Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn Newid
Wednesday 21 July 2010
Ar 20 Gorffennaf 2010, cyhoeddodd y Llywodraeth ei bwriad i gadw’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fel corff a fydd yn canolbwyntio o’r newydd ar ddiogelwch bwyd.
Bydd yr Adran Iechyd yn Lloegr (DoH) yn dod yn gyfrifol am bolisi maeth yn Lloegr ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) yn dod yn gyfrifol am labelu gwlad tarddiad ac amrywiol fathau o waith labelu bwyd nad yw’n ymwneud â diogelwch bwyd a pholisïau cyfansoddiad bwyd yn Lloegr.
Mae copïau ysgrifenedig o Ddatganiad y Prif Weinidog ynghyd â datganiad i’r wasg gan yr Adran Iechyd ar gael drwy’r dolenni isod.
Meddai'r Arglwydd Rooker, Cadeirydd yr ASB: ‘Mae hylendid a diogelwch bwyd wastad wedi bod wrth galon yr hyn a wna’r Asiantaeth. Dyma ein prif flaenoriaethau wrth ddiogelu buddiannau defnyddwyr.’

Am rannu hwn?