Diweddariad ar y sefyllfa o ran porc o Iwerddon
Friday 12 December 2008
Yn dilyn cyhoeddiad diweddar yr Asiantaeth Safonau Bwyd nad yw porc o Ogledd Iwerddon wedi’i halogi a’r cadarnhad nad yw’r porthiant wedi’i halogi yn effeithio ar y porc, mae awdurdodau Gweriniaeth Iwerddon wedi rhoi mesurau ar waith i ailddechrau cyflenwi porc a chig moch o Iwerddon.
Yn y DU ac yn Ewrop, mae siopau, gweithgynhyrchwyr ac arlwywyr sy’n gallu olrhain tarddiad unrhyw borc yn uniongyrchol i fferm nad yw wedi’i heffeithio gan y porthiant wedi’i halogi, yn gallu parhau i werthu eu cynhyrchion. Mae hyn yn dilyn cadarnhad gan Awdurdod Diogelwch Bwyd Iwerddon (FSAI) fod gwiriadau yn cael eu cynnal.
Meddai Dr Andrew Wadge, Prif Wyddonydd yr ASB: 'Gall defnyddwyr fod yn dawel eu meddwl bod systemau ar waith systems, felly gallwn fynd ati’n hyderus i brynu porc o Ogledd Iwerddon a bellach o Weriniaeth Iwerddon. Rydym wedi cydweithio â’r diwydiant a’r awdurdodau lleol i sicrhau bod y gwiriadau priodol yn cael eu cynnal.'
Mae’r cyngor hwn heddiw yn dilyn y cyhoeddiad Llywodraeth Iwerddon y penwythnos diwethaf fod diocsinau a PCBau wedi’u darganfod mewn moch a laddwyd yng Ngweriniaeth Iwerddon, a oedd wedi bwyta’r porthiant wedi’i halogi.
Mae diocsinau a PCBau yn gemegau yn yr amgylchedd sy’n gallu mynd i mewn i fwyd. Maent yn gysylltiedig ag ystod o effeithiau ar iechyd pan fydd pobl yn dod i gysylltiad â lefelau cymharol uchel mewn bwyd dros gyfnod hir o amser. Fodd bynnag, cafwyd datganiad ddoe gan Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop i dawelu meddyliau’r rheiny sy’n bwyta porc a chynhyrchion porc yn rheolaidd (gweler y ddolen i’r datganiad isod).
Yng Ngweriniaeth Iwerddon, bydd porc yn dwyn label arbennig. Bydd unrhyw borc ar silffoedd yn y DU wedi’i gymeradwyo ar gyfer ei werthu, p’un a yw’n dwyn label arbennig ai peidio.
Nid oes rhaid cynnal profion ar gynhyrchion megis pizza, brechdanau a sawsiau cig sy’n cynnwys llai nag 20% o borc o Iwerddon, na’u tynnu oddi ar y silffoedd.
Bydd busnesau bwyd yn cynnal profion ar gynhyrchion megis pasteiod porc a selsig, sy’n cynnwys mwy nag 20% o borc o Iwerddon sy’n deillio o ffermydd y mae’r digwyddiad hwn wedi effeithio arnynt, er mwyn sicrhau nad ydynt yn cynnwys lefelau anghyfreithlon o ddiocsinau. Bydd angen i fusnesau bwyd fodloni’u hunain nad yw’r digwyddiad hwn wedi effeithio unrhyw borc sydd ar werth, a phrofi hynny i’r awdurdodau lleol.

Share this with: