Bydd hylendid da yn hwb i’th fusnes
Monday 25 January 2010
Heddiw, mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn lansio ymgyrch ledled y DU gyfan, i godi ymwybyddiaeth ymhlith busnesau bwyd am yr adnoddau sydd ar gael gan yr Asiantaeth i helpu busnesau i gydymffurfio â chyfraith hylendid bwyd.
Mae’r adnoddau o dan sylw yn cynnwys Bwyd mwy diogel, busnes gwell (pecynnau i’w defnyddio yng Nghymru a Lloegr), CookSafe a RetailSafe (i’w defnyddio yn yr Alban), a Safe Catering (i’w ddefnyddio yng Ngogledd Iwerddon). Mae’r adnoddau hyn yn cynnig dulliau arloesol ac ymarferol o reoli diogelwch bwyd.
Mae’r ymgyrch yn cynnwys posteri, sydd ar gael drwy’r dolenni isod, hysbysebion radio, ac ymdrechion hyrwyddo ar-lein. Rhwng heddiw a dydd Llun 1 Mawrth 2010, bydd yr ymgyrch yn targedu busnesau arlwyo sy’n cyflenwi bwyd yn uniongyrchol i ddefnyddwyr – megis bwytai, siopau tecawê a chaffis.
Meddai Rob Wilkins o Dîm Gorfodi Cyffredinol Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru: ‘Diben yr ymgyrch hon yw helpu i gefnogi’r gwaith pwysig y mae awdurdodau lleol yn ei wneud i sicrhau bod busnesau bwyd yn cydymffurfio â chyfraith bwyd. Mae hefyd yn rhoi cyfle i fusnesau gael sgôr uwch pan fydd cynllun cenedlaethol ‘Scores on the Doors’ yn cael ei gyflwyno yn ddiweddarach eleni yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon a phan fydd y Cynllun Gwybodaeth am Hylendid Bwyd yn cael ei gyflwyno yn yr Alban.
Cael gafael ar adnoddau
Mae’r adnoddau hylendid a fydd yn cael eu hyrwyddo fel rhan o’r ymgyrch hon ar gael ar-lein yn food.gov.uk/goodbusiness - cliciwch ar y ddolen Gymraeg. Gellir archebu Bwyd mwy diogel, busnes gwell, Safe Catering a fideo hyfforddi ‘Bacteria Bite Business’ drwy ffonio tŷ postio’r Asiantaeth ar 0845 606 0667. Gellir prynu ‘CookSafe’ (ISBN 978 011 702140 2) a ‘RetailSafe’ (ISBN 978 011 702145 7) o safleoedd manwerthu y Llyfrfa (TSO), drwy wefan TSO neu drwy linell werthu TSO ar 0870 600 5522.
Sut i archebu posteri’r ymgyrch
Gall unrhyw awdurdodau lleol sydd am gymryd rhan yn yr ymgyrch hon archebu, yn rhad ac am ddim, poster o faint A3 gan dŷ postio’r Asiantaeth, gan ddyfynnu’r cod stoc perthnasol:
Posteri Dwyieithog:
- FSA/1519/0110 – Ymgyrch busnesau: Poster siop frechdanau
- FSA/1520/0110 – Ymgyrch busnesau: Poster siop sgod a sglod
Beth yw cynllun Scores on the Doors a’r cynllun cyfatebol yn yr Alban?
Bydd Scores on the doors yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon a’r cynllun cyfatebol yn yr Alban, yn darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr am safonau hylendid mewn busnesau bwyd, yn seiliedig ar ba lefel y maent yn cydymffurfio â deddfwriaeth hylendid bwyd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy’r ddolen ar waelod y dudalen hon.

Share this with: