dyddiad lansio: 19 Mawrth 2012 Dyddiad cau: 22 Mehefin 2012
Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012
Dyddiad lansio: 16 Ionawr 2012 Dyddiad cau: 09 Ebrill 2012
Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) (Diwygio) a Rheoliadau Toddyddion Echdynnu mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2012
Dyddiad lansio: 14 Rhagfyr 2011 Dyddiad cau: 15 Chwefror 2012
Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2012
Dyddiad lansio: 05 Rhagfyr 2011 Dyddiad cau: 29 Chwefror 2012
Diddymu Rheolaethau ar Ddefaid yn sgil Chernobyl
Dyddiad lansio: 17 Tachwedd 2011 Dyddiad cau: 8 Chwefror 2012
