Y diweddaraf am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd
Monday 23 August 2010
Yr wythnos hon, mae’r Asiantaeth wedi ysgrifennu at awdurdodau lleol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon am lansio’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB) yn lleol, brandio’r cynllun a datblygiadau eraill.
Bydd y CSHB yn helpu defnyddwyr i ddewis ble i fwyta allan neu siopa am fwyd drwy ddarparu gwybodaeth am y safonau hylendid mewn bwytai, tafarndai, caffis, siopau tecawê, gwestai, archfarchnadoedd a lleoedd eraill y maent yn bwyta allan a phrynu bwyd.
Lansio’n lleol yr hydref hwn
‘Rydym ni’n hynod falch o weld brwdfrydedd y rhai a fabwysiadodd y cynllun yn gynnar am roi’r cynllun ar waith ac rydym yn rhannu eu hymrwymiad i sicrhau y bydd yn llwyddiant’
Mae disgwyl y bydd y cynlluniau yn cael eu lansio yn lleol yn yr hydref. Mae pob un o’r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru yn bwriadu gweithredu’r cynllun o 1 Hydref. Yn Lloegr, mae’r rhai a fabwysiadodd y cynllun yn gynnar yn bwriadu lansio’r cynllun yn rhanbarthau’r De-orllewin, y Dwyrain a’r De-ddwyrain.
Meddai Catriona Stewart, pennaeth y Tîm Sgorio Hylendid Bwyd ‘Mae’n gyfnod cyffrous i’r cynllun gan fod pethau’n dechrau’n symud yn gyflym. Rydym ni’n hynod falch o weld brwdfrydedd y rhai a fabwysiadodd y cynllun yn gynnar wrth roi’r cynllun ar waith ac rydym yn rhannu eu hymrwymiad i sicrhau y bydd yn llwyddiant. Rydym yn hapus iawn gydag edrychiad a theimlad y brandio newydd gan ei fod yn ei gwneud yn hawdd i ddefnyddwyr gymryd cip sydyn ar beth yw sgôr hylendid y sefydliad.’
Cytuno ar enw a brandio’r cynllun
Yn unol â chanfyddiadau ymchwil annibynnol gyda defnyddwyr, teitl swyddogol y cynllun cenedlaethol yw’r ‘Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd’ a bydd sgoriau yn cael eu harddangos ar raddfa syml o rifau. Bydd y dyluniadau brandio newydd sbon sy’n cael eu cyhoeddi heddiw yn ei gwneud yn hawdd i ddefnyddwyr ddeall a defnyddio’r sgoriau hylendid bwyd.
Chwilio am sgoriau hylendid ar-lein
Mae’r Asiantaeth hefyd wedi cyhoeddi bod y system TG – gan gynnwys y teclyn chwilio ar-lein i ddefnyddwyr a’r system lanlwytho data ar gyfer awdurdodau lleol – yn cael ei brofi ar hyn o bryd. Bydd y teclyn chwilio yn galluogi defnyddwyr i chwilio am sgoriau hylendid busnesau mewn ardaloedd lle mae’r cynllun ar waith.
Mae disgwyl i’r systemau, a fydd yn cael eu profi gan ddefnyddwyr ac awdurdodau lleol, fod yn fyw erbyn canol mis Medi.
Rhagor o wybodaeth
Mae’r llythyr llawn i ddiweddaru awdurdodau lleol a’r brandio CSHB ar gael drwy’r dolenni isod.

Am rannu hwn?