Cyhoeddi adroddiad yn dilyn Ymchwiliad Cyhoeddus E.coli
Thursday 19 March 2009
Mae adroddiad yr Ymchwiliad Cyhoeddus E.coli, a sefydlwyd i ymchwilio i’r achos E.coli 0157 yng Nghymru yn 2005, wedi’i gyhoeddi heddiw.
Hwn oedd yr achos mwyaf erioed o E.coli O157 yng Nghymru, a'r ail achos fwyaf ym Mhrydain. Effeithiodd ar dros 150 o bobl, y rhan fwyaf ohonynt yn blant mewn 44 o ysgolion ar draws pedwar awdurdod lleol. Cafodd tri deg un o bobl driniaeth ysbyty a bu farw bachgen bach pum mlwydd oed.
Mewn datganiad heddiw, meddai’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB): ‘Mae adroddiad yr Ymchwiliad Cyhoeddus yn ddogfen gynhwysfawr a bydd yr Asiantaeth yn mynd ati i’w hadolygu’n fanwl. Bydd y mater hwn yn cael ei drafod ymhellach yng nghyfarfod agored Bwrdd yr ASB fis Ebrill.’
Sefydlodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yr Ymchwiliad Cyhoeddus i ymchwilio i’r hyn a achosodd y digwyddiad. Dyma oedd ei gylch gorchwyl: ‘Cynnal ymchwiliad i’r amgylchiadau a arweiniodd at yr Achos E.coli 0157 yn ne Cymru ym mis Medi 2005 ac i’r ffordd yr ymdriniwyd â’r Achos; ac ystyried y goblygiadau ar gyfer y dyfodol a gwneud argymhellion yn unol â hynny.’
Yn y datganiad, ychwanega’r Asiantaeth: ‘Iechyd y cyhoedd yw prif flaenoriaeth yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a’r Gwasanaeth Hylendid Cig (MHS). Sefydlwyd yr ASB yn y flwyddyn 2000 i ddiogelu defnyddwyr ac rydym yn croesawu unrhyw gamau a gyflwynir i’n cynorthwyo gyda’r nod hwn. Ers 2000, mae nifer yr achosion o salwch a gludir gan fwyd wedi gostwng o bron i 20%. Mae ymrwymiad yr ASB i’r gwaith hwn yn parhau.
‘Roedd yr achos E.coli a fu yng Nghymru yn 2005 yn ddigwyddiad difrifol ond anarferol, ac mae adroddiad yr Ymchwiliad Cyhoeddus yn werthfawr wrth ein galluogi i ddeall y gyfres o ddigwyddiadau a arweiniodd at yr achosion o E.coli a gafwyd.
‘Mae gan bawb sy'n ymwneud â chynhyrchu a dosbarthu bwyd ran i’w chwarae wrth sicrhau bod bwyd yn ddiogel – o’r cynhyrchwyr bwyd i bobl yn eu cartrefi eu hunain. Pan fydd achosion prin fel yr un dan sylw yn digwydd, rhaid i ni fynd ati i ddysgu gwersi ac atgyfnerthu ein systemau ymhellach.’
Mae’r adroddiad llawn, yn ogystal â chrynodeb gweithredol yr ymchwiliad, ar gael ar wefan yr ymchwiliad drwy’r ddolen isod.
Dolenni perthnasol
Crynodeb Gweithredol yr Ymchwiliad Cyhoeddus E.coli
Crynodeb - Yr Ymchwiliad Cyhoeddus i’r Achosion o E.coli O157 yn Ne Cymru ym mis Medi 2005
Datganiad gan yr Athro Hugh Pennington, Cadeirydd yr Ymchwiliad Cyhoeddus E.coli
Datganiad y Cadeirydd
Adroddiad yr Ymchwiliad Cyhoeddus E.coli
Darllenwch yr adroddiad llawn
Prif Swyddog Meddygol yn cyhoeddi adroddiad
Darllenwch adroddiad Prif Swyddog Meddygol Cymru, 2006
Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru yn gweithredu ar ôl clywed am ffynhonnell bosibl yr achos E.coli:
Darllenwch ddatganiad i’r wasg yr Asiantaeth, Medi 2005 – Saesneg yn unig
Mwy am E.coli
I gael rhagor o wybodaeth am E.coli, ewch i wefan ‘eatwell’, a chofiwch glicio ar ‘Cymraeg’

Share this with: