Bwyd Mwy Diogel yn Golygu Gwell Busnes ar gyfer GBB yng Nghymru
Friday 14 March 2008
Mae Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru wedi bod yn gweithio gydag Awdurdodau Lleol ledled Cymru i helpu busnesau arlwyo bach megis bwytai, caffis a safleoedd tecawê i gydymffurfio â rheoliadau hylendid bwyd ac i sicrhau fod y bwyd sy’n cael ei weini yn ddiogel i gwsmeriaid ei fwyta.
Mae’r Asiantaeth wedi noddi gweithdai ledled Cymru i hyfforddi gweithredwyr busnesau bwyd (GBB) ar “Safer Food Better Business”, sef canllaw yr Asiantaeth i reoli diogelwch bwyd. Hyd yma, mae tua 650 o sefydliadau sy’n trin a thrafod bwyd wedi mynychu 38 o weithdai, gan gynnwys sesiynau arbenigol wedi’u targedu at berchenogion bwytai De Ddwyrain Asia a Tsieinïaidd.
Meddai Jane Davies, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Gorfodi Awdurdodau Lleol, ASB Cymru, “Mae’r gweithdai hyn wedi atgyfnerthu’r neges a nodir yn y pecynnau “Safer Food Better Business” ac wedi codi ymwybyddiaeth ymysg gweithredwyr busnesau bwyd o’r camau y mae gofyn iddynt eu cymryd i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r rheoliadau hylendid bwyd ac i gynllunio a gweithredu system rheoli diogelwch bwyd ddigonol. Mae’r pecynnau a’r gweithdai yn cyflwyno negeseuon mewn modd ymarferol a hawdd ei deall er mwyn cynorthwyo gweithredwyr i oresgyn unrhyw broblemau a all godi wrth geisio deall y gofynion cyfreithiol. Bydd hefyd yn sicrhau eu bod yn gwybod sut i baratoi bwyd yn ddiogel, hyfforddi eu staff yn ddigonol ac wrth wneud hynny, diogelu enw da eu busnesau.”
Bwriedir cynnal gweithdai pellach yn ddiweddarach eleni.

Share this with: