Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru yn cyhoeddi crynodeb o’r adroddiadau archwilio
Friday 16 July 2010
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru wedi cyhoeddi adroddiad sy’n crynhoi’r rhaglen o archwiliadau a gynhaliwyd rhwng mis Medi a mis Mawrth 2010.
Aeth yr Asiantaeth ati i archwilio gwasanaethau gorfodi deddfwriaeth bwyd deg o awdurdodau lleol yng Nghymru. Cynhaliwyd yr archwiliadau fel rhan o waith yr Asiantaeth i gynnal a gwella diogelwch a hyder defnyddwyr.
Mae’r adroddiad hwn, sy’n rhestru’r prif ganfyddiadau ac argymhellion, ar gael ar wefan yr Asiantaeth drwy'r ddolen isod.
Meddai Steve Wearne, Cyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru: ‘Mae gan yr Asiantaeth rôl allweddol i’w chwarae o ran goruchwylio gwaith awdurdodau lleol. Mae dyletswydd ar fusnesau bwyd i sicrhau bod y bwyd y maent yn ei werthu yn ddiogel, a swyddogion gorfodi yw’r rheng flaen yn yr ymdrech i ddiogelu’r cyhoedd. Ein dyletswydd ni yn yr Asiantaeth, mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, yw gosod y safon ar gyfer y gwaith pwysig hwn i ddiogelu’r cyhoedd ac mae’r rhaglen archwilio hon yn dangos a ydym wedi cyrraedd y safon hon ai peidio.'
Wrth gloi, dywedodd: 'Mae’r rhaglen hon wedi ein helpu i ddeall yn well sut y mae awdurdodau lleol yn gweithredu ledled Cymru, ac wedi ein galluogi i dynnu sylw at arferion da a’u rhannu gydag awdurdodau lleol. Bydd y crynodeb yn galluogi’r Asiantaeth i nodi unrhyw feysydd sy’n peri pryder a gweithredu arnynt, ac mae’n rhoi i ni wybodaeth bwysig am p’un a oes digon o adnoddau yn cael eu neilltuo er mwyn cynnal y gwaith pwysig hwn.'

Am rannu hwn?