Cadeirydd Newydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd
Thursday 16 July 2009
Yr wythnos hon, mae’r Asiantaeth Safonau bwyd yn croesawu penodiad yr Arglwydd Rooker fel ei Chadeirydd newydd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd.
‘Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gael ymuno â’r Asiantaeth, sy’n seilio ei gwaith ar wyddoniaeth gadarn gan roi’r defnyddiwr yn gyntaf.’
Mae Lord Rooker, cyn Weinidog yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra), yn cymryd lle’r cyn-gadeirydd, y Fonesig Deirdre Hutton, a bydd yn ymgymryd â’i ddyletswyddau newydd ar 27 Gorffennaf.
Mae Tim Smith, Prif Weithredwr yr ASB, yn croesawu’r cyhoeddiad: 'Mae’n newyddion gwych fod yr Arglwydd Rooker yn ymuno â ni yn y swydd hon ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gael cyd-weithio ag ef. Mae ei brofiad gwleidyddol a’i ddealltwriaeth o faterion bwyd yn ei wneud yn ddewis gwych ar gyfer y swydd heriol hon. Mae’n meddu ar gyfoeth o arbenigedd a fydd yn ein helpu i barhau â’r gwaith da a wnaed gan y Fonesig Deirdre ar ran defnyddwyr er mwyn cyflawni ein hamcan o sicrhau ‘bwyd diogel a bwyta’n iach i bawb’.'
Wrth ymateb i’w benodiad, meddai’r Arglwydd Rooker: 'Rwy’n falch iawn o gael cynnig y swydd hon yn arbennig gan fy mod i wedi bod yn rhan o’r broses o sefydlu’r Asiantaeth ddiwedd y nawdegau pan oeddwn i’n Weinidog yn y Weinyddiaeth Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (MAFF). Mae hi’n hanfodol fod gennym adran annibynnol heb weinidog sy’n gyfrifol am ddiogelwch bwyd, a bod yr adran honno yn agored ac yn dryloyw. Mae fy rôl newydd yn un cyffrous iawn ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gael ymuno â’r Asiantaeth, sy’n seilio ei gwaith ar wyddoniaeth gadarn gan roi’r defnyddiwr yn gyntaf.'

Share this with: