Cyngor yr Asiantaeth ar Baratoi Bocs Bwyd i’ch Plentyn…
Tuesday 18 August 2009
Yn dilyn adroddiadau yn y wasg heddiw na ddylech gynnwys brechdanau ham ym mhecyn bwyd eich plentyn, mae’r Asiantaeth wedi cynnig cyngor clir i dawelu meddwl pob rhiant.
Er bod peth tystiolaeth yn cysylltu canser y coluddyn â chig coch a chig wedi’i brosesu, nid oes tystiolaeth yn dangos bod bwyta brechdan ham o dro i dro yn cynyddu’r perygl hwn.
P'un a yw’ch plentyn yn cael cinio ysgol neu’n bwyta bocs bwyd, mae’n bwysig ceisio dewis amrywiaeth o fwyd fel rhan o ddeiet cytbwys ac i fod yn ofalus gyda bwyd sy’n uchel mewn braster, braster dirlawn, siwgr a halen.
Mae cigoedd sydd wedi’u prosesu, megis ham a salami, yn iawn fel rhan o ddeiet cytbwys a ni ddylai rhieni boeni am eu cynnwys ym mhecyn bwyd eu plentyn o bryd i'w gilydd. Fodd bynnag, gall cigoedd wedi’u prosesu gynnwys lefelau uchel o fraster, yn arbennig braster dirlawn, a halen, felly nid ydym yn eich cynghori i’w bwyta yn rhy aml. Dylai rhieni geisio cynnwys amrywiaeth o bethau mewn brechdan, gan gynnwys cyw iâr a physgod.
Mae cig yn ffynhonnell wych o haearn, sinc, fitaminau B a phrotein ond, gan ei fod yn cynnwys llawer o fraster dirlawn, dylid ei fwyta fel rhan o ddeiet cytbwys.
Mae rhagor o wybodaeth am baratoi bocs bwyd blasus ac iach i’w chael ar ein gwefan bwyta’n iach drwy glicio yma.
A beth am gymryd cip ar ein plât bwyta’n iach i gael y cydbwysedd cywir yn eich deiet?

Share this with: