Cyhoeddi canllawiau ar labelu ‘gwlad tarddiad’
Monday 10 November 2008
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cyhoeddi canllawiau diwygiedig ar gyfer y diwydiant ac awdurdodau gorfodi ar labelu ‘gwlad tarddiad’, fel rhan o’i hymrwymiad parhaus i wella’r broses labelu bwyd i ddefnyddwyr.
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cyhoeddi canllawiau diwygiedig ar gyfer y diwydiant ac awdurdodau gorfodi ar labelu ‘gwlad tarddiad’, fel rhan o’i hymrwymiad parhaus i wella’r broses labelu bwyd i ddefnyddwyr.
Bydd y canllawiau newydd yn fuddiol i ddefnyddwyr gan eu bod yn annog y diwydiant i fabwysiadu arferion labelu cyson. Nod y canllawiau yw helpu busnesau bwyd, gan gynnwys gweithgynhyrchwyr, cynhyrchwyr, manwerthwyr ac arlwywyr, i gydymffurfio â’r gyfraith ac osgoi labelu camarweiniol. Bydd hefyd yn helpu awdurdodau gorfodi i nodi prosesau labelu ‘gwlad tarddiad’ camarweiniol.
Cyflwynir y canllawiau mewn fformat hawdd ei ddefnyddio, a hynny mewn tair rhan ar wahân: y gofynion cyfreithiol y mae’n rhaid eu dilyn ar labeli bwyd; sut i osgoi labelu camarweiniol; a chyngor ar arfer gorau. Yn arbennig, maent yn mynd i’r afael â sut y gellir datgan gwir ‘wlad tarddiad’ bwyd orau ac yn darparu enghreifftiau o ba bryd y byddai angen esbonio lle y caiff cynnyrch ei wneud er mwyn osgoi drysu defnyddwyr.
Mae’r canllawiau diwygiedig yn cynrychioli arfer gorau gwirfoddol i fusnesau’r Deyrnas Unedig.
Mae copi o'r canllawiau ar gael isod (Saesneg yn unig).

Share this with: