ASB yn ailadrodd ei chyngor ar borc o Iwerddon: dyma’r diweddaraf
Tuesday 9 December 2008
Heddiw, mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn ailadrodd ei chyngor ar gynhyrchion porc o Iwerddon o ganlyniad i ymchwiliadau sy’n mynd rhagddynt.
Mae’r ASB wrthi’n cynghori defnyddwyr i beidio â bwyta porc, neu gynhyrchion lle mai porc yw’r prif gynhwysyn, gyda Gweriniaeth Iwerddon neu Ogledd Iwerddon wedi’u nodi ar y label. Mae hyn yn cynnwys bwydydd megis selsig, cig moch, salami a ham.
Yn dilyn ymholiadau pellach gan Awdurdod Diogelwch Bwyd Iwerddon (FSAI), cadarnhawyd mai dim ond deg o ffermydd moch yng Ngweriniaeth Iwerddon a gyflenwyd gyda phorthiant wedi’i halogi â diocsinau. Mae moch o’r ffermydd hyn wedi’u cyflenwi i bedwar prosesydd.
Meddai Dr Andrew Wadge, Prif Wyddonydd yr ASB: 'Mae’r risg i ddefnyddwyr y DU yn isel iawn. Byddai gofyn i chi fwyta llawer iawn o’r cemegyn dros gyfnod hir o amser cyn iddo beri unrhyw risg i’ch iechyd.'
Ar hyn o bryd, mae’r ASB yn cynghori:
- Manwerthwyr ac arlwywyr i beidio â gwerthu unrhyw gynhyrchion porc a weithgynhyrchwyd o 1 Medi 2008 yng Ngweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon.
- Gweithgynhyrchwyr i beidio â defnyddio porc o gynhyrchion a weithgynhyrchwyd o 1 Medi 2008 yng Ngweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon.
Fodd bynnag, os gall siopau ac arlwywyr ddangos nad yw’r digwyddiad hwn yn effeithio ar eu cynnyrch, gellir ei werthu.
Mae’r Asiantaeth yn parhau i fonitro’r sefyllfa ac mae’n cydweithio’n agos â’r awdurdodau perthnasol yng Ngweriniaeth Iwerddon.
I gael rhagor o wybodaeth am ddiocsinau, ewch i www.eatwell.gov.uk/healthissues/factsbehindissues/dioxins/?lang=cy

Share this with: