EFSA yn tawelu meddyliau ynghylch bwyta porc (diweddariad)
Thursday 11 December 2008
Heddiw, mae Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA) wedi cyhoeddi cyngor ar borc wedi’i halogi â diocsinau.
Mae’r cyngor yn pwysleisio y gellir parhau i fwyta cynhyrchion sy’n cynnwys porc, megis selsig a pizza, ac na ddylai’r rheiny sy’n bwyta porc o Iwerddon yn rheolaidd ofidio am eu hiechyd o ganlyniad i’r digwyddiad hwn.
Ym marn yr EFSA, a geisiwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd ddeuddydd yn ôl, hyd yn oed os ydych wedi bod yn bwyta porc o Iwerddon yn rheolaidd ers yr halogiad cyntaf ar 1 Medi 2008, ni fyddai lefel y diocsin yn eich corff yn peri problem o ran eich iechyd. Yn yr achos hynod annhebygol bod rhywun wedi bod yn bwyta llawer o borc sy’n cynnwys lefelau uchel iawn o’r halogiad, mae’r terfynau diogelwch wythnosol yn ddigon gofalus er mwyn golygu y byddai’n annhebygol iawn i ddioddef unrhyw niwed yn sgil hyn.
Aeth arbenigwyr yr EFSA ati i ystyried sut y mae diocsinau yn crynhoi mewn moch ac yn ein cyrff ni. Mewn bodau dynol, bydd lefelau’r diocsinau yn ein cyrff yn dechrau disgyn cyn gynted ag y byddwn yn bwyta llai o gynhyrchion sy’n cynnwys y cemegau hyn. Nid yw’r lefelau o fraster moch yn y cynhyrchion sy’n cynnwys porc yn ddigon uchel er mwyn effeithio ar iechyd pobl.
Yn ôl Prif Wyddonydd yr ASB, Andrew Wadge: 'Mae’n newyddion da bod EFSA yn gallu datgan mor glir ei bod hi’n iawn bwyta cynhyrchion sy’n cynnwys porc, megis selsig a phastai porc. Mae eu barn arbenigol yn tawelu meddyliau’r rheiny ohonom sy’n mwynhau pryd da o borc rhost.'
Y sefyllfa bresennol yn siopau’r DU
Mae’r rhan fwyaf o fanwerthwyr ac arlwywyr mawr wedi nodi unrhyw gynhyrchion sydd wedi’u halogi â diocsinau, ac wedi’u tynnu oddi ar y silffoedd. Rydym yn gweithio’n galed gyda manwerthwyr i gytuno ar ddyddiad yr wythnos hon pan fydd defnyddwyr yn gallu prynu porc o Iwerddon nad yw’r porthiant wedi’i halogi wedi effeithio arno. Nid yw’r digwyddiad hwn wedi effeithio ar unrhyw borc a chynhyrchion porc sydd wedi’u meithrin, eu lladd a’u prosesu yn gyfan gwbl yng Ngogledd Iwerddon.
Rydym yn cydweithio’n agos â’r awdurdodau yn Iwerddon er mwyn cael gwybod pa bryd y bydd porc sydd heb ei effeithio o ffermydd sydd heb eu heffeithio yn gallu cael eu hail-gyflwyno i’r farchnad fanwerthu.
Os oes gan ddefnyddwyr unrhyw bryderon neu amheuon am ffynhonnell y cynhyrchion porc y maent wedi’u prynu, dylent gysylltu â’r siop lle cawsant eu prynu.
Bydd yr ASB yn parhau i roi diweddariadau rheolaidd pan fydd newyddion newydd yn dod i law.

Share this with: