Llysiau: paid â’u bwyta heb eu golchi
Tuesday 22 November 2011
Heddiw, mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi lansio ymgyrch newydd i atgoffa’r cyhoedd i olchi llysiau amrwd er mwyn lleihau’r perygl o gael gwenwyn bwyd.
Mae’r ymgyrch yn dilyn yr achosion o E.coli ym Mhrydain a thramor eleni, gan gynnwys un a oedd yn gysylltiedig â phridd ar lysiau amrwd ac un arall a achoswyd gan had wedi’u hegino a oedd wedi’u halogi.
Bydd hysbysebion yn cael eu dangos yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon a fydd yn cynnwys cyngor ar baratoi llysiau yn hylan. Bydd Lloegr yn cefnogi’r ymgyrch gyda gweithgaredd cysylltiadau cyhoeddus. Mae’r ymgyrch yn canolbwyntio ar atgyfnerthu cyngor diogelwch bwyd presennol ar storio, trin a choginio bwyd, gan gynnwys llysiau amrwd.
Meddai Andrew Wadge, Prif Wyddonydd yr ASB:
“Mae ein hymgyrchoedd blaenorol wedi canolbwyntio ar y peryglon sy’n gysylltiedig â pharatoi cig amrwd a dofednod. Fodd bynnag, dangosodd achosion diweddar o E. coli a oedd yn gysylltiedig â llysiau a had wedi’u hegino bod trin cynnyrch ffres, yn arbennig os yw’n cario gronynnau o bridd, yn gallu lledaenu bacteria niweidiol.
“Aeth yr Asiantaeth ati i gomisiynu gwaith ymchwil yn dilyn yr achosion hyn a oedd yn edrych ar agweddau pobl tuag at ddiogelwch bwyd wrth baratoi llysiau. Dangosodd yr ymchwil fod ymwybyddiaeth o beryglon gwenwyn bwyd o lysiau yn isel. Ar y llaw arall, roedd y rhan fwyaf a gafodd eu holi yn fwy gofalus wrth drin cig. Prin oedd yr ymwybyddiaeth fod croeshalogi o lysiau i fwydydd eraill yn risg o ran diogelwch bwyd. Nod yr ymgyrch hwn yw codi ymwybyddiaeth o’r perygl hwn.”
Mae negeseuon yr ymgyrch yn cynnwys:
- Cofia olchi dy ddwylo yn iawn cyn ac ar ôl trin bwyd amrwd, gan gynnwys llysiau
- Cofia gadw bwyd amrwd, gan gynnwys llysiau, ar wahân i fwyd i sy’n barod i’w fwyta
- Defnyddia wahanol fyrddau torri a chyllyll ac ati ar gyfer bwyd amrwd a bwyd sy’n barod i’w fwyta, neu cer ati i’w golchi’n iawn ar ôl eu defnyddio bob tro
- Oni bai bod y deunydd pecynnu o amgylch y llysiau yn nodi eu bod yn barod i’w bwyta (ready-to-eat), mae gofyn i ti eu golchi, eu plicio neu eu coginio cyn eu bwyta.
Mae’r arbedion y mae’r Asiantaeth wedi’u gwneud drwy gydol y flwyddyn yn golygu ein bod wedi ariannu’r ymgyrch gan ddefnyddio cyllidebau presennol yr ASB.
Bydd yr ymgyrch yn cael ei chynnal o’r drydedd wythnos ym mis Tachwedd am fis yng Nghymru a’r Alban. Yng Ngogledd Iwerddon, bydd yr ymgyrch yn cael ei chynnal am bythefnos o 5 Rhagfyr ac am bythefnos arall o 2 Ionawr 2012.

Am rannu hwn?