Coginio Cinio Nadolig Diogel
Wednesday 7 December 2011
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn noddi tudalennau ryseitiau bwyd Channel 4 ar ei gwefan dros dymor y Nadolig. Drwy wneud hyn, gall yr Asiantaeth dynnu sylw at ei negeseuon hylendid a diogelwch bwyd dros yr ŵyl.
Os nad ydych chi’n ofalus, gall gwenwyn bwyd fod yn ymwelydd annymunol dros y Nadolig. O’r herwydd, mae’r ASB wedi cyhoeddi amrywiaeth o wybodaeth i roi help llaw i chi, gan gynnwys cyngor ar baratoi a choginio’r twrci. Ond mae coginio cinio Nadolig diogel yn golygu llawer mwy na chymryd gofal gyda’r twrci’n unig. Yn ôl gwaith ymchwil a gynhaliwyd gan yr Asiantaeth yn ddiweddar, mae’r cyhoedd yn ymwybodol o’r peryglon a achosir gan germau niweidiol mewn cig amrwd, ond yn llai ymwybodol o beryglon llysiau amrwd.
Meddai Rob Wilkins, arbenigwr diogelwch bwyd yn yr ASB yng Nghymru: ‘Mae paratoi cinio Nadolig yn gallu bod yn her, gan nad yw’r rhan fwyaf ohonom ni wedi arfer coginio ar gyfer cymaint o bobl. Mae’n hawdd gwneud camgymeriadau yn y gegin sy’n cynyddu’r perygl o achosi gwenwyn bwyd. Un o’r prif reolau wrth goginio yw atal croeshalogi o gig neu ddofednod amrwd i fwydydd eraill. Cofiwch gadw bwyd amrwd, boed yn dwrci neu’n llysiau, ar wahân i fwyd sy’n barod i’w fwyta. Cofiwch olchi’ch dwylo cyn ac ar ôl trin bwyd ond peidiwch â golchi’r twrci, gan fod hyn yn gallu lledaenu germau ymhellach. Y ffordd orau o ladd y germau yw gwneud yn siŵr eich bod yn coginio’r twrci yn iawn, yr holl ffordd drwyddo.
‘Mae oddeutu miliwn o achosion o wenwyn bwyd mewn blwyddyn, ond drwy ddilyn ychydig o gamau syml yn y gegin, gallwch helpu i ddiogelu’r teulu cyfan.’
I gael cyngor a gwybodaeth am baratoi cinio Nadolig yn ddiogel, dilynwch y dolenni isod.

Am rannu hwn?