Bwyd-ysawd – gwers gwerth chweil!
Monday 17 August 2009
Mae’r Asiantaeth wedi cyhoeddi pecyn newydd o adnoddau i alluogi pobl ifanc i ddysgu sgiliau a gwybodaeth hanfodol am fwyd.
‘Bwyd-ysawd: dewch ar daith’
Mae 'Bwyd-ysawd: dewch ar daith’ yn becyn o lyfrau gwaith lliwgar sy’n addas ar gyfer oedrannau penodol. Cafodd y pecyn ei ddylunio a’i ddatblygu i ddod â chymwyseddau bwyd yr Asiantaeth yn fyw! Caiff y deunyddiau eu hategu gan nodiadau i athrawon a thystysgrifau y gellir eu lawrlwytho, i’w cyflwyno i’r disgyblion ar ôl iddynt gwblhau’r gweithgareddau amrywiol.
Mae’r adnoddau ar gyfer ysgolion cynradd yn helpu plant i ddysgu am ddeiet iach a chytbwys, bod yn ddiogel yn y gegin, datblygu a defnyddio sgiliau coginio sylfaenol, megis plicio, sleisio a chymysgu, yn ogystal â dysgu plant am labelu bwyd ac o ble y daw eu bwyd.
Mae’r llyfrau gwaith ar gyfer ysgolion uwchradd yn cynnwys gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc sy’n edrych ar ‘8 awgrym bwyta’n iach’ yr Asiantaeth, cynnal pwysau iach, atal croeshalogi, deall cyfarwyddiadau storio ar labeli bwyd, ffactorau sy’n dylanwadu ar ein dewisiadau bwyd (gan gynnwys dylanwad hysbysebion) a sut i wneud ryseitiau yn iachach wrth goginio.
Datblygwyd adnoddau Bwyd-ysawd ar y cyd â Sefydliad Maetheg Prydain a chawsant eu llywio gan y bobl ifanc eu hunain, ynghyd â’u hathrawon.

Share this with: