Cig wedi ei glonio yn ddiogel (yn ôl y ddamcaniaeth)
Friday 26 November 2010
Heddiw, yn ystod cyfarfod agored y Pwyllgor Cynghori ar Fwydydd a Phrosesau Newydd (ACNFP), bu’r pwyllgor yn ystyried cais damcaniaethol o dan y Rheoliadau Bwydydd Newydd i gymeradwyo cig a llaeth o wartheg wedi eu clonio a’u hepil.
Gofynnwyd i’r pwyllgor ystyried a yw’r dystiolaeth sydd ar gael ar anifeiliaid wedi’u clonio a’u hepil yn cyflwyno sail ddigonol er mwyn gwerthuso cig a llaeth o anifeiliaid o’r fath o dan y Rheoliadau Bwydydd Newydd.
Nododd y pwyllgor:
- nad oedd y dystiolaeth yn dangos unrhyw wahaniaeth cyfansoddiadol rhwng cig a llaeth anifeiliaid arferol, cig a llaeth anifeiliaid wedi’u clonio nac ychwaith gig a llaeth eu hepil ac felly nad yw’n debygol o gyflwyno unrhyw risg i ddiogelwch bwyd
- mae’r dystiolaeth sy’n bodoli ar hyn o bryd o ran cyfansoddiad cig a llaeth yn gymharol gyfyngedig ac mae angen rhagor o dystiolaeth ar sut y gall magu anifeiliaid dan wahanol amgylchiadau effeithio ar y cig a’r llaeth
- nid yw unrhyw wahaniaethau posibl rhwng gwartheg arferol ac epil anifail wedi’i glonio yn debygol o fodoli o’r ail genhedlaeth ymlaen
- efallai y bydd y cyhoedd am weld labelu clir ac effeithiol ar gynhyrchion sy’n deillio o anifeiliaid wedi eu clonio a’u hepil.
Wrth ymateb i drafodaeth y pwyllgor, meddai Andrew Wadge, Prif Wyddonydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB): “Wrth ystyried y cais damcaniaethol hwn, mae’r ACNFP wedi cadarnhau nad yw cig a llaeth sy’n tarddu o anifeiliaid wedi’u clonio a’u hepil yn dangos unrhyw wahaniaeth sylweddol i gig a llaeth a gynhyrchwyd yn y dull arferol ac felly nad yw’n debygol o gyflwyno risg i ddiogelwch bwyd.
Bydd Bwrdd yr ASB yn trafod y mater yn ystod ei gyfarfod fis Rhagfyr. Bydd y Bwrdd yn ystyried barn yr ACNFP, y cynnig diweddar gan y Comisiwn Ewropeaidd i wahardd cig a llaeth sy’n tarddu o anifeiliaid wedi eu clonio a’u hepil ac unrhyw ddatblygiadau eraill, cyn darparu rhagor o gyngor i Weinidogion.”

Am rannu hwn?