Arolwg yn dangos bod halen yn destun dryswch
Monday 5 October 2009
Mae arolwg newydd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn datgelu nad yw tri chwarter o bobl Cymru (71%) yn ymwybodol bod bara a grawnfwydydd brecwast ymhlith y bwydydd sy’n cyfrannu’r mwyaf o halen at ein deiet. Mae’r arolwg hwn yn cael ei gyhoeddi i nodi’r cam diweddaraf yn ymgyrch yr Asiantaeth i leihau’r halen yn ein deiet.
Mae ymgyrch hysbysebu newydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd, sy’n cael ei lansio heddiw, yn annog pobl i dalu mwy o sylw i faint o halen sydd yn y bwyd y maent yn ei brynu. Mae’r ymgyrch yn cynnwys bwydydd sy’n cyfrannu llawer iawn o halen i ddeiet oedolion a phlant yn y DU. Mae lefel yr halen yn y bwydydd hyn yn amrywio o un brand i’r llall, felly mae’r ymgyrch yn annog pobl i leihau’r halen yn eu deiet drwy ddarllen labeli bwyd a dewis y cynhyrchion sydd isaf mewn halen. Gall gormod o halen arwain at bwysedd gwaed uchel, sy’n treblu’r perygl o ddatblygu clefyd y galon a strôc, ac yn dyblu’r perygl o farw o’r clefydau hyn.
Meddai Dr Sarah Rowles, Pennaeth Iechyd Deietegol Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru: “Mae pobl yn bwyta llai o halen erbyn hyn, ond os ydym ni am gyrraedd ein nod o leihau’r halen y mae pobl yn ei fwyta i 6g y dydd ar gyfer oedolion a llai fyth ar gyfer plant, mae angen i bobl fod yn fwy ymwybodol o’r bwyd sy’n cyfrannu'r mwyaf o halen at eu deiet, a bod gofyn i ni gadw llygad barcud ar bopeth - nid y bwydydd amlwg yn unig.
“Nid ydym ni’n awgrymu bod pobl yn rhoi’r gorau neu hyd yn oed bwyta llai o fara neu rawnfwydydd brecwast, gan eu bod yn rhan bwysig o ddeiet iach. Ond y neges yr ydym ni’n gwneud ein gorau glas i’w phwysleisio yw bod angen i bobl ddarllen y labeli a dewis y cynnyrch sydd isaf mewn halen. Gall hyn fod yn gynnyrch yr archfarchnad ei hun, a hyd yn oed yn un o’r cynhyrchion rhatach (cynhyrchion ‘value’). Os felly, mae arbed arian yn fantais arall.
“Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda gweithgynhyrchwyr a manwerthwyr bwyd i’w hannog i ddefnyddio llai o halen yn eu bwyd, ac rydym yn hapus iawn â’r cynnydd sy’n cael ei wneud. Ond mae’r halen sydd mewn gwahanol frandiau yn amrywio’n helaeth, a dyma pam ei bod hi’n bwysig bod pobl yn darllen y labeli.
Mwy am yr arolwg
Cwestiynwyd 174 o bobl yng Nghymru am eu hagweddau tuag at halen. Pan ofynnwyd iddynt enwi’r tri phrif fwyd o blith rhestr o’r 10 o fwydydd sy’n cyfrannu’r mwyaf o halen at ein deiet, dim ond 21% o bobl a ddewisodd bara, a dim ond 14% a ddywedodd grawnfwydydd brecwast!
Daeth i’r amlwg yn yr arolwg hefyd bod llawer o bobl (36%) o’r farn bod bwydydd rhatach yr archfarchnadoedd eu hunain yn cynnwys mwy o halen na mathau eraill. Food bynnag, nid yw hyn o reidrwydd yn wir, ac weithiau mae’r bara rhataf yn gallu cynnwys llai o halen. At hynny, mae fersiynau'r archfarchnad o rai bwydydd, gan gynnwys bara, yn aml yn cynnwys llai o halen na’r bwydydd brand.
Mae pwyntiau eraill a godwyd yn cynnwys:
- Pan ofynnwyd i bobl ddewis tri bwyd o blith rhestr o’r 10 o fwydydd sy’n cyfrannu’r mwyaf o halen at y deiet, y bwydydd a gafodd eu crybwyll fwyaf aml oedd creision a byrbrydau (68%), prydau parod (57%) a chynhyrchion cig (35%), ond mewn gwirionedd, dim ond cynhyrchion cig sy’n un o’r tri.
- Mae 85% o bobl yn dueddol o gadw at yr un brandiau o fwyd y maent yn eu prynu yn rheolaidd, megis bara, sos coch a grawnfwydydd brecwast. Fodd bynnag, dywedodd dros chwarter y bobl hyn (21%) y byddent yn dewis brand gwahanol pe baent yn gwybod bod opsiwn â llai o halen ar gael.
- Roedd 36% o’r rhai a ymatebodd yn ‘bryderus iawn’ neu’n ‘eithaf pryderus’ am lefel yr halen y maent yn ei fwyta.
Cefndir
Mae tua 75% o’r halen yr ydym yn ei fwyta yn cuddio mewn bwydydd bob dydd. Nid y bwydydd mwyaf hallt bob amser yw’r bwydydd hynny sy’n cyfrannu’r mwyaf o halen i’n deiet, ond y bwydydd yr ydym ni’n eu bwyta fwyaf aml. A’r tri dihiryn pennaf? Bara, yna cynhyrchion cig, ac yn olaf, grawnfwydydd brecwast.
Yn y DU rydym yn bwyta 8.6g o halen bob dydd ar gyfartaledd, sydd, er yn llawer uwch na’r 6g a argymhellir, bron i gram yn llai nag oeddem ni'n ei fwyta cyn i’r Asiantaeth lansio ei rhaglen lleihau halen yn 2004. Gyda’r rhan fwyaf o’r halen yr ydym yn ei fwyta yn cuddio mewn bwydydd bob dydd, mae angen i bobl fod yn fwy ymwybodol o ble y daw'r halen yn eu deiet, a'i bod hi’n bosibl ei leihau drwy ddarllen yr wybodaeth am halen ar labeli bwyd, cymharu cynhyrchion a dewis y rhai sydd â’r lleiaf o halen - mae’n syml.
Gwyddoniaeth gefndirol…
Mae cyngor yr Asiantaeth i oedolion a phlant ar fwyta halen yn seiliedig ar wyddoniaeth gadarn, a ategir gan argymhellion y Pwyllgor Cynghori Gwyddonol ar Faeth (SACN) a gynhaliodd asesiad risg trylwyr a chynhwysfawr o halen a’i effeithiau cysylltiedig ar iechyd.
Disgrifir y dystiolaeth rymus dros y cysylltiad rhwng halen a phwysedd gwaed yn fanylach yn adroddiad SACN, Salt and Health (2003) (Saesneg yn unig). Aeth SACN ati i nodi a gwerthuso’r dystiolaeth a oedd yn berthnasol i’r cysylltiad rhwng bwyta halen ac effeithiau ar iechyd, a hynny drwy astudio amrywiaeth eang o dystiolaeth wyddonol gyhoeddedig (tua 200 o astudiaethau) a oedd ar gael o ganlyniad i’r gwaith a gynhaliwyd gan y Pwyllgor ar Agweddau Meddygol ar Bolisi Bwyd a Maeth (COMA) ddechrau’r 90au, a’r argymhellion a wnaed bryd hynny i leihau’r halen y mae pobl yn ei fwyta i 6g y dydd.
Daeth SACN i’r casgliad bod y dystiolaeth dros y cysylltiad rhwng halen a phwysedd gwaed wedi cynyddu ers 1994. Mae’r lefelau uchel o halen sy’n cael eu bwyta’n gyson gan y boblogaeth yn cynyddu’r risg o ddatblygu pwysedd gwaed uchel yn sylweddol, sy’n cynyddu’r perygl o ddatblygu strôc a marw cyn eich amser o glefyd cardiofasgwlaidd. Cadarnhaodd SACN y byddai’r boblogaeth gyfan yn elwa ar leihau’r halen yn eu deiet i uchafswm o 6g y dydd, a lefelau is ar gyfer babanod a phlant. Cefnogir y targed 6g gan nifer o gyrff meddygol ac ymchwil gan gynnwys Cymdeithas Feddygol Prydain a’r Cyngor Ymchwil Feddygol.
Rhagor o wybodaeth
Cofiwch fod rhagor o wybodaeth ar gael ar ein gwefan bwyta'n iach eatwell.gov.uk - cofiwch glicio ar 'Cymraeg'!
I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch hon, y strategaeth farchnata a'r adnoddau cysylltiedig, cysylltwch ag Uned Iaith Gymraeg yr Asiantaeth drwy ffonio 029 2067 8970 neu e-bostio welsh.translation@foodstandards.gsi.gov.uk

Share this with: