Yr Asiantaeth yn croesawu argymhellion y cwêst i farwolaeth Mason Jones
Thursday 25 November 2010
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi croesawu argymhellion y crwner yn y cwêst i farwolaeth drasig Mason Jones, y bachgen bach pum mlwydd oed fu farw yn sgil yr achosion o E.coli yn Ne Cymru yn 2005. Mae’r crwner wedi argymell bod cyfreithiau hylendid bwyd yn cael eu gorfodi’n fwy trwyadl.
Roedd tua 160 o bobl yn sâl yn sgil yr achosion yn 2005. O ganlyniad, cafodd William John Tudor o gigyddion John Tudor & Son, Pen-y-bont ar Ogwr, ei ddedfrydu i garchar am flwyddyn gan Lys y Goron Caerdydd, a hynny ar ôl pledio’n euog i saith tramgwydd yn ymwneud â chyflenwi cig a oedd wedi’i halogi ag E.coli O157 i ysgolion.
Gan groesawu argymhellion y crwner, meddai Steve Wearne, Cyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru: ‘Rydym yn benderfynol o sicrhau bod gwersi yn cael eu dysgu yn sgil marwolaeth drasig Mason Jones. Rydym wedi darparu canllawiau i awdurdodau lleol gyda’r nod o sicrhau bod pob ymyrraeth â busnesau bwyd - boed yn gyngor, yn arolygiad neu’n gamau gorfodi - yn eu gwthio tuag at gydymffurfio’n llawn â’r gyfraith.
‘Byddwn yn cyhoeddi ymgynghoriad cyhoeddus yn fuan ar ddefnyddio Hysbysiadau Camau Unioni ym mhob safle bwyd. Byddai’r hysbysiadau hyn yn caniatáu i swyddogion gorfodi awdurdodau lleol fynnu bod proses neu weithgaredd mewn busnes bwyd sy’n peri risg sylweddol i iechyd pobl yn cael ei atal ar unwaith, a hynny tan eu bod wedi cymryd camau penodol i leihau’r perygl hwnnw.’
Mae’r Asiantaeth hefyd yn nodi bod Rhaglen Cyflenwi Hylendid Bwyd wedi’i sefydlu i flaenoriaethu, llywio a mesur cynnydd rhaglen uchelgeisiol a chynhwysfawr i wella hylendid bwyd a mesurau gorfodi ledled y DU. Cafodd y rhaglen hon ei sefydlu i roi camau gweithredu ar waith mewn ymateb i’r argymhellion a wnaed yn sgil yr Ymchwiliad Cyhoeddus, a chaiff ei chadeirio gan Gyfarwyddwr Gweithrediadau’r ASB.

Am rannu hwn?