Gofyniad newydd mewn cysylltiad â gwybodaeth am y gadwyn fwyd o ran lloi
Thursday 8 January 2009
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cyhoeddi bod rheoliadau newydd ar waith sy’n ei gwneud yn ofynnol i ladd-dai geisio gwybodaeth am loi a ddaw yno i gael eu lladd.
Mae’r gofyniad cyfreithiol newydd ar gyfer Gwybodaeth am y Gadwyn Fwyd (FCI) yn berthnasol i loi, y’u diffinnir fel anifeiliaid sy’n iau nag wyth mis oed. Mae FCI yn cynnwys gwybodaeth am y fferm lle bu’r lloi yn cael eu cadw, hanes eu magwraeth a’u hiechyd, gan gynnwys manylion unrhyw feddyginiaethau a gawsant.
Bydd y cyfrifoldeb dros geisio FCI yn aros gyda gweithredwyr y lladd-dai. Mae’r ASB wedi gweithio’n agos gyda hwy a chyda rhanddeiliaid eraill i ddatblygu canllawiau, sydd ar gael drwy gyfrwng y ddolen isod, ac er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn ymwybodol o’r gofynion newydd o ran lloi, a ddaeth i rym ar 1 Ionawr 2009. Mae hyn yn dilyn proses debyg a ddaeth i rym ddechrau 2008 lle daeth yn ofynnol i weithredwyr ddarparu FCI o ran moch.
Meddai Kenneth Clarke, Cynghorydd Milfeddygol yr ASB: ‘Mae gwybodaeth am y gadwyn fwyd yn rhan hollbwysig o’n gwaith gyda diogelwch bwyd drwy feddwl am y broses gyfan o’r fferm i’r fforc a gall gyfrannu at systemau arolygu seiliedig ar risg mewn lladd-dai. Rydym yn awyddus i annog gweithredwyr lladd-dai i ddefnyddio’r canllawiau yr ydym wedi’u cyhoeddi i ddatblygu systemau FCI sy’n gweddu orau i’w busnesau hwy. Mae gennym gryn dipyn o waith i’w wneud er mwyn rhoi FCI ar waith gyda gwartheg a defaid erbyn 2010, a byddwn yn parhau i weithio gyda’r diwydiant i geisio atebion ymarferol a defnyddiol.’
Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy glicio ar y ddolen hon: www.food.gov.uk (Saesneg yn unig).

Share this with: