Hylendid bwyd yn destun pryder wth fwyta allan
Tuesday 24 January 2012
Mae arolwg tracio diweddaraf yr Asiantaeth o agweddau’r cyhoedd yn dangos mai’r prif fater diogelwch bwyd sy’n peri pryder i bobl yw hylendid bwyd wrth fwyta allan. Mae materion eraill yn cynnwys gwenwyn bwyd a defnyddio ychwanegion mewn bwyd.
Cyflwynodd yr Asiantaeth ei Chynllun Sgorio Hylendid Bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon er mwyn lleihau’r pryderon hyn drwy annog busnesau i wella safonau hylendid a lleihau clefydau a gludir gan fwyd. Mae’r cynlluniau yn helpu cwsmeriaid i ddewis ble i fwyta allan neu siopa am fwyd drwy roi gwybodaeth iddynt am safonau hylendid mewn bwytai, caffis, gwestai a siopau bwyd.
Yn yr arolwg tracio diweddaraf, gofynnwyd tri chwestiwn newydd er mwyn mesur ymwybyddiaeth pobl o gynlluniau hylendid bwyd. Mae’r canlyniadau’n dangos bod 19% o ymatebwyr wedi gweld neu glywed am gynllun o’r math hwn. Pan ofynnwyd iddynt, dywedodd 21% o ymatebwyr eu bod wedi gweld neu glywed am y ‘Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd’, dywedodd 12% eu bod wedi gweld neu glywed am ‘Scores on the Doors’ ac roedd 10% wedi gweld neu glywed am y ‘Cynllun Gwybodaeth am Hylendid Bwyd’ (sydd ar waith yn yr Alban).
Cynhaliwyd y gwaith ymchwil diweddaraf hwn ym mis Tachwedd 2011, ac aethpwyd ati i gyfweld â chyfanswm o 2,076 o ymatebwyr drwy gyfrwng arolwg omnibws wyneb yn wyneb TNS.

Am rannu hwn?