Lansio DVD Cymraeg i gigyddion
Monday 6 February 2012
Mae’r ASB wedi creu fersiwn iaith Gymraeg o’r DVD ar gyfer cigyddion, er mwyn eu hannog i feddwl am y peryglon diogelwch bwyd sy’n wynebu eu busnes a sut i reoli’r peryglon hyn.
Yn y DVD, mae cigyddion o Gymru yn siarad am y camau y maent wedi’u cymryd i leihau peryglon diogelwch bwyd.
Mae’r DVD wedi’i greu fel rhan o ymateb yr Asiantaeth i argymhellion yr Ymchwiliad Cyhoeddus i’r achosion difrifol o E.coli O157 yng Nghymru yn 2005. Cafodd fersiwn Saesneg ei chreu hefyd, a gellir gweld y fersiwn honno isod.
Mae ‘E.coli O157. Canllaw Cigyddion ar aros yn ddiogel’ yn canolbwyntio ar dri pheth allweddol:
- bygythiad E.coli O157 i fusnesau a’u cwsmeriaid
- pwysigrwydd gwahanu cig amrwd a chig sy’n barod i’w fwyta wrth reoli croeshalogi
- rôl gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd wedi’u nodi ar bapur, a pha mor hawdd yw hi i wneud y gweithdrefnau hyn yn rhan naturiol o’u gwaith bob dydd
Mae’r DVD yn adnodd defnyddiol i awdurdodau lleol sy’n cynnal gweithgarwch gorfodi mewn siopau cig, ac yn ychwanegu at yr holl ganllawiau y mae’r Asiantaeth wedi’u creu. Mae is-deitlau Saesneg ar gael.
Meddai Huw Williams, Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer Gwasanaethau Amgylcheddol a Thai yng Nghyngor Sir Ceredigion, “Mae’r Canllaw yn cyflwyno’r syniad o atal croeshalogi a rheoli peryglon diogelwch bwyd gan ddefnyddio synnwyr cyffredin cigyddion cyffredin. Mae’r ffilm yn dangos bod gofyn i fusnesau fod yn drefnus ac ymrwymo i gynhyrchu bwyd mewn ffordd ddiogel, ond nad yw hyn o reidrwydd yn beth anodd.”
Meddai Rob Wilkins, Arweinydd Tîm Gweithredu a Chefnogi’r Awdurdodau Lleol yn swyddfa’r ASB yng Nghaerdydd: “Rydym am annog cigyddion i roi mesurau syml ar waith er mwyn sicrhau bod y bwyd y maent yn ei ddarparu yn ddiogel, gan ddiogelu defnyddwyr a’u busnesau. Mae’r cigyddion sy’n ymddangos yn y DVD yn dangos sut y maen nhw wedi mynd ati, gan ddangos nad yw’n gorfod bod yn gymhleth. Mae gwahanol gigyddion yn ymddangos ar y DVD Cymraeg a’r DVD Saesneg. Mae is-deitlau Saesneg ar y fersiwn Gymraeg felly gall pobl ddi-Gymraeg ei ddefnyddio hefyd.”
Gellir gwylio’r DVD ar-lein drwy’r ddolen isod neu gallwch archebu copi drwy ffonio Cyhoeddiadau’r ASB (gan ddyfynnu FSA/1638/1111) ar 0845 606 0667 neu anfonwch e-bost at foodstandards@ecgroup.co.uk.foodstandards@ecgroup.co.uk.

Am rannu hwn?