Cerdyn Coch i'r Bygiau Bwyd yr Haf Hwn!
Tuesday 8 June 2010
Mae'r Wythnos Diogelwch Bwyd yn dechrau heddiw, a chyda llawer o bobl yn debygol o fwynhau barbeciw neu fwyta y tu allan wrth i gystadleuaeth Cwpan y Byd ddechrau'r penwythnos hwn, mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn atgoffa pawb y gall bygiau bwyd fod yn fwy poenus na phenaltis!
Mae hylendid bwyd da yn bwysicach nag arfer dros yr ychydig fisoedd nesaf meddai arbenigwyr diogelwch bwyd yr Asiantaeth. Pob blwyddyn mae lefelau gwenwyn bwyd yn cynyddu'n aruthrol dros yr haf. Gall germau dyfu'n gyflymach os yw bwyd yn cael ei adael allan yn y gwres cynnes, tra bo bwyta bwyd oddi ar farbeciw neu o bicnic yn gallu peri risgiau ychwanegol fel croeshalogi rhwng bwyd amrwd a bwyd sydd wedi'i goginio. Gyda'i gilydd, mae'r pethau hyn yn arwain at oddeutu 120,000 o achosion ychwanegol o wenwyn bwyd dros y DU o fis Mehefin i fis Awst; digon o bobl o lenwi ambell i stadiwm Cwpan y Byd ddwywaith drosodd!
Mae'r byg bwyd Campylobacter, sy'n aml yn bresennol ar gyw iâr amrwd, yn peri pryder penodol. Dangosodd arolwg diweddar gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd fod dwy ran o dair o'r cyw iâr amrwd a brynir mewn siopau yn cynnwys peth Campylobacter. Dyma'r math mwyaf cyffredin o wenwyn bwyd yn y DU, ac mae'n gwneud fwy na 320,000 o bobl yn sâl bob blwyddyn.
Meddai Rob Wilkins o'r Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru:
“Mae pob un ohonom yn gobeithio mwynhau'r haf a chystadleuaeth Cwpan y Byd, ond waeth pa mor dda y mae'ch tîm yn ei wneud ar y cae, gall gwenwyn bwyd roi blas cas ar yr hwyl.
“Yn ystod yr haf, mae bygiau bwyd yn peri lot fwy o berygl. Mae'r tywydd cynnes yn golygu bod yn rhaid i ni fod yn fwy gofalus nad ydym ni'n gadael bwyd y tu allan i'r oergell am rhy hir a'i adael i fynd yn gynnes; mewn tymheredd cynhesach, gall y bygiau hyn dyfu ar gyfradd gyflymach, gan eich peryglu chi a'ch teulu. Mae bwyta bwyd oddi ar farbeciw neu mewn picnic hefyd yn gallu golygu ein bod ni mewn perygl o fwyta bwyd nad yw wedi'i goginio ddigon neu fygiau bwyd sy'n lledaenu o fwyd amrwd i fwyd wedi'i goginio.
"Rydym wedi nodi croeshalogi fel un o'r prif risgiau o ran paratoi a gweini bwyd yn ddiogel. Os oes bygiau megis Campylobacter ar fwyd, gallant ledaenu'n hawdd o gwmpas y gegin neu ar offer cegin neu fwydydd eraill.
“Fodd bynnag, gall pobl leihau'r perygl hwn drwy sicrhau eu bod yn golchi eu dwylo yn syth ar ôl cyffwrdd â chig amrwd a chyn trin bwyd sy'n barod i'w fwyta. Hefyd, mae angen golchi arwynebau gwaith ac offer cegin yn syth bin. Cofiwch gadw cig a physgod amrwd ar wahân i fwyd sy'n barod i'w fwyta, gan na fydd y bwyd hwn yn cael ei goginio cyn ei fwyta, felly ni fydd unrhyw facteria a fydd yn trosglwyddo arnynt yn cael eu lladd.”
Mae gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd gyngor defnyddiol iawn ar ddiogelwch bwyd ar gyfer y rhai sy'n bwriadu cael barbeciw yr haf hwn:
- Cofiwch sicrhau bod cyw iâr, porc, byrgyrs, selsig a chebabs wedi'u coginio tan eu bod yn chwilboeth drwyddynt, nad oes dim o'r cig yn binc a bod unrhyw suddion yn rhedeg yn glir.
- Sicrhewch fod y siarcol yn gloywi'n goch, a bod ei arwyneb yn ymddangos fel powdwr llwyd, cyn dechrau coginio. Fel arall, mae'n bosibl y byddwch yn llosgi'r tu allan i'r cig tra bo'r tu mewn dal heb ei goginio.
- Os ydych chi'n coginio llawer o gig ar y barbeciw, gellir ei goginio yn y popty/ffwrn yn gyntaf ac yna'i orffen ar y barbeciw er mwyn ychwanegu blas.
- Golchwch eich dwylo yn rheolaidd yn arbennig ar ôl trin cig amrwd.
- Pan fyddwch yn ail-gynhesu bwyd ar y barbeciw, cofiwch sicrhau ei fod yn stemio drwyddo cyn ei weini.
- Peidiwch ag ychwanegu saws neu farinâd at fwyd sydd wedi'i goginio os ydych eisoes wedi'i ddefnyddio ar gyfer cig amrwd.
I gael rhagor o wybodaeth am atal gwenwyn bwyd, ewch i: www.eatwell.gov.uk/keepingfoodsafe - Cofiwch glicio ar ' Cymraeg'.

Am rannu hwn?