Cyngor newydd i ferched beichiog ar lefelau caffein dyddiol
Tuesday 4 November 2008
Heddiw, mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cyhoeddi cyngor newydd ar lefelau caffein dyddiol yn ystod beichiogrwydd. Mae hyn yn dilyn ymchwil a gynhaliwyd ar ran yr Asiantaeth gan Brifysgolion Leeds a Chaerlŷr.
‘Mae pawb am gael y gorau i’w fabi. Mae cyfyngu ar gaffein yn un ffordd o sicrhau bod eich babi yn cael y dechrau gorau i fywyd.’
Cynghorir menywod beichiog i gyfyngu ar eu lefelau caffein dyddiol i lai na 200mg y dydd - tua 2 fwg o goffi y dydd. Mae hyn oherwydd y gall gormod o gaffein achosi i fabi bwyso llai nag y dylai pan gaiff ei eni, a all gynyddu’r perygl ohono’n datblygu rhai cyflyrau iechyd yn y dyfodol. Mae ymchwil hefyd yn dangos y gall lefelau uchel o gaffein achosi i rai menywod golli eu babi. Ceir caffein mewn coffi, te, siocled, rhai diodydd meddal a rhai meddyginiaethau.
Mae’r Asiantaeth wedi pennu uchafswm dyddiol o 300mg yn y gorffennol. Fodd bynnag, mae’r ymchwil newydd, a gyhoeddwyd gan y British Medical Journal heddiw (3 Tachwedd), yn awgrymu y byddai cyfyngiad o 200mg y dydd yn helpu i leihau’r perygl ymhellach.
Meddai’r Athro Janet Cadeo o Brifysgol Leeds: ‘Mae pawb am gael y gorau i’w fabi. Mae cyfyngu ar gaffein yn un ffordd o sicrhau bod eich babi yn cael y dechrau gorau i fywyd.’
Ni ddylai menywod beichiog sydd wedi bod yn dilyn y cyngor blaenorol, gan gyfyngu eu hunain i lai na 300mg o gaffein y dydd, bryderu. Nid yn unig y mae'r perygl yn debygol o fod yn isel iawn, ond dangosodd yr ymchwil hefyd fod y caffein y mae menywod beichiog yn ei gael bob dydd ar gyfartaledd eisoes o dan 200mg, felly ni fydd y cyngor newydd hwn yn effeithio ar lawer o fenywod beichiog. Cynghorir y menywod hynny sy'n cael mwy na 200mg y dydd i beidio â phoeni ac i leihau’r caffein y maent yn ei gael i lai na 200mg y dydd am weddill eu beichiogrwydd.
Meddai Andrew Wadge, Prif Wyddonydd yr ASB: ‘Nid yw’r cyngor newydd hwn yn golygu bod yn rhaid i fenywod beichiog roi’r gorau i gaffein yn gyfan gwbl, dim ond bod yn ofalus a gwneud yn siŵr nad ydynt yn cael gormod. Rydym yn pwysleisio fod y peryglon yn debygol o fod yn fach iawn ac rydym o’r farn bod ein cyngor newydd, sy’n seiliedig ar ymchwil newydd a ystyriwyd gan wyddonwyr annibynnol blaengar, yn synhwyrol ac yn gymesur.’
Ystyriwyd y canfyddiadau hyn a chanlyniadau astudiaethau eraill gan arbenigwyr annibynnol Pwyllgor yr ASB ar Docsinau a gynghorodd yr ASB i ddiwygio ei chyngor ar lefelau caffein dyddiol i fenywod beichiog.
I gael rhagor o wybodaeth, cer i www.eatwell.gov.uk/agesandstages/pregnancy/whenyrpregnant a chlicia ar 'Cymraeg'

Share this with: