Bwrdd yr Asiantaeth yn argymell diwygio’r cyngor ar bysgnau
Thursday 11 December 2008
Bydd Bwrdd yr ASB yn argymell i Weinidogion bod cyngor y Llywodraeth ar osgoi pysgnau (peanuts) yn ystod beichiogrwydd, bwydo ar y fron a’r blynyddoedd cynnar, lle mae hanes teulu o alergedd, yn cael ei ddiwygio yn sgil tystiolaeth newydd.
Mae hyn yn dilyn adolygiad o dystiolaeth wyddonol a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor annibynnol ar Wenwyndra (COT) ar y cysylltiad rhwng dod i gyswllt â physgnau yn ystod y blynyddoedd cynnar a datblygu alergedd i bysgnau. Nid yw’r dystiolaeth gyfredol yn cefnogi argymhellion blaenorol y COT.
Y cyngor presennol
Ar hyn o bryd, mae’r Llywodraeth yn argymell, lle bo hanes teulu o alergedd (ar y naill ochr o’r teulu neu’r llall), y dylai mamau osgoi bwyta pysgnau pan fyddant yn feichiog neu’n bwydo ar y fron, ac na ddylent gyflwyno roi pysgnau i’w plentyn tan ei fod yn dair blwydd oed. Mae’r risg yn uwch os oes gan rywun yn eu teulu agos gyflwr alergaidd, er enghraifft clwy’r gwair, fever, asthma, ecsema neu alergedd bwyd.
Yn y gorffennol, roedd pryderon y gallai plant ddatblygu alergedd i bysgnau o ganlyniad i’r ffaith bod mamau yn bwyta pysgnau pan oeddent yn feichiog neu’n bwydo ar y fron. Pan aeth y COT ati ddiwethaf i adolygu’r mater hwn, cafwyd rhywfaint o dystiolaeth i gefnogi’r pryder hwn. Dyma oedd sail y cyngor a gyhoeddwyd ym 1998.
Y dystiolaeth newydd
Nid yw adolygiad newydd y COT yn awgrymu bod y cyngor presennol yn niweidiol i iechyd. Fodd bynnag, mae Bwrdd yr ASB wedi cytuno nad yw’r dystiolaeth sydd ar gael erbyn hyn yn parhau i gefnogi’r cyngor presennol hwn.
Bydd y Bwrdd yn mynd ati i ysgrifennu at Weinidogion i argymell bod cyngor presennol y Llywodraeth yn cael ei ddiweddaru i gyfleu canfyddiadau’r adolygiad hwn. Yn y cyfamser, yn achos grwpiau risg-uchel, nid oes angen i fenywod beichiog, menywod sy’n bwydo ar y fron neu fenywod sydd â phlant dan dair blwydd oed newid eu deiet. Lle bo hanes teulu o alergedd, mae’n bosibl y bydd rhieni am drafod eu hamgylchiadau unigol â’u meddyg teulu neu eu gweithiwr iechyd.
Mae’r Llywodraeth yn cynghori mamau i fwydo ar y fron yn unig am chwe mis cyntaf bywyd y plentyn, ac na ddylent gyflwyno bwyd solet tan fod eu plentyn yn chwe mis oes neu’n hŷn.
Mae rhagor o wybodaeth am feichiogrwydd, bwydo ar y fron a diddyfnu eich babi ar gael yn
www.eatwell.gov.uk/agesandstages/pregnancy/?lang=cy

Share this with: