Cyfarfod Agored Pwyllgor Cynghori Ar Fwyd Cymru: 22 Gorffennaf 2010
Monday 28 June 2010
Os oes gennych ddiddordeb mewn bwyd a chynhyrchu bwyd yng Nghymru, fe'ch gwahoddir i gyfarfod agored Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru ar Faes Sioe Frenhinol Cymru ar ddydd Iau 22 Gorffennaf 2010.
Bydd pawb sy'n bresennol yn gallu rhannu eu safbwyntiau a chymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb.
Bydd y cyfarfod yn cynnwys trafodaeth ar thema Cynhyrchu Sylfaenol, gyda chyflwyniadau ar dwbercwlosis (TB) mewn gwartheg a hollti carcasau defaid i gael gwared ar linyn asgwrn y cefn fel deunydd risg penodedig (SRM). Bydd yr wybodaeth ddiweddaraf hefyd yn cael ei chyflwyno am gig defaid â’r croen ynghlwm, gwybodaeth am y gadwyn fwyd (FCI), codi taliadau hylendid am reolaethau hylendid cig swyddogol a phynciau perthnasol eraill.
Cynhelir y cyfarfod yn y Pafiliwn Lletygarwch, Maes y Sioe, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, LD2 3SY. Cewch gofrestru dros baned o 09:50am, a bydd y cyfarfod yn dechrau’n brydlon am 10:15am.
I gael rhagor o wybodaeth, mae croeso i chi ffonio 029 2067 8999 neu e-bostio WalesAdminTeam@foodstandards.gsi.gov.uk
Beth yw Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru?
Mae Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) yn darparu cyngor a gwybodaeth i’r Asiantaeth Safonau Bwyd ar ei waith yng Nghymru. Fel rhan o’i ymrwymiad i weithio mewn dull agored, mae’n cynnal cyfarfodydd agored yn rheolaidd ledled y wlad.

Am rannu hwn?