Cyhoeddi’r ymchwil ar y cynllun sgorio hylendid bwyd cenedlaethol
Monday 7 June 2010
Heddiw, mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cyhoeddi canlyniad ymchwil annibynnol ymhlith defnyddwyr ar sut i sicrhau bod y cynllun sgorio hylendid bwyd cenedlaethol (sy’n cael ei adnabod fel 'Scores on the Doors') yn hawdd i’w ddeall a’i ddefnyddio.
Gellir gweld yr adroddiad llawn, mewn Saesneg yn unig, drwy ddilyn y ddolen ar waelod y dudalen hon.
Mae’r cynllun cenedlaethol, a fydd yn dechrau cael ei roi ar waith yn yr hydref, yn fenter ar y cyd rhwng yr Asiantaeth ac awdurdodau lleol a bydd y cynllun yn darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr am safonau hylendid bwyd mewn bwytai, siopau, bariau a chaffis, er mwyn eu helpu i ddewis lle i brynu bwyd neu fwyta allan.
Meddai Sarah Appleby, Pennaeth Gorfodi’r ASB: ‘Mae’n anhygoel ein bod ni’n agosáu at gyflwyno cynllun sgorio hylendid bwyd cenedlaethol. Nid yn unig y bydd cyhoeddi sgoriau hylendid unigol ar gyfer caffis, siopau a bwytai yn rhoi gwybodaeth i ddefnyddwyr i’w helpu i ddewis y lle mwyaf diogel i brynu bwyd, ond hefyd, dros amser, bydd yn gwella safonau ac yn helpu i atal gwenwyn bwyd. Mae gwenwyn bwyd nid yn unig yn annymunol ond mae hefyd yn gallu bod yn beryglus. Amcangyfrifir ei fod yn costio tua £1.5 biliwn i’r economi bob blwyddyn.'
Mwy am yr ymchwil
Cynhaliwyd yr ymchwil er mwyn helpu’r Asiantaeth i benderfynu sut orau i gyflwyno’r cynllun i ddefnyddwyr, a hynny o ran ei enw a pha eiriau a symbolau y dylid eu defnyddio i ddisgrifio’r chwech gwahanol sgôr hylendid. Dyma brif ganfyddiadau’r ymchwil:
- Roedd hylendid bwyd yn bwysig i ddefnyddwyr a byddent yn croesawu cynllun cenedlaethol a fyddai’n cynnig eglurder a chysondeb.
- Roedd yn well gan ddefnyddwyr pe bai enw’r fenter yn disgrifio’n union beth y byddai yn ei wneud. Roedd yr enw ‘Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd’ yn boblogaidd.
- Roedd defnyddwyr yn hoffi’r sgoriau ar ffurf graddfa o rifau gyda disgrifiadau cysylltiedig megis ‘boddhaol’ neu ‘da iawn’.
Cefndir
Mae’r Asiantaeth yn sefydlu cynllun sgorio hylendid bwyd cenedlaethol ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon er mwyn sgorio safonau hylendid mewn sefydliadau busnes bwyd. Mae cynllun gwahanol yn cael ei weithredu yn yr Alban.
Yn sgil y cynllun hwn, bydd defnyddwyr yn gallu cymryd ‘cip sydyn’ ar wybodaeth am y safonau bwyd a nodwyd gan swyddogion awdurdodau lleol mewn sefydliadau bwyd wedi iddynt gynnal arolygiadau hylendid bwyd arferol. Prif nod y cynllun yw galluogi defnyddwyr i wneud dewisiadau gwybodus pan fyddant yn bwyta allan neu brynu bwyd a, thrwy hyn, annog busnesau i wella safonau hylendid.
Mae’r cynllun hwn yn seiliedig ar chwe sgôr gwahanol (weithiau’n cael eu galw’n ‘chwe haen’) sy’n adlewyrchu’r ystod o safonau posibl. Mae’r sgôr uchaf yn gyfystyr â chydymffurfiaeth â gofynion deddfwriaeth hylendid bwyd. Mae’r cynllun sy’n cael ei weithredu yn yr Alban yn seiliedig ar system dwy haen, sef ‘Pasio’ a ‘Gwelliant yn Ofynnol’.
Y bwriad gyda chynllun cenedlaethol yw cynnig eglurder i ddefnyddwyr a chysondeb i fusnesau.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y ddolen isod.

Am rannu hwn?