Pwyllgor Cynghori ar Fwydydd Anifeiliaid (ACAF)
Monday 6 February 2012
Gwahoddir ceisiadau i lenwi dau le ar y Pwyllgor Cynghori ar Fwydydd Anifeiliaid (ACAF).
Mae’r ACAF yn bwyllgor annibynnol sy’n cynghori’r Asiantaeth Safonau Bwyd a Gweinidogion ar ddefnydd a diogelwch bwydydd anifeiliaid ac arferion bwydo, gyda phwyslais penodol ar ddiogelu iechyd pobl ac ar ddatblygiadau technegol newydd.
Mae angen aelodau newydd ar y Pwyllgor, rhywun sydd â gwybodaeth a/neu brofiad o naill ai ffermio neu faterion defnyddwyr. Rhaid bod gan ymgeiswyr y gallu i weithio’n dda mewn tîm, sgiliau cyfathrebu effeithiol yn ysgrifenedig ac ar lafar a barn gadarn ynghyd â sgiliau dadansoddi a datrys problemau o’r radd flaenaf. Fel aelodau o ACAF, rhaid iddynt allu gweithio o fewn strwythur pwyllgor a phwyso a mesur materion gwyddonol, technegol a pholisi y tu allan i’w maes arbenigedd eu hunain.
Dyma gyfle gwych i gyfrannu at ddiogelwch a safonau bwyd yn y DU drwy gynnig cyngor ar y cam hollbwysig hwn o’r gadwyn fwyd. Gan amlaf, mae’r penodiadau yn para am dair blynedd. Mae’r ACAF yn cyfarfod am sesiwn agored dair gwaith y flwyddyn fel arfer, a hynny’n dueddol o fod yn Llundain. Ad-delir treuliau rhesymol a chynigir rhywfaint o dâl am fynychu’r cyfarfodydd.
Mae’r broses o benodi i ACAF yn deg ac yn agored ac wedi’i seilio ar deilyngdod, yn unol â Chod Ymarfer y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus, gan ystyried cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae’r Asiantaeth yn gyflogwr cyfle cyfartal ac yn cynnig Cynllun Gwarantu Cyfweliad i bobl ag anableddau sy’n bodloni’r meini prawf hanfodol a nodir.
Os oes gennych ddiddordeb yn y rôl hon, mae pecyn gwybodaeth a ffurflen gais ar gael oddi wrth:
Raj Pal,
ACAF Secretariat,
Room 3C Aviation House,
125 Kingsway,
London WC2B 6NH.
Ffôn: 020 7276 8083
Ffacs: 020 7276 8910
e-bost: acaf@foodstandards.gsi.gov.uk
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 5 Mawrth 2012.

Am rannu hwn?